The essential journalist news source
Back
6.
October
2020.
"Y daith fwyaf gwerth chweil"

6/10/20 

 

Mae actor o Gaerdydd, sy'n fwy cyfarwydd â throedio'r byrddau ac o dan y goleuadau teledu nag â gyrfa ym maes gofal cymdeithasol, yn hyrwyddo ei rôl newydd fel gweithiwr gofal cartref.

 

Mae Bill Bellamy, un o sefydlwyr Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru a hyfforddodd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn y ddinas, wedi disgrifio ei brofiad o fod yn weithiwr gofal yn y ddinas yn ystod argyfwng COVID-19 fel "un o'r teithiau mwyaf gwerth chweil a fues i arni ers blynyddoedd lawer."

 

Yn ôl yn y gwanwyn, ymatebodd Bill i un o apeliadau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor i recriwtio mwy o weithwyr gofal i'r rôl, ar adeg pan oedd y sector yn wynebu rhai o'i heriau mwyaf erioed i ofalu am bobl oedrannus a bregus yn ein dinas, ac amddiffyn pobl oedrannus ac agored i niwed yn ein dinas yn ogystal â chadw staff yn ddiogel.

 

Ar ôl cofrestru gyda Caerdydd ar Waith, asiantaeth recriwtio mewnol y Cyngor ei hun, cefnogwyd Bill drwy'r gwahanol gyrsiau a chymwysterau yr oedd eu hangen arno i fod yn weithiwr gofal gan wasanaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned y Cyngor, sydd hefyd yn cynnig hyfforddiant i mewn i waith i gefnogi pobl i gael gwaith.

 

Mae Bill bellach yn gweithio fel gweithiwr gofal yn y gymuned, yn darparu gofal i bobl yn eu cartrefi eu hunain.

 

Dywedodd: "Wrth i bandemig y Covid-19 ein taro, trodd meddyliau, ac yn sicr fy meddwl i, at ystyried beth y gallwn ei wneud i helpu fy ninas yn ei chyfnod o angen. Diflannodd y diwydiant y bues i'n gweithio ynddo ers dros ddeng mlynedd ar hugain yn llwyr heb fawr o obaith y byddai'n dechrau eto'n fuan, felly bues yn ffodus fod y Cyngor wedi galw am gymorth ar yr union adeg iawn.

"Ychydig ddyddiau ar ôl i mi ateb yr alwad ar Twitter, dechreuodd corwynt o wythnosau lle, ynghyd â dwsin o wirfoddolwyr eraill, ces fy hyfforddi, a'r Cyngor yn talu.

 

"Rwyf wedi cwblhau cyrsiau ym maes hylendid bwyd a pharatoi bwyd, diogelu, dysgu am ddementia ac yn gyffredinol sut i amddiffyn pobl sy'n agored i niwed. Mynychais Gwrs Codi a Chario hefyd a oedd yn hyfforddiant dwys ond gwerthfawr iawn lle cawsom wybod sut i godi pobl yn gywir a sut i roi pobl yn eu gwelyau, helpu cleientiaid i symud yn ddiogel o amgylch eu cartrefi a defnyddio teclynnau codi a slingiau.

 

"Dilynwyd hynny gan cwpl o gyrsiau dysgu o bell ar Reoli Heintiau, Cymorth Cyntaf a Goruchwylio Meddyginiaethau a dechreuais sylweddoli faint o arian ac ymdrech yr oedd y Cyngor wedi'i fuddsoddi ynof fi.

 

"Yr un peth nad oedd gen i oedd profiad yn y gymuned felly mi wnes i rywfaint o waith 'cysgodi' gyda gofalwyr medrus am ychydig wythnosau. Byddaf bob amser yn ddiolchgar i Roy, Marianne, Tara a Louise am iddynt ddangos hyd a lled y gwaith i mi ac ymdriniom â myrdd o gleientiaid, pob un â'i anghenion penodol ei hun.

 

"Ni ddywedaf fyth nad af nôl i fywyd ym myd y Celfyddydau ond, ar hyn o bryd rwy'n mwynhau gwneud gwahaniaeth yn fy nhref i fy hun. Rwy'n dysgu drwy'r amser. 

 

"Mae swydd gweithiwr gofal cartref yn sicr yn fwy heriol nag y byddwn i erioed wedi meddwl ond mae hefyd yn fwy gwerth chweil o lawer. Rwy'n ffodus bod amgylchiadau mor anarferol wedi rhoi cipolwg i mi ar gangen o waith Cyngor Caerdydd, sy'n aml yn cael ei hanwybyddu a'i thanbrisio."

 

Mae gweithlu'r Cyngor, ynghyd â'r darparwyr gofal cymdeithasol a gomisiynwyd ganddo, wedi rhoi dros 600,000 awr o ofal cartref yn ddiogel i oedolion a phlant ers dechrau'r pandemig, ac wedi parhau i gefnogi oedolion a phlant mewn cartrefi gofal a llety byw â chymorth yn ystod y cyfnod heriol hwn. Cafodd dros 150 o staff y Cyngor eu hadleoli o'u rolau arferol i gefnogi gwasanaethau rheng flaen ar draws y gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion a phlant.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore:  "Mae gweithwyr gofal Caerdydd wedi gwneud gwaith anhygoel i gefnogi pobl hŷn a phobl sy'n agored i niwed.  Mae eu hymateb i'r cyfnod eithriadol hwn wedi bod yn rhyfeddol ac mae'r ddinas yn hynod ddiolchgar am eu gwaith yn cadw ein hanwyliaid yn ddiogel.

 

"Mae stori Bill yn ysbrydoledig. Mae'n enghraifft wych o addasu mewn amgylchiadau anodd ac mae'n wych clywed pa mor werthfawr yw ei rôl newydd ganddo. Gobeithiwn y bydd y cipolwg gwerthfawr a gonest y mae'n ei roi yn ysbrydoli eraill i ystyried rôl yn y sector gofal yng Nghaerdydd."

 

Mae'r Cyngor yn parhau i recriwtio gweithwyr gofal i roi gofal a chymorth i bobl sy'n agored i niwed o bob oed mewn rolau rhan-amser neu fel gyrfa llawn-amser. Rydym yn awyddus i siarad â phobl sydd efallai wedi gadael y proffesiwn ac sydd am ddychwelyd, a rhai heb unrhyw brofiad sy'n chwilio i newid cyfeiriad.  Rhoddir hyfforddiant llawn a chefnogaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am ymuno â Chyngor Caerdydd neu un o'i ddarparwyr gofal cymdeithasol ac i gael gwybod am gyfleoedd i ddechrau gyrfa newydd gyffrous ym maes gofal cymdeithasol, ewch i:https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Gwasanaethau-Cymdeithasol-a-Lles/Oedolion/Byddwch-yn-Weithiwr-Gofal/Pages/default.aspx