The essential journalist news source
Back
3.
September
2020.
Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd a Chaerdydd Ddwyieithog yn helpu i gyflawni llyfr newydd

 

3/9/20
Mae dau lyfr digidol newydd i helpu plant a theuluoedd i ddysgu mwy am y Coronafeirws bellach ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, diolch i wasanaeth Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd a thîm Caerdydd Ddwyieithog y Cyngor.

 

Hwylusodd llyfrgellwyr o’r gwasanaeth gydweithio rhwng cyhoeddwyr y llyfrau a thîm Caerdydd Ddwyieithog, sy’n cyfieithu mwy na 12 miliwn o eiriau i Gymraeg bob blwyddyn, i sicrhau y gall plant a theuluoedd ledled Cymru fwynhau’r llyfrau yn Gymraeg, yn ogystal ag yn Saesneg.  

 

Cynhyrchwyd y llyfrau llun, sy’n cynnwys y cymeriad Doctor Ci, gan y darlunydd Lydia Monks a’r Athro James G Logan o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain.  

 

Cyhoeddwyd y llyfr cyntaf, Doctor Ci, i greu wyneb cyfeillgar sy’n gallu addysgu a thawelu meddyliau plant ifanc ynglŷn â’r Coronafeirws. Mae’r ail lyfr, Doctor Ci yn Egluro Dychwelyd i’r Ysgol, wedi’i anelu at gefnogi plant i addasu at fynd yn ôl i’r ysgol ar ôl y cyfnod hir o ddysgu gartref.   Mae’r llyfr, sydd wedi’i ysgrifennu mewn iaith glir ac addas i blant, yn cynnwys gwybodaeth syml a dibynadwy am y pandemig, cyngor i blant ar sut i gadw’n ddiogel, a thawelwch meddwl i deuluoedd am ddychwelyd i’r ysgol. 

 

Mae’r ddau deitl bellach ar gael i’w lawrlwytho, darllen ar-lein neu eu hargraffu am ddim ar gatalog ar-lein Llyfrgelloedd Caerdydd yma:  https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/cy_GB/card_cy

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: “Mae Gwasanaeth Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd wedi ymrwymo i ddarparu ystod eang o adnoddau i gwsmeriaid yn Gymraeg a Saesneg.   Rydym yn falch iawn o fod yn gallu hwyluso’r cydweithio hwn rhwng cyhoeddwyr y llyfrau a’n tîm Caerdydd Ddwyieithog ein hunain, sy’n gwneud gwaith gwych yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn y ddinas a chefnogi ein timau i sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau i drigolion yn Gymraeg a Saesneg fel ei gilydd. 

 

“Bydd y bartneriaeth hon yn sicrhau, nid yn unig y gall plant a theuluoedd yng Nghaerdydd gael mynediad at yr adnodd defnyddiol hwn yn Gymraeg, ond y bydd llyfrgelloedd ledled Cymru yn gallu cynnig y llyfr hwn yn ddwyieithog i’w cwsmeriaid hefyd.

 

“Rydym yn gobeithio y bydd ein darllenwyr ifanc yn cael y llyfr yn ddifyr ac y bydd yn tawelu meddyliau, gan ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddynt am y cyfnod rhyfedd hwn, a’u helpu i baratoi at ddychwelyd yn llawn i’r ysgol dros yr wythnosau nesaf.  Rydym yn ddiolchgar i Lydia Monks ac i’r Athro James G Logan am weithio gyda ni i beri i hyn ddigwydd.”

 

Dywedodd yr Athro James Logan, “I lawer o bobl ifanc yn y DU, mae’r pandemig coronafeirws yn gyfnod o ansicrwydd, dryswch a phryder, gyda llawer o wybodaeth ffug ar-lein.  Fel rhiant fy hun, roeddwn i’n teimlo bod ychydig o fwlch o ran cynnig gwybodaeth gywir i blant mewn ffordd bleserus na fyddai’n codi ofn arnynt.”

 

Dywedodd Lydia Monks, “Mae’n gyfnod rhyfedd i blant, rhieni ac athrawon, ac mae llawer ohonom yn poeni am ddechrau yn ôl yn yr ysgol.  Rydym yn gobeithio y bydd Doctor Ci yn tawelu meddyliau’r rhai bach, ac yn helpu i esbonio beth sy’n wahanol o bosibl am y tymor ysgol newydd hwn.  Efallai y bydd rhai pethau ychydig yn wahanol, ond bydd yn hyfryd i bawb weld eu holl ffrindiau eto.  Mae Doctor Ci yn codi llaw, ac yn dymuno pob lwc i chi i gyd!”

 

Mae ystod eang o lyfrau plant ar gael i’w benthyg gan Lyfrgelloedd a Hybiau Caerdydd, trwy’r gwasanaeth clicio a chasglu.  Gall aelodau’r llyfrgell ffonio ein Llinell Llyfrgelloedd ar 029 2087 1071, opsiwn 2 i ofyn am ddetholiad o lyfrau, neu deitlau penodol os ydynt ar gael, i’w casglu o un o hybiau a llyfrgelloedd y ddinas, sydd ar agor ar hyn o bryd.  Gellir archebu’r teitlau ar-lein hefyd o https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/en_GB/card_en, sydd hefyd yn darparu mynediad at ystod eang o adnoddau gan gynnwys e-lyfrau, e-lyfrau clywedol ac e-gylchgronau i’w lawrlwytho am ddim.

 

 

I gael rhagor o wybodaeth am y Llyfrau Doctor Ci ewch i  https://www.lydiamonks.com/dr-dog/