02/10/20
Gwahoddir gweithredwyr bysiau yng Nghaerdydd i wneud cais am gyllid i ôl-ffitio bysiau hŷn yn eu fflydoedd gyda thechnoleg gymeradwy sydd wedi'i chynllunio i leihau allyriadau niweidiol ac i leihau llygredd aer yn y ddinas.
Byddai hyd at 80% o gost
unrhyw waith yn dod o dan y cynllun newydd sy'n cael ei redeg gan Gyngor
Caerdydd fel rhan o'n Cynllun Awyr Glân a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth
Cymru.
Nod y cynllun arfaethedig yw
gwella ansawdd aer yng Nghaerdydd ac mae'n dilyn her gyfreithiol a wnaed gan
Client Earth i Lywodraeth Cymru. Mae'r her yn gorfodi'r Cyngor yn gyfreithiol i
gymryd camau i leihau lefelau llygredd i derfyn cyfreithiol yn yr amser byrraf
posibl ar Stryd y Castell, a oedd yn torri terfynau cyfreithiol yr UE ar gyfer
lefelau NO2 cyn y caewyd y stryd dros dro i gefnogi busnesau
lletygarwch yn ystod pandemig COVID.
Mae £21m wedi ei ddyfarnu i'r Cyngor er mwyn cyflwyno amrywiaeth o fesurau i leihau allyriadau a gwella ansawdd aer yng Nghaerdydd. Mae hyn yn cynnwys ailfodelu ffyrdd yng nghanol y ddinas i wella cyfleusterau i feicwyr a cherddwyr, cyflwyno bysiau trydan yng Nghaerdydd, y cynllun ôl-ffitio bysiau, a gwaith parhaus gyda'r fasnach dacsi i weld pa fesurau y gellid eu cyflwyno i leihau allyriadau o'u cerbydau.
Gyda Stryd y Castell ar gau
dros dro, er mwyn caniatáu mwy o le i'r sector lletygarwch fasnachu yn ystod yr
adferiad COVID sy’n mynd rhagddo, mae ansawdd yr aer wedi gwella'n sylweddol
yng nghanol y ddinas. Mae hyn yn newyddion da ac yn tynnu sylw, yn gwbl amlwg,
at y cyfraniad enfawr y mae traffig cerbydau yn ei wneud i ansawdd aer gwael yn
y ddinas. Ond mae angen i ni edrych yn
awr ar yr holl fesurau a all sicrhau nad yw'r tir a enillwyd yn cael ei golli.
Yn wreiddiol, gobaith y Cyngor oedd y byddai'n gallu darparu 100% o'r cyllid i weithredwyr bysiau ôl-ffitio eu bysiau, ond oherwydd deddfwriaeth yr UE ynghylch Cymorth Gwladwriaethol, bydd yn rhaid i weithredwyr bysiau ddarparu 20% tuag at y gost.
Er mwyn sicrhau bod y cynllun
yn fwy fforddiadwy, mae'r Cyngor wedi rhoi trefniadau ar waith i sicrhau y bydd
gweithredwyr bysiau yn cael 80% o'r cyllid ymlaen llaw, ar ôl i'r Cyngor
dderbyn a chadarnhau'r anfoneb ar gyfer y gwaith.
Mae'r broses dau gam er mwyn i weithredwyr bysiau wneud cais am arian ar gael o 2 Hydref
tan 31 Rhagfyr drwy wefan
y Cyngor. Yna caiff y ceisiadau eu hasesu, gyda'r cyllid
ar gael tan 31 Mawrth 2021.
I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor ar y broses ymgeisio, gall gweithredwyr bysiau e-bostio ProsiectAerGlan@caerdydd.gov.uk