Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: cyfnod atal byr cenedlaethol y coronafeirws i gael ei gyhoeddi yng Nghymru ddydd Gwener; yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd; a diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion.
Cyfnod atal byr cenedlaethol y coronafeirws i gael ei gyhoeddi yng Nghymru ddydd Gwener
Bydd y cyfnod atal byr yn dechrau am 6pm ddydd Gwener 23 Hydref ac yn dod i ben ddydd Llun 9 Tachwedd. Bydd yn berthnasol i bob un sy'n byw yng Nghymru a bydd yn dod yn lle'r cyfyngiadau lleol sydd ar waith ar hyn o bryd mewn rhai rhannau o'r wlad.
- Ar wahân i ddibenion cyfyngedig iawn, er enghraifft i gael ymarfer corff, rhaid i bobl aros gartref
- Rhaid i bobl weithio gartref lle bynnag y bo hynny'n bosibl
- Ni fydd hawl gan bobl ymweld â chartrefi eraill na chyfarfod â phobl nad ydynt yn byw gyda nhw, o dan do nac yn yr awyr agored
- Ni fydd hawl gan bobl ymgynnull yn yr awyr agored, er enghraifft i ddathlu Calan Gaeaf neu noson tân gwyllt nac ar gyfer unrhyw weithgareddau eraill a drefnwyd
- Rhaid i bob busnes nad yw'n gwerthu bwyd, busnes lletygarwch, gan gynnwys caffis, bwytai a thafarndai (oni bai eu bod yn darparu gwasanaeth cludfwyd), gwasanaethau cysylltiad agos, fel siopau trin gwallt a harddwch, a digwyddiadau a busnesau twristiaeth, fel gwestai, gau
- Bydd rhaid i ganolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu gau
- Bydd rhaid gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, a fydd yn aros ar agor, gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn tacsis.
Yn ystod y cyfnod hwn:
- Bydd oedolion sy'n byw ar eu pennau eu hunain neu rieni sengl yn gallu ymuno ag un cartref arall i gael eu cefnogi
- Bydd ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig yn ailagor fel arfer ar ôl y gwyliau hanner tymor
- Bydd ysgolion uwchradd yn ailagor ar ôl y gwyliau hanner tymor ar gyfer plant blynyddoedd saith ac wyth a phlant sydd fwyaf agored i niwed. Bydd disgyblion yn gallu dod i'r ysgol i sefyll arholiadau ond bydd disgyblion eraill yn parhau i ddysgu gartref am wythnos arall
- Bydd prifysgolion yn darparu cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb ac ar lein
- Bydd y GIG a gwasanaethau iechyd yn parhau i weithredu
- Bydd parciau lleol, mannau chwarae a champfeydd yn yr awyr agored yn aros ar agor
Bydd busnesau y mae'r cyfnod atal yn effeithio arnynt yn cael eu cefnogi gan gronfa newydd gwerth £300m, a fydd yn agor yr wythnos nesaf:
- Bydd pob busnes a gwmpesir gan y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn cael taliad o £1,000
- Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch bach a chanolig eu maint, y mae rhaid iddynt gau, yn cael taliad untro o hyd at £5,000
- Bydd grantiau dewisol ychwanegol a chymorth i fusnesau llai hefyd, sy'n cael pethau'n anodd
- Bydd y gronfa o £80m a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf i helpu busnesau i ddatblygu yn y tymor hwy yn cynyddu i £100m, sy'n cynnwys £20m sydd wedi'i neilltuo ar gyfer twristiaeth a lletygarwch
Cyfnod atal y coronafeirws cwestiynau cyffredin:
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf
#CadwCaerdyddynDdiogel #CadwCymrunDdiogel
Dilynwch y canllawiau:
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:
18 Hydref
Achosion: 978
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 266.6 (Cymru: 128.2 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 5,167
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,408.3
Cyfran bositif: 18.9% (Cymru: 11.9% cyfran bositif)
Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:
https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers
Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion 15 Hydref 2020
Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd
Cadarnhawyd bod aelod o staff yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd wedi profi'n bositif am COVID-19. Mae 9 o ddisgyblion Cyfnod Allweddol 3 a 2 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu henwi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Uwchradd Cathays
Mae dau achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau ymysg disgyblion Blwyddyn 8 yn Ysgol Uwchradd Cathays. Mae 168 o ddisgyblion wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd. Nid oes angen i unrhyw aelodau o staff hunanynysu gan fod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith.
Ysgol Uwchradd Gatholig y Fair Ddihalog
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau ymysg disgyblion Blwyddyn 10 yn Ysgol Uwchradd Gatholig y Fair Ddihalog. Mae 125 o ddisgyblion wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd. Cynghorwyd un aelod o staff i hunanynysu fel rhagofal tra bod asesiad llawn yn cael ei gynnal.
Ysgol Uwchradd Yr Eglwys Newydd
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau ymysg disgyblion Blwyddyn 9 yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd. Mae 32 o ddisgyblion wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd. Nid oes angen i unrhyw aelodau o staff hunanynysu gan fod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith.
Ysgol Uwchradd Willows
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau ymysg disgyblion Blwyddyn 11 yn Ysgol Uwchradd Willows. Mae 31 o ddisgyblion wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd. Nid oes angen i unrhyw aelodau o staff hunanynysu gan fod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith.
Ysgol Gynradd Bryn Hafod
Cadarnhawyd bod aelod o staff ym meithrinfa'r bore Ysgol Bryn Hafod wedi profi'n bositif am COVID-19. Mae 28 o blant ym meithrinfa'r bore a thri aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos â'r achos COVID-19 a gadarnhawyd. Bydd 12 o blant meithrin y prynhawn yn dychwelyd ar ôl hanner tymor, oherwydd bod staff yn gorfod hunanynysu.
Ysgol Gynradd Creigiau
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau ymysg disgyblion Blwyddyn 5 yn Ysgol Gynradd Creigiau. Mae 26 o ddisgyblion ac 1 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Danescourt
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau ymysg disgyblion Blwyddyn 2 yn Ysgol Gynradd Daanescourt. Mae 61 o ddisgyblion a saith aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Pencaerau
Cadarnhawyd bod aelod staff yn achos positif o COVID-19 yn Ysgol Gynradd Pencaerau. Mae 30 o ddisgyblion Blwyddyn 5 a pedwar aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu henwi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Radur
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau ymysg disgyblion Blwyddyn 4 yn Ysgol Gynradd Radur. Mae 58 o ddisgyblion ac un aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Stacey
Cadarnhawyd bod aelod staff yn achos positif o COVID-19 yn Ysgol Gynradd Stacey. Mae 26 o ddisgyblion Blwyddyn 2 a'r aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Gatholig Cadog Sant
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau ymysg disgyblion Blwyddyn 4 yn Ysgol Gynradd Gatholig Cadog Sant. Mae 31 o ddisgyblion a dau aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru'r Forwyn Fair
Mae disgybl Blwyddyn 5 yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru'r Forwyn Fair wedi profi'n bositif am COVID-19. Mae 28 o ddisgyblion a thri aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Gatholig Sant Philip Evans
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau ymysg disgyblion Blwyddyn 1 yn Ysgol Gynradd Gatholig Sant Philip Evans. Mae 46 o ddisgyblion ac un aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Draenen Pen-y-graig
Mae disgybl Blwyddyn 1 yn Ysgol Gynradd Draenen Pen-y-graig wedi profi'n bositif am COVID-19. Mae 59 o ddisgyblion a phedwar aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Willowbrook
Cadarnhawyd bod aelod o staff yn Ysgol Gynradd Willowbrook wedi profi'n bositif am COVID-19. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynghori 60 o ddisgyblion a phum aelod o staff i hunanynysu tra bo'r broses olrhain cysylltiadau yn cael ei dilyn. Cysylltir â'r rhai a nodwyd fel cysylltiadau agos â'r achos COVID-19 a gadarnhawyd maes o law, gyda chyngor i hunanynysu am 14 diwrnod.