The essential journalist news source
Back
22.
September
2020.
Mesurau COVID-19 Ychwanegol i Gaerdydd a Bro Morgannwg

 

 

22/09/20
Mae cyfres o fesurau newydd yn cael eu cyflwyno gan Wasanaethau Profi, Olrhain a Diogelu Caerdydd a'r Fro mewn ymgais i atal y cynnydd sydyn yn nifer yr achosion Covid-19 a welir ledled y ddwy sir.

 

Wrth i gyfradd yr achosion newydd yng Nghaerdydd heddiw godi i 27.5 (fesul 100k dros 7 diwrnod) ac i 22.5 yn y Fro, mae ofnau'n cynyddu bod y ddwy ardal yn dilyn yr un llwybr â Chaerffili, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Blaenau Gwent.

 

Yn dilyn cyfarfod Uwch Grŵp Arweinyddiaeth Profi, Olrhain a Diogelu Caerdydd a'r Fro yn gynharach heddiw, mae'r mesurau ychwanegol a gweithgareddau estynedig canlynol i geisio atal y cynnydd yn nifer yr heintiadau yn cael eu cyflwyno ar gyfer Caerdydd a'r Fro:

 

  • Cyfyngiadau ar ymweliadau â safleoedd â phobl sy'n agored i niwed. Cyfyngu ymweliadau â chartrefi gofal ac ysbytai i ymweliadau hanfodol yn unig;

 

  • Mwy o ymgysylltu â busnesau ar y risgiau presennol a'u cyfrifoldeb i sicrhau bod y ddeddfwriaeth ymbellhau cymdeithasol yn cael ei dilyn. Cryfhau'r camau gorfodi am ddiffyg cydymffurfio.

 

  • Gwella gwaith partneriaeth gyda'r sectorau Addysg Uwch ac Addysg Bellach i gryfhau negeseuon i fyfyrwyr am y pwysigrwydd o gydymffurfio â'r rheoliadau a'r cosbau am beidio â gwneud hynny;

 

  • Gwella'r dulliau o gyfleu negeseuon allweddol yn lleol. Pwysleisio'n benodol y pwysigrwydd o ymbellhau'n gymdeithasol, peidio â chymysgu â phobl dan do nad ydynt yn rhan o aelwyd estynedig, glynu wrth y rheol chwech, pwysleisio bod yn rhaid i'r rhai sydd â symptomau, a'r rhai sy'n aros am ganlyniad prawf, neu bobl y gofynnir iddynt ynysu gan dîm olrhain cyswllt Profi, Olrhain a Diogelu aros gartref.

 

 

Dywedodd Cadeirydd Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu Caerdydd a'r Fro a Chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Charles Janczewski: "Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb personol i ddilyn y rheolau syml i amddiffyn ein teuluoedd, ein ffrindiau, a'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.Osbydd pawb yn gweithredu'n gyfrifol ac yn cydweithio gallwn gadw ein hardaloedd lleol yn ddiogel, ein cymunedau ar agor ac atal rhoi mwy o gyfyngiadau cloi ar waith yn yr ardal hon."

 

Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae fy neges i drigolion y Fro yn un syml.  Dyma ein cyfle olaf i atal rhoi mesurau tebyg ar waith yn ein trefi a'n pentrefi. 

  

"Nid yw arafu lledaeniad y feirws yn anodd, ond mae'n rhaid i bob un ohonom gydweithio a dilyn yr un canllawiau sylfaenol.  

  

"Rwy'n gwybod bod y mwyafrif helaeth o drigolion y Fro am wneud yr hyn sy'n iawn. Yn gynharach eleni gwnaethom i gyd aberth mawr i atal lledaeniad Covid-19 ac amddiffyn ein teuluoedd, ein ffrindiau, a'r rheiny sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. 

 

"Rydym wedi gwneud cynnydd enfawr tuag at ddychwelyd i fyw ein bywydau arferol yn ystod y misoedd ers hynny.  

 

"Rhaid i ni beidio â dadwneud yr holl waith caled hwn yn awr. Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn gwneud popeth o fewn ei allu i rannu'r neges hon mor eang â phosibl." 

 

Dwedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:  "Dros y 5 diwrnod diwethaf mae'r sefyllfa yng Nghaerdydd wedi newid yn gyflym gyda nifer yr achosion cadarnhaol newydd yn codi'n sydyn ac mae cyfradd gadarnhaol y profion hefyd yn cynyddu o 2% o dan wythnos yn ôl i 2.9%.

 

"Mae nifer y bobl sy'n mynd i unedau brys hefyd wedi codi ac mae galwadau sy'n gysylltiedig â Covid i 111 a chyfraddau ymgynghori meddygfeydd meddygon teulu yn uwch nag y buont ers mis Mehefin.

 

"Mae'r dystiolaeth yng Nghaerdydd yn dangos gan amlaf fod lledaeniad yr haint yn digwydd ar aelwydydd ac aelwydydd estynedig.    Bu newid hefyd ym mhroffil oedran y rhai a heintiwyd, gyda chynnydd sylweddol yn nifer y bobl 35-50 oed sydd bellach yn cael profion cadarnhaol.  Mae trosglwyddo'r feirws i bobl hŷn neu bobl sy'n agored i niwed a'r cynnydd dilynol mewn unedau brys, derbyniadau i'r ysbyty, a marwolaethau yn bryder difrifol. Mae'n hanfodol bwysig ein bod i gyd yn gwneud popeth y gallwn i atal y cynnydd nawr.  Gofynnaf i bawb ddilyn y canllawiau, cadw'n ddiogel a chadw eich teuluoedd yn ddiogel.

 

"Gyda'i gilydd, mae'r mesurau hyn yn ymateb cytbwys a chymesur i natur y risg yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, ond bydd hyn yn cael ei adolygu'n fanwl a gall newid ar unrhyw adeg. Mae'n gwbl bosibl efallai y bydd yn rhaid i ni fynd ymhellach o lawer, gan roi mesurau cloi ar waith gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru os nad yw'r sefyllfa'n sefydlogi neu'n gwella."

 

Bydd gweithredu ac effaith y mesurau ychwanegol hyn yn cael eu hadolygu ddwywaith yr wythnos a bydd asesiad yn cael ei wneud ynghylch a ddylid parhau  ym mhen pythefnos.