The essential journalist news source
Back
15.
September
2020.
Gwlyptiroedd wedi'u hadfer yn rhan o broject Dim Colled Net
Mae gwaith i adfer cynefinoedd gwlyptir pwysig yn Fferm y Fforest wedi'i gwblhau fyn rhan o'r project 'Dim Colled Net', a ariennir gan Network Rail.

Mae'r project hefyd wedi golygu bod bron 1000 o goed brodorol wedi eu plannu, i gynyddu amrywiaeth rhywogaethau ar y safle. Plannwyd hefyd 5,500 o fylbiau, gan gynnwys clychau’r gog, lili wen fach, garlleg gwyllt, blodyn y gwynt a briallu yn y Warchodfa Natur sy’n eiddo i Gyngor Caerdydd, er budd bioamrywiaeth y cynefin.

Roedd y pibellau sy'n bwydo pyllau’r gwlyptir, sy'n gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, gan gynnwys Glas y Dorlan, Crehyrod Glas a Dyfrgwn, wedi'u rhwystro'n flaenorol ac roedd lefelau'r dŵr yn rhy isel. Gyda chymorth 2,158 awr o waith gan wirfoddolwyr, mae pibellau newydd wedi'u gosod, a llystyfiant a gwelyau cyrs wedi'u clirio.

Mae Glas y Dorlan yn cael ei weld yn rheolaidd yn Fferm y Fforest ac mae banc nythu newydd hefyd wedi'i adeiladu’n rhan o'r project, er mwyn annog bridio'r rhywogaethau unigryw hyn ymhellach.

Mae gwaith rheoli coetiroedd a gwaith gosod gwrychoedd hefyd wedi'u gwneud ym mlwyddyn gyntaf y project.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae Fferm y Fforest yn hafan go iawn ar gyfer natur ac mae diogelu a gwarchod y cynefinoedd sydd yno yn allweddol – i Gaerdydd a’r tu hwnt."

"Mae natur dan bwysau yn fyd-eang ac nid yw Cymru'n eithriad yn hyn o beth. Mae safle 60 hectar Fferm y Fforest yn cysylltu â choridor cysylltedd B-Lines Cymru gyfan ar gyfer pryfed peillio a bywyd gwyllt arall – sy'n golygu y gallai manteision y gwaith rydym yn ei wneud yng Nghaerdydd ymestyn ymhell y tu hwnt i'r safle ei hun."

Dywedodd Mike Franklin, Arbenigwr Amgylcheddol Network Rail: “Mae’n wych gallu cefnogi’r project hwn a fydd yn chwyddo ystod y cynefinoedd yn y warchodfa natur boblogaidd hon. Mae projectau fel hyn yn amhrisiadwy ac yn helpu i gynnal a gwella mannau gwyrddion er budd pobl a bywyd gwyllt.” 

Mae gwaith i hyfforddi cronfa o wirfoddolwyr i gynnal arolygon safle fel y gellir mesur effaith y gwaith ar fflora a ffawna’r safle wedi'i ohirio dros dro oherwydd Covid-19, ond bydd y gwaith hwn yn dechrau pan fydd modd gwneud hynny'n ddiogel.

Arweinir y project partneriaeth gyda Buglife a Chyfeillion Fferm y Fforest gan dimau Ceidwaid Cymunedol a Choetir y Cyngor a bydd yn para am o leiaf flwyddyn arall.