The essential journalist news source
Back
9.
October
2020.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 9 Hydref

Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: achosion a phrofion Caerdydd; diweddariad ar ysgolion a effeithiwyd gan COVID-19; casgliadau gwastraff gardd gwyrdd wedi'u hatal dros fisoedd y gaeaf; gwelliannau yn ansawdd aer Caerdydd; galwad ar drigolion Caerdydd i ymuno â'r her 'Un Blaned'; animeiddiad o wasanaeth dydd y ddinas am brofiadau iechyd meddwl; a gall gwasanaeth cerdd ysgolion ailddechrau.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf

#CadwCaerdyddynDdiogel #CadwCymrunDdiogel

Dilynwch y canllawiau:

www.caerdydd.gov.uk/Cyfnodclo

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

8 Hydref

Achosion: 546

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 148.8

Achosion profi: 5,556

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,514.3

Cyfran bositif: 9.8%

 

Diweddariad ar ysgolion a effeithiwyd gan COVID-19: Dydd Gwener 9 Hydref

Ysgol Uwchradd y Dwyrain

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain. Mae 21 o ddisgyblion Blwyddyn 9 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.  Nid effeithiwyd ar unrhyw aelodau staff oherwydd mesurau ymbellhau cymdeithasol.

Ysgol Bro Edern

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Bro Edern. Mae 33 o ddisgyblion Blwyddyn 9 a dau aelod staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Gynradd Pencaerau

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Pencaerau. Mae 28 o ddisgyblion Blwyddyn 2 a dau aelod staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

 

Casgliadau gwastraff gardd gwyrdd wedi'u hatal dros fisoedd y gaeaf

Bydd casgliadau ar gyfer gwastraff gardd ledled Caerdydd yn cael eu hatal am bedwar mis er mwyn helpu'r Cyngor i ddelio â'r pandemig COVID-19 parhaus, ac i sicrhau y gellir parhau i gynnal casgliadau gwastraff, ailgylchu a gwastraff bwyd cyffredinol.

Bydd y casgliadau gwastraff gardd unwaith y mis, sydd fel arfer yn digwydd ym mis Tachwedd, Rhagfyr, Ionawr a Chwefror, yn cael eu hatal, er y bydd modd casglu coed Nadolig trigolion rhwng 4 Ionawr ac 11 Ionawr.

Bydd casgliadau gwastraff gardd bob pythefnos mis Hydref yn parhau fel arfer. Dylai hyn ganiatáu i drigolion gael gwared ar unrhyw ddail sy'n cwympo yn yr hydref a chlirio unrhyw wastraff gardd cyn y gaeaf.

Bydd casgliadau'r gwanwyn yn dechrau ym mis Mawrth pan fydd y Cyngor yn bwriadu ail-gyflwyno casgliadau gwastraff gardd bob pythefnos. Roedd casgliadau mis Mawrth arfer bod yn fisol.

Bydd dal modd i drigolion dod â gwastraff gwyrdd i ganolfannau ailgylchu'r ddinas yn Ffordd Lamby a Chlos Bessemer.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd: "Mae angen i ni fod yn hyderus y gallwn barhau i gael gwared ar wastraff cyffredinol, ailgylchu a gwastraff bwyd o'n strydoedd ac mae'r cynnydd diweddar mewn cyfraddau heintio ledled y ddinas yn peri pryder. Mae eisoes yn dechrau effeithio ar ein gweithlu.

"Ar hyn o bryd mae angen targedu ein hadnoddau at ffrydiau gwastraff nad oes neb am eu gweld ar y strydoedd. Atal casgliadau gwastraff gardd ar adeg o'r flwyddyn pan fo gwastraff gardd yn naturiol yn sylweddol is, yw ein cyfle gorau i sicrhau y gallwn gadw ein strydoedd yn lân wrth i ni frwydro yn erbyn y pandemig. Bydd y cam hwn yn rhoi rhywfaint o wydnwch i'n staff rheng flaen. Rwy'n sylweddoli y gallai hyn fod yn heriol i rai trigolion, ond rwy'n gobeithio eu bod yn deall y rhesymau pam mae'n rhaid i ni wneud hyn nawr."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24918.html

 

Gwelliannau yn ansawdd aer Caerdydd

Mae Caerdydd yn dathlu Diwrnod Aer Glân heddiw gyda'r newyddion, yn seiliedig ar ganlyniadau dros dro, y bu gostyngiad sylweddol mewn lefelau Nitrogen Deuocsid (NA2) ledled y ddinas.

Mae effaith Covid, llai o draffig ar y ffyrdd yn gyffredinol, a mwy o bobl yn dewis cerdded a beicio, wedi gweld lefelau Nitrogen Deuocsid (NA2) yn gostwng 52% yng nghanol y ddinas rhwng mis Mai a mis Awst eleni, o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

Mae'r data hefyd yn dangos, er bod lefelau traffig yn codi eto ar ôl y cyfnod cloi cynnar, bod lefelau ansawdd aer wedi gwella ym mhob safle profi ledled y ddinas o gymharu â'r un data o 2019.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Rydym wedi bod yn monitro'n agos y data llif traffig ac ansawdd aer ledled y ddinas i asesu effaith y pandemig a chau Stryd y Castell i gerbydau modur.

"Fel y byddech yn disgwyl mae'r darganfyddiadau hyn yn dangos bod ansawdd aer wedi gwella'n sylweddol yng nghanol y ddinas eleni, ond yn holl bwysig mae hefyd wedi gwella ym mhob rhan o'r ddinas o gymharu â llynedd, hyd yn oed yn ystod y misoedd ar ôl y cyfnod cloi cychwynnol.  Yn syml, mae llai o deithiau car yn cael eu cynnal, ac mae mwy o deithiau beic a cherdded yn digwydd."

Cyn digwyddiadau eleni fe wnaeth arolwg annibynnol a gomisiynwyd gan y Cyngor ragweld, pe bai pethau'n parhau fel ag y maent, yna byddai lefelau llygredd NO2 yn y dyfodol yn torri terfynau cyfreithiol yr UE y tu hwnt i 2021, gyda ffyrdd eraill cyfagos hefyd yn destun pryder. Am y rheswm hwn, roedd gan y cyngor eisoes gynlluniau ar gyfer Stryd y Castell a fyddai'n lleihau llif traffig.

Mae'r Cyngor yn ystyried opsiynau i ailagor Stryd y Castell. Bydd yn rhaid i'r rhain ystyried gofynion aer glân Cyfarwyddyd Cyfreithiol Llywodraeth Cymru i leihau lefelau llygredd ar y stryd. Bydd dewisiadau ail-agor hefyd yn ystyried dulliau o sicrhau y gellir parhau i ddilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol ar Stryd y Castell.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24933.html

 

Galwad ar drigolion Caerdydd i ymuno â'r her 'Un Blaned'

Datgelwyd cynllun newydd uchelgeisiol gan Gyngor Caerdydd i yrru'r ddinas tuag at ddod yn ddinas niwtral o ran carbon erbyn 2030.

Mae 'Caerdydd Un Blaned' yn amlinellu ymateb y Cyngor i argyfwng y newid yn yr hinsawdd ac yn galw ar fusnesau a thrigolion i ymuno ag ef i wneud y newidiadau sydd eu hangen i'n ffordd o fyw, os yw prifddinas Cymru am ddod yn ddinas wirioneddol 'Werdd' a chynaliadwy dros y deng mlynedd nesaf.

Mae'r strategaeth, a fydd yn mynd i Gabinet Cyngor Caerdydd i'w chymeradwyo ddydd Iau, 15 Hydref, yn cael ei lansio yn yr un mis ag y mae'r Cyngor yn cynnau ei fferm solar 9MW newydd.

Wedi'i adeiladu ar hen safle tirlenwi Ffordd Lamby,  bydd y fferm solar - sy'n cyfateb o ran maint i 20 o gaeau Stadiwm y Principality - yn gwrthbwyso bron i 3,000 tunnell o Garbon Deuocsid (CO2). Mae ganddi hefyd y gallu i gynhyrchu digon o ynni gwyrdd i bweru tua 2,900 o gartrefi bob blwyddyn am 35 mlynedd.

Dim ond un o gyfres o brojectau a amlinellwyd ar gyfer ymgynghoriad yn y strategaeth Un Blaned yw'r fferm solar gan gynnwys:

 

  • Cynllun gwresogi ardal newydd;
  • Cynyddu faint o orchudd o goed sydd yn y ddinas gan 25%;
  • Rhoi terfyn ar ddefnydd y cyngor o blastigau untro;
  • Ailagor camlesi canol y ddinas fel rhan o gynllun rheoli dŵr cynaliadwy;
  • Parc fferm yn Fferm y Fforest i gynhyrchu bwyd i'r ddinas; a
  • Marchnad fwyd gynaliadwy ym marchnad Caerdydd

 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24942.html

 

Animeiddiad o wasanaeth dydd y ddinas am brofiadau iechyd meddwl

Mae grŵp o unigolion o wasanaeth dydd iechyd meddwl Caerdydd wedi cynhyrchu animeiddiadsy'n adlewyrchu eu profiadau eu hunain o gyflyrau iechyd meddwl.

Ariennir y project, 'Tu Hwnt i'r Label' gan y Loteri Genedlaethol ac mae'n gydweithrediad gyda Gwasanaeth Allgymorth Iechyd Meddwl Tŷ Canna Cyngor Caerdydd a Breath Creative.

Dan y teitl 'Diamond', cynhyrchwyd y fideo dros gyfnod o dri mis, rhwng Mai a Gorffennaf 2020, gydag wyth unigolyn sy'n ymgysylltu â'r gwasanaeth yn cael sesiynau ar-lein wythnosol gyda hwyluswyr i greu gwaith celf ac ysgrifennu ar gyfer yr animeiddiad.

Bu cyfranwyr hefyd yn gweithio gyda'r cyfansoddwr a'r artist sain John Rea i greu darnau sain unigol ohonynt eu hunain yn adrodd eu barddoniaeth, weithiau'n canu ac yn chwarae offerynnau. Defnyddiwyd y casgliad o waith gan Jane Hubbard i greu'r animeiddiad.

Mae Tŷ Canna yn cynnig cymorth iechyd meddwl un-i-un i bobl ledled y ddinas ac mae wedi bod yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau ar-lein yn ystod y pandemig i helpu unigolion i deimlo'n llai ynysig, fel gweithdai iechyd meddwl, dosbarthiadau Ffrangeg, ioga a sgiliau coginio.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore: "Mae'r ystod eang o gymorth sydd ar gael gan staff Tŷ Canna, ei wirfoddolwyr a'i bartneriaid yn cael eu gwerthfawrogi gennym ni i gyd, yn enwedig yn y cyfnod heriol hwn. Mae canlyniad y project hwn yn deimladwy iawn ac yn gyflawniad gwych gan bawb dan sylw."

Mae'r cydweithrediad â Breathe Creative yn defnyddio dull 'cyd-greadigol' sy'n cynnig amgylchedd diogel a therapiwtig i ymgysylltu â'r celfyddydau a gwella llesiant drwy fynegiant creadigol.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24923.html

 

Gall gwasanaeth cerdd ysgolion ailddechrau

Bydd gwersi cerddoriaeth mewn ysgolion yn ailddechrau y mis hwn ar ôl iddynt gael eu canslo dros dro oherwydd COVID-19.

Mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn gweithio'n agos gyda Gwasanaeth Cerdd Sir Caerdydd a Bro Morgannwg i baratoi ar gyfer ailddechrau gwersi cerddor yn ddiogel mewn ysgolion.

Mae cyfres o fesurau iechyd a diogelwch, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, bellach ar waith i helpu i gadw plant, tiwtoriaid a chymunedau ysgol yn ddiogel tra'n lleihau'r risg o ledaeniad COVID-19.

Mae hyn yn cynnwys addasiadau i'r ffordd y caiff gwersi eu cyflwyno, canllawiau newydd i diwtoriaid, mesurau ymbellhau cymdeithasol a gwell prosesau hylendid.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Bu'n rhaid cymryd gofal wrth ailddechrau'r Gwasanaeth Cerdd er mwyn sicrhau diogelwch disgyblion a staff ac mae paratoadau wedi amrywio o ysgol i ysgol, yn dibynnu ar y gofod a'r capasiti unigol."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24940.html