26/8/20
Oherwydd Covid-19, mae Salsa Buena wedi rhoi'r gorau i'w ddosbarthiadau dawns arferol ar hyn o bryd ac wedi troi at ddawnsio yn yr awyr agored yng nghyrtiau awyr agored dros dro Parc Bute ger ystafelloedd newid y Gored Ddu.
Aeth Shahid, hyfforddwr dawns Salsa Buena, ati i logi'r cyrtiau fel rhan o gynllun i wneud defnydd o ardaloedd awyr agored nad ydynt yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd, gan gynnig lle preifat i weithgareddau grŵp barhau mewn amgylchedd diogel.
Mae'r dosbarthiadau dawnsio awyr agored wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gan ei wneud yn ychwanegiad cadarnhaol at y nifer gynyddol o weithgareddau sy'n cael eu cynnal yn y cyrtiau awyr agored.
Ar hyn o bryd, mae'r tîm ym Mharc Bute yn croesawu unrhyw grwpiau sy'n cael anhawster i ymarfer gweithgareddau sydd fel arfer yn cael eu cynnal dan do.
Darllenwch fwy i gael gwybod sut mae Salsa Buena wedi elwa'n bersonol o'r cynllun.
Ble rydych chi'n ymarfer fel arfer?
Shahid, Hyfforddwr Dawns: "Ein lleoliadau arferol yw tafarndai a chlybiau ledled Caerdydd a'r Bont-faen ac nid ydynt ar gael o dan y gofynion diogelwch covid-19 presennol."
Beth mae'n ei olygu i allu ailddechrau eich busnes fel hyn?
Shahid, Hyfforddwr Dawns: "Mae'n golygu llawer nid yn unig i'n busnes ond i'r bobl sy'n caru dawnsio a dysgu."
Beth ydy'r pethau cadarnhaol am ailddechrau a sut brofiad ydy cymryd rhan yn eich sesiynau yn y Gored Ddu?
Mynychwyr Salsa Buena: "Mae wedi bod yn brofiad gwych. Diolch. Mae'n dda cael mynd allan a dawnsio eto a gwneud dosbarthiadau a gweld pawb."
Os oes gennych ddiddordeb mewn llogi un o'r cyrtiau awyr agored neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys prisiau, ewch i dudalennau gwybodaethParc Bute.