6/10/20
Mae'r gwaith o adeiladu 16 o gartrefi newydd i gynyddu cyflenwad y ddinas o dai fforddiadwy ar fin dechrau.
Mae Cyngor Caerdydd wedi penodi Encon Construction i ddatblygu safle hen ganolfan cadetiaid ATC ar Caldicot Road yng Nghaerau. Bydd y safle'n cynnwys chwe fflat un ystafell wely, saith tŷ dwy ystafell wely, dau dŷ tair ystafell wely ac un tŷ pedair ystafell wely.
Mae'r cynllun yn rhan o raglen datblygu tai'r Cyngor, sydd â'r nod o adeiladu mwy na 1,000 o gartrefi cyngor newydd yn y ddinas erbyn 2022, a chyfanswm o 2,000 o gartrefi newydd yn y blynyddoedd i ddod. Bydd pob un o'r 16 cartref ar gael i'w rhentu oddi wrth y Cyngor.
Cartrefi Cyngor yn Llaneirwg
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:"Bydd Caldicot Road yn darparu cymysgedd da o gartrefi cyngor newydd gan helpu i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy o ansawdd da yn y ddinas.
"Bydd y tai'n cael eu hadeiladu i safonau uchel o gynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ynni mewn ardal lle mae angen mwy o dai cymdeithasol arnom. Mae tua 7,700 o bobl ar y rhestr aros am dai ar hyn o bryd, gyda llawer yn aros am gartrefi teuluol mwy, felly mae'n dda cael amrywiaeth o eiddo sy'n bodloni anghenion ein cymunedau."
Dywedodd Antonia John, Rheolwr Datblygu Busnes a Chyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol yn Encon Construction: "Mae Encon Construction yn falch iawn o gael y contract yn Caldicot Road, er mwyn adeiladu tai fforddiadwy y mae mawr eu hangen yng Nghaerdydd.
"Fel contractwr o Gymru sydd â phencadlys yng Nghaerdydd, mae hwn yn gyfle gwych i fod yn bartner â Chyngor Caerdydd er mwyn cyfrannu at y cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghaerdydd."
Hefyd, mae Strongs Partnerships Ltd, Le Trucco Design ac Intrado Ltd yn ymwneud â datblygu'r safle. Disgwylir i'r cartrefi newydd gael eu cwblhau erbyn hydref 2021.