The essential journalist news source
Back
14.
September
2020.
Cyfleoedd Llywodraethwyr Ysgol yng Nghaerdydd

14/09/20

Mae Cyngor Caerdydd yn chwilio am hyd at 100 o wirfoddolwyr brwdfrydig ac ymrwymedig i ymgymryd â swyddi fel llywodraethwyr ysgol ar draws 127 o ysgolion y ddinas.

Llywodraethwyr ysgol yw'r gweithlu gwirfoddol pwysicaf yn y maes addysg, ac maent yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o wella addysg a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ddyfodol plant a phobl ifanc. 

Mae llywodraethwyr ysgol yn helpu i osod gweledigaeth strategol yr ysgol ac yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn derbyn yr addysg orau bosibl. Maent hefyd yn gweithredu fel cyfaill beirniadol gan roi cymorth a her i uwch dîm arwain yr ysgol.

Mae llawer o fanteision i ddod yn llywodraethwr ysgol, byddwch yn cael cyfle i fod yn rhan o ysgol leol a'r cyfle i gyfrannu'n uniongyrchol at lwyddiant y plant a'r bobl ifanc y mae'n eu gwasanaethu.  Mae hefyd yn rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau a phrofiad proffesiynol a phersonol mewn ystod eang o feysydd fel cynllunio strategol, gwneud penderfyniadau a rheolaeth ariannol sy'n gallu helpu gyda gyrfaoedd a datblygiad personol. 

Darperir datblygiad proffesiynol parhaus am ddim gan yr awdurdod lleol i gynorthwyo llywodraethwyr yn eu rôl.

Ar y lleiaf gellid disgwyl i lywodraethwr gyfrannu tua phum awr y mis i ysgol a fyddai'n amrywio yn ôl yr ystod o gyfrifoldebau y byddwch yn dewis eu derbyn.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae addysg yn nodwedd amlwg o Uchelgais Prifddinas Caerdydd ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yn mynychu ysgol dda neu ardderchog.

"Er mwyn cyflawni hyn, mae angen prosesau llywodraethu ysgolion da ar ein hysgolion a'r cymorth, y sgiliau a'r arbenigedd gan gyrff llywodraethu sy'n helpu i wella bywydau plant a phobl ifanc yn y gymuned.

"Rydym yn chwilio am lywodraethwyr gydag amrywiaeth o sgiliau a phrofiad. Nid oes angen i ymgeiswyrgael unrhyw gysylltiad uniongyrchol â'r ysgol. Yn wir, mae'n gallu bod yn beth da os nad oes ganddynt unrhyw berthynas flaenorol gyda'r ysgol. Mae hyn yn helpu i ddod â phersbectif ehangach, allanol i helpu i herio a chefnogi'r modd y mae'r ysgol yn cael ei rhedeg"

"Yn ogystal â chael boddhad mawr a'r cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, mae rôl llywodraethwr yn cynnig amrywiaeth o sgiliau a phrofiad gwerthfawr y gellir eu defnyddio a'u datblygu i'w defnyddio yn y dyfodol."

Mae rolau allweddol llywodraethwr ysgol yn cynnwys:

-         Pennu cyfeiriad, nodau, polisïau a blaenoriaethau cyffredinol yr ysgol

-         Sicrhau lles a diogelu dysgwyr

-         Monitro perfformiad a hyrwyddo safonau uchel o gyflawniad addysgol,

presenoldeb ac ymddygiad,

-         Bod yn "gyfaill beirniadol", gan roi cymorth a her i'r uwch dîm arwain a gosod targedau ar gyfer mesur cynnydd

-         Cytuno ar gyllideb flynyddol yr ysgol a monitro hyn drwy gydol y flwyddyn

-         Sicrhau bod gan bob dysgwr fynediad i gwricwlwm eang a chytbwys a bod yr holl

ofynion statudol yn cael eu hateb

-         Ymwneud â'r holl brosesau staffio gan gynnwys cyflogau, penodi staff, rheoli perfformiad,

atal, materion disgyblu a diswyddo.

 

Am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais, ewch ihttps://www.addysgcaerdydd.co.uk/