The essential journalist news source
Back
18.
September
2020.
Sut i waredu eich mygydau, menig, hancesi papur a chlytiau gwrth-fac yn ddiogel

18.09.20

Mae hi bellach yn orfodol gwisgo masgiau wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, mae bob un ohonom yn defnyddio hancesi papur, weips gwrth-facterol a thyweli papur mwy nag erioed, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwaredu nhw'n gywir.

Does dim modd ailgylchu'r rhain ac NI ddylid eu rhoi yn eich bagiau ailgylchu.

Er bod hancesi papur wedi'u gwneud o bapur, maent yn ffibrau byr iawn ac nid ydynt o safon ddigon uchel i'w hailgylchu.

Yn lle, dylid eu rhoi yn eich bagiau streipiau coch gwastraff cyffredinol neu finiau du. Bydd gwastraff cyffredinol yn cael ei losgi.

Os oes unrhyw un yn eich cartref yn dangos symptomau coronafeirws, megis tymheredd uchel neu beswch, dylech ddyblu'ch bagiau gwastraff cyffredinol os gallwch a'u gadael am 72 awr cyn eu rhoi y tu allan i'w casglu.

Rydyn ni hefyd yn argymell diheintio handlenni'r bin a golchi eich dwylo'n drylwyr cyn ac ar ôl rhoi'r bin allan i'w gasglu.

Helpwch i amddiffyn ein staff a gofalwch am eraill drwy atal trosglwyddo'r feirws gymaint â phosibl.

Os nad ydych chi'n siŵr a ellir ailgylchu eitem, gweler ein tudalen Ailgylchu A-Y:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/A-Y-o-ailgylchu/Pages/default.aspx