The essential journalist news source
Back
1.
September
2020.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 1 Medi

1/9/20

Croeso i ddiweddariad 1af yr wythnos gan Gyngor Caerdydd yn cynnwys: Hwb o £500,000 ar gyfer technoleg i gynlluniau Cyngor Caerdydd ar gyfer y diwydiannau creadigol,Gwrthryfel Difodiant yn Nghaerdydd a70,000o fasgiau wyneb ar gyfer ysgolion Caerdydd.

 

Hwb o £500,000 ar gyfer technoleg i gynlluniau Cyngor Caerdydd ar gyfer y diwydiannau creadigol

 

 

Yn dilyn cais llwyddiannus am gyllid, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £500,000 i Gyngor Caerdydd i wella'r seilwaith sy'n cludo band eang ffibr optig o amgylch y ddinas.

Mae'r gwaith yng Nghaerdydd, fydd yn cael ei gwblhau y flwyddyn nesaf, yn ychwanegol i'r buddsoddiad parhaus yn y rhwydwaith pibelli ar hyd coridor yr M4, gan ddod â manteision ledled rhanbarth De Cymru.

Ledled Cymru, gall dros 95 y cant o adeiladau ddefnyddio band eang cyflym iawn yn dilyn rhaglen Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru. Hefyd, bydd cynllun pellach ar gyfer band eang ffibr cyflymder gigabit yn digwydd yn yr ardaloedd hynny sydd ddim yn gallu ei dderbyn eto, gydag estyniad diweddar yn canolbwyntio ar ardaloedd ble y mae llai na 90 y cant yn derbyn y gwasanaeth. 

Mae busnesau a sefydliadau yn sector y diwydiannau creadigol yng Nghaerdydd, sy'n datblygu'n gyflym, wedi bod yn cydweithio'n agos â Chyngor Caerdydd am y 18 mis diwethaf, a gyda'i gilydd, maent wedi nodi yr angen i'r ddinas ehangu ei rhwydwaith pibelli ffibr optig. Mae hyn er mwyn cynyddu capasiti ‘Rhwydwaith Creadigol Caerdydd' sydd wedi anelu at ddarparu'r cyflymder band eang gigabit sydd ei angen ar y sector.

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24628.html

 

 

 

Gwrthryfel Difodiant yn cyrraedd Caerdydd

 

Cyrhaeddodd Gwrthryfel Difodiant yng Nghaerdydd ddydd Gwener (28 Awst) i ymgyrchu yn erbyn Newid yn yr Hinsawdd a'r bygythiad i'r ddinas yn sgil cynnydd yn lefelau'r môr. 

 

Gosododd yr ymgyrchwyr bebyll mawr a stondinau yn yr Aes a Stryd Working a rhoddwyd gwybodaeth i'r cyhoedd wrth iddynt fynd heibio.

Ni achosodd y protestwyr unrhyw aflonyddwch dros y penwythnos, ac eithrio gosod rhai baneri ar draws nifer o bontydd priffyrdd yn y ddinas ac ar un adeg, ar waliau Castell Caerdydd am lun, ond fe'u tynnwyd yn ddiweddarach.

Mae heddiw'n nodi dechrau ymgyrch genedlaethol Gwrthryfel Difodiant sy'n digwydd yn Llundain, Manceinion, Bryste, Caerdydd a Leeds.

Y bore yma, sefydlodd yr ymgyrchwyr wersyll ar Lawnt Neuadd y Ddinas heb awdurdod y Cyngor. Er bod mesurau atal wedi'u rhoi ar waith i atal cerbydau rhag mynd ar barcdir Caerdydd, mae'n amhosibl atal pobl rhag cerdded i mewn i barciau neu fannau agored Caerdydd i sefydlu gwersyll.

Cyhoeddodd y Cyngor ddatganiad ddydd Gwener, sy'n amlinellu ein safbwynt yn glir a gellir ei ddarllen yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24613.html 

Bydd ymgyrch protestio Gwrthryfel Difodiant yn parhau drwy'r wythnos hon, gyda'r diwrnod gweithredu olaf ddydd Sadwrn 5 Medi.

 

70,000o fasgiau wyneb wedi'u paratoi ar gyfer ysgolion Caerdydd

 

 

Cyn dechrau tymor yr hydref yr wythnos hon, mae 70,000 o fasgiau wyneb wedi'u didoli yn Neuadd y Sir a'u dosbarthu i ysgolion ledled y ddinas.

Daw hyn ar ôl y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf bod y Cyngor yn argymell yn gryf bodholl staff a disgyblion ysgolion uwchradd y brif ffrwd yn gwisgo gorchuddion wyneb wrth symud trwy goridorau a mannau cymunedol megis lifftiau, grisiau a thoiledau ac mewn sefyllfaoedd lle na ellir cadw pellter cymdeithasol.

Bydd y Cyngor yn cyflenwi dau fasg amldro i bob disgybl ac aelod o staff ysgol uwchradd pan fo'r tymor yn dechrau.

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24611.htmlac i ddarganfod mwy am fesurau sydd ar waith ar gyfer dychwelyd i'r ysgol, ewch i'n Cwestiynau Cyffredin ymahttps://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Ysgolion/cwestiynau-cyffredin-i-rieni-a-disgyblion/Pages/default.aspx