The essential journalist news source
Back
11.
September
2020.
Bil £39 miliwn i Gyngor Caerdydd wedi'r cyfnod cloi a diffyg gwerth £25 miliwn yng nghyllideb y flwyddyn nesaf

11/09/20

Mae delio â COVID-19 wedi costio £39 miliwn i Gyngor Caerdydd ym mhedwar mis cyntaf y flwyddyn ariannol.

Datgelir y costau enfawr mewn adroddiad i Gabinet y Cyngor a fydd hefyd yn clywed amcanestyniadau ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf pan fo rhaid efallai i'r Cyngor ddod o hyd i ffyrdd o bontio bwlch o £25.5 miliwn yn y gyllideb yn 2021/22 er mwyn mantoli'r cyfrifon.

Mae cost £39 miliwn COVID-19 yn cynnwys gwariant a'r incwm a gollwyd. Mae'r Cyngor wedi gwario £26 miliwn ar wasanaethau sy'n mynd i'r afael ag effaith y feirws ac mae £13 miliwn ychwanegol yn incwm a gollwyd.

Mae dadansoddiad o'r amcan gost £26 miliwn i'r Cyngor wrth ymateb i'r pandemig yn cynnwys er enghraifft:

  • £6.3 miliwn ar ofal cymdeithasol i oedolion;
  • £5.2 miliwn ar gyfarpar diogelu personol (PPE);
  • £3.3 miliwn ar roi prydau ysgol am ddim i tua 12,000 o ddisgyblion bob dydd;
  • £1.9 miliwn ar dai i gynorthwyo'r digartref yn ystod y pandemig.
  • £1.6 miliwn ar wasanaethau profedigaeth - (caffael marwdy dros dro);

Mae'r Cyngor hefyd wedi datgelu bod £13 miliwn o incwm wedi'i golli yn ystod yr un cyfnod oherwydd y pandemig.

Mae hyn yn cynnwys y canlynol, ymhlith eraill:

  • Colled o £3.5 miliwn mewn ffioedd parcio, cosbau parcio a Throseddau Traffig sy'n Symud;
  • Colled o £2.7 miliwn yn y gwasanaethau diwylliannol;
  • Colled o £1.75 miliwn o incwm arlwyo ysgolion.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, sef yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae Cyngor Caerdydd wedi ymateb yn gyflym i'r argyfwng, gan newid y ffordd rydym yn gweithio a rhoi ffocws clir ar gynnal gwasanaethau hanfodol sy'n darparu ar gyfer ein trigolion mwyaf agored i niwed. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi camu i'r adwy gan helpu'r Cyngor i dalu'r costau enfawr hyn. Heb gymorth Llywodraeth Cymru, bydden ni'n wynebu problemau ariannol ofnadwy nawr.

"Fel y mae hi, hyd yn hyn rydym wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru ein had-dalu am tua £21.4 miliwn o wariant, sef yr hyn a warion ni hyd at ddiwedd mis Mehefin, ac mae wedi cytuno i roi £19.6 miliwn i ni. Byddwn yn gwneud cais am arian ar gyfer yr holl wariannau eraill a'r incwm a gollwyd hefyd wrth i ni geisio taclo'r feirws a gwneud popeth y gallwn i gadw pobl yn ddiogel ac i arbed swyddi.

"Os nad yw Llywodraeth Cymru yn parhau i helpu, rydym yn amcangyfrif y gallwn golli gwerth £34 miliwn o wariant a cholli incwm erbyn diwedd y flwyddyn. Mae'n hanfodol ei bod yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol gyda'r arian a all eu helpu i oroesi'r argyfwng hwn."

Er y bydd y Cabinet yn ystyried cost barhaol delio â COVID-19 yn ei gyfarfod ddydd Iau 17 Medi, bydd hefyd yn cael adroddiad ar amcanestyniadau ariannol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Bydd yr adroddiad yn datgelu diffyg a ddisgwylir yn y gyllideb o £25.5 miliwn. Mae hwn yn arian y bydd yn rhaid dod o hyd iddo er mwyn i'r Cyngor mantoli'r cyfrifon.

Dywedodd y Cynghorydd Weaver:  "Mae dod trwy don gyntaf COVID a gweld cost y pandemig ar bapur yn ddigon i agor ein llygaid. Ond nawr, ar ben hynny, rydym yn wynebu her ariannol enfawr arall y flwyddyn nesaf, diffyg o £25.5 miliwn yn y gyllideb.  Mae hyn y tu hwnt i gostau COVID ac mae'n debyg y bydd yn rhaid i ni dalu o leiaf £19 miliwn o'r diffyg hwnnw trwy arbed arian.  I wneud hyn, bydd yn rhaid i ni edrych yn fanwl ar bopeth rydym yn ei wneud.

"Mae'r Cyngor hwn eisoes wedi arbed £225 miliwn dros y 10 mlynedd diwethaf ac wedi dileu 1,600 o swyddi llawn-amser yn y cyfnod hwnnw hefyd. Mae'r rhain yn ffigurau enfawr, ac wedi arbed cymaint o arian yn barod, mae'n dod yn anoddach ac yn anoddach parhau i arbed arian. Ynghyd ag ariannu cyfalaf, mae ysgolion a'r gwasanaethau cymdeithasol yn defnyddio tua 70% o gyllideb y Cyngor. Rydym wedi arbed rhan fwyaf yr arian ym meysydd eraill y Cyngor yn ystod y cyfnod hwnnw ac mae'n anodd gwasgu mwy o arian o'r meysydd hyn.

"Byddwn yn cyflwyno cynllun i drigolion ei ystyried ac ymgynghori arno ym mis Rhagfyr, ond yn glir rydym yn edrych ar newidiadau mawr i wasanaethau nawr. Rydym am barhau i ddarparu gwasanaethau y mae trigolion am eu cael ac y maen nhw'n eu haeddu ond mae hynny'n costio arian ac rydym yn gyrraedd pwynt lle y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd iawn.

"Ar adegau fel hyn - pan fo angen adfer ariannol fel mater o argyfwng - mae'n hanfodol bwysig bod y Llywodraeth yn cydnabod gwerth y sector cyhoeddus a'r rôl y gall ei chwarae wrth helpu i gynnig swyddi a rhoi cychwyn ar brojectau. Mae trafodaethau cadarnhaol ar y gweill rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Ond bydd arian yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn gallu darparu'r gwasanaethau y mae pobl yn eu disgwyl yn enwedig wrth i ni hefyd wynebu y posibilrwydd o ‘Brexit heb gytundeb' yn ystod y dirwasgiad gwaethaf a gofnodwyd erioed."