The essential journalist news source
Back
8.
October
2020.
Animeiddiad o wasanaeth dydd y ddinas am brofiadau iechyd meddwl

 

8/10/2020

Mae grŵp o unigolion o wasanaeth dydd iechyd meddwl Caerdydd wedi cynhyrchu animeiddiadsy'n adlewyrchu eu profiadau eu hunain o gyflyrau iechyd meddwl.

Ariennir y project, 'Tu Hwnt i'r Label' gan y Loteri Genedlaethol ac mae'n gydweithrediad gyda Gwasanaeth Allgymorth Iechyd Meddwl Tŷ Canna Cyngor Caerdydd a Breath Creative.

Dan y teitl 'Diamond', cynhyrchwyd y fideo dros gyfnod o dri mis, rhwng Mai a Gorffennaf 2020, gydag wyth unigolyn sy'n ymgysylltu â'r gwasanaeth yn cael sesiynau ar-lein wythnosol gyda hwyluswyr i greu gwaith celf ac ysgrifennu ar gyfer yr animeiddiad.

Bu cyfranwyr hefyd yn gweithio gyda'r cyfansoddwr a'r artist sain John Rea i greu darnau sain unigol ohonynt eu hunain yn adrodd eu barddoniaeth, weithiau'n canu ac yn chwarae offerynnau. Defnyddiwyd y casgliad o waith gan Jane Hubbard i greu'r animeiddiad.

Mae Tŷ Canna yn cynnig cymorth iechyd meddwl un-i-un i bobl ledled y ddinas ac mae wedi bod yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau ar-lein yn ystod y pandemig i helpu unigolion i deimlo'n llai ynysig, fel gweithdai iechyd meddwl, dosbarthiadau Ffrangeg, ioga a sgiliau coginio.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore: "Mae'r ystod eang o gymorth sydd ar gael gan staff Tŷ Canna, ei wirfoddolwyr a'i bartneriaid yn cael eu gwerthfawrogi gennym ni i gyd, yn enwedig yn y cyfnod heriol hwn. Mae canlyniad y project hwn yn deimladwy iawn ac yn gyflawniad gwych gan bawb dan sylw."

Mae'r cydweithrediad â Breathe Creative yn defnyddio dull 'cyd-greadigol' sy'n cynnig amgylchedd diogel a therapiwtig i ymgysylltu â'r celfyddydau a gwella llesiant drwy fynegiant creadigol.

Mae Breathe Creative yn cynnig projectau celfyddydau cyd-greadigol ar gyfer llesiant, gweithdai a hyfforddiant mewn Cerddoriaeth a Llais, Celfyddydau Gweledol a Chrefftau, Dawns, Drama, Ysgrifennu Creadigol, Ffilm ac Animeiddio.

Maent hefyd yn cynnig dulliau creadigol ar gyfer datblygu cymunedol, gan weithio gyda chymunedau a sefydliadau i hyrwyddo a chefnogi newid cadarnhaol.

Mae'r project wedi bod o fudd i unigolion sy'n ymgysylltu â gwasanaethau Tŷ Canna, gyda nifer o gyfranwyr yn rhannu adborth ynghylch sut y mae'r broses greadigol wedi gwella eu hiechyd meddwl.

Dywedodd Jen, cyfrannwr: "Rwy'n teimlo fy mod wedi agor go iawn yn ystod y broses hon. Mae fy nghreadigrwydd mewnol wedi'i ddatgloi. Roedd ysgrifennu, o fewn ychydig funudau, yn dod â'r hyn sy'n amrwd i'r wyneb, yr hyn yr oedd angen i mi ei ddweud o f'enaid. Roedd yn gathartig."

Bu cyfrannwr arall, Judith, hefyd yn myfyrio ar sut y mae'r project wedi gwella ei hyder: "Adeiladodd ar fy hunanhyder, gan ein bod i gyd yn tueddu i rannu'r hyn rydym wedi'i ysgrifennu.  Fel arfer, rwy'n casáu siarad cyhoeddus ond mae ei wneud dros Zoom yn helpu'n wirioneddol oherwydd ein bod yn ei wneud yn ein hamgylchoedd ein hunain ond yn dal i gysylltu ag eraill."

Siaradodd un o'r cyfranwyr, Maddy, am y gwasanaeth y mae Tŷ Canna yn ei gynnig: "Pan ofynnwyd i mi ysgrifennu amdanaf fy hun, rwy wastad yn ei chael hi'n anodd, felly yn lle hynny meddyliais y buaswn i'n rhannu ychydig gyda chi am Dŷ Canna. Mae'r gwasanaeth hwn yn llinell bywyd i mi a llawer o bobl eraill ag anawsterau iechyd meddwl. Gwnaeth Tŷ Canna y project creadigol hwn yn bosibl. Mae pobl sydd wedi cael eu hatgyfeirio yma yn rhannu cefnogaeth, empathi a dealltwriaeth fawr gyda'i gilydd, mae hynny'n amhrisiadwy. Mae grwpiau'n helpu i fagu hyder, i weithredu fel gwrthdyniad, gellir dysgu sgiliau, rhannu dulliau ymdopi ac mae'r gwasanaeth yn hafan ddiogel i mi. Yn aml byddwn yn gwneud ffrindiau gwych. Mae'r staff yn gefnogol, maent yn aml wedi bod trwy ysgol brofiad, ac mae pawb yn dathlu cyflawniadau bach sy'n aml yn cael eu colli o ran pwysau bywyd cyfoes."

I wylio'r fideo llawn ar YouTube Cyngor Caerdydd, ewch i:https://youtu.be/iqd3yK2HJqw

 

Cyfranwyr Tŷ Canna: Jen, Judith, Nick, Sarah, Mandy, Maddy, Ellie, Kate

Hwyluswyr: Katja Stiller a Sarah Featherstone

Animeiddiad: Jane Hubbard

Cyfansoddwr ac Artist Sain: John Rea