The essential journalist news source
Back
18.
August
2020.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 18 Awst

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n ymdrin â'r canlynol: Mae Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd yn ailagor i ymwelwyr sy'n archebu ymweliadau ymlaen llaw o yfory; mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn parhau i gefnogi pobl ifanc 11-25 oed ar draws y ddinas; Celfyddydau Ymladd Caerdydd yn ailgychwyn eu hyfforddiant yn y cyrtiau awyr agored dros dro ym Mharc Bute; a golygfeydd o'r Castell wedi'u gweini ar blât.

 

Ailagor Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd

Mae Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd yn ailagor i ymwelwyr sy'n archebu ymweliadau ymlaen llaw o yfory, Awst 19, ar ôl cwblhau gwiriadau trylwyr a rhoi mesurau ar waith i sicrhau iechyd a diogelwch cwsmeriaid.

Er mwyn helpu gyda chadw pellter cymdeithasol, mae system unffordd wedi'i chreu, arwyddion wedi eu harddangos, a phedair pabell wedi'u gosod i'w defnyddio fel ystafelloedd newid dros dro, gydag ystafelloedd newid y prif adeilad ar gau am y tro.

Mae pob cwch yn cael ei lanhau a'i sterileiddio'n rheolaidd ar ôl pob defnydd. Yn ogystal â'i lanhau, mae'r switiau gwlyb a'r cymhorthion hynofedd a ddarperir yn cael eu rhoi mewn cwarantin ar ôl pob defnydd.

Cynigir diheintydd dwylo o amgylch y cyfleuster, ac ar ddechrau ac ar ddiwedd y sesiwn. Caiff ymwelwyr eu hannog hefyd i ddod â'u rhai eu hunain.

Er mwyn cydymffurfio â gofynion presennol COVID-19 Llywodraeth Cymru, mae'r niferoedd a all fynd i Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd wedi eu gostwng, unwaith eto er mwyn cadw pellter cymdeithasol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'n braf gweld gweithgareddau'n dychwelyd i Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, un o'n hatyniadau ymwelwyr mwyaf poblogaidd. Diolch i waith caled ac ymdrechion yr holl staff sy'n berthnasol, gall ymwelwyr deimlo'n hyderus bod eu hiechyd a'u diogelwch yn brif flaenoriaeth, fel y gallant fwynhau'r profiad yn llawn."

Ar hyn o bryd, nid yw syrffio dan do Flowrider ar gael, oherwydd y risgiau sy'n gysylltiedig â chylchrediad yr aer, y tarth a'r ewyn. Oherwydd y nifer o bwyntiau cyswllt, nid yw rhaffau uchel yr Antur Awyr ar gael ar hyn o bryd ychwaith.

Gofynnir i gwsmeriaid gyrraedd yn 'barod i badlo' (h.y. dillad nofio wedi'u gwisgo o dan ddillad), fel y gallant newid yn gyflym ac yn hawdd i'r siwtiau gwlyb a ddarperir.

Dim ond i'r cwsmeriaid hynny sydd wedi archebu ymlaen llaw y mae Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd ar gael. Am ragor o fanylion, ewch i:https://www.dgrhc.com/ 

 

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn parhau i gefnogi pobl ifanc 11-25 oed ar draws y ddinas

Mae canolfannau Gweithgareddau Ieuenctid ar gau ar hyn o bryd oherwydd y pandemig; fodd bynnag, nid yw hyn wedi ein hatal rhag parhau i gefnogi pobl ifanc. Mae ein timau wedi bod yn gwneud gwaith ar y stryd, gan gynnig cymorth mewn rhithwir, danfon parseli bwyd, cefnogi hybiau agored i niwed, cynnig rhaglenni haf a mentora 1-1. Mae'r ffeithlun hwn yn amlinellu ein gweithgarwch yn ystod mis Gorffennaf.

Rhan sylweddol o'n gwaith dros yr wythnosau nesaf yw parhau i roi cymorth i fyfyrwyr sydd wedi gadael blwyddyn 11 a sicrhau eu bod yn gallu trosglwyddo i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant. Bydd ein tîm o fentoriaid yn gallu cefnogi'r myfyrwyr hyn ar sail 1-1 i ystyried opsiynau, goresgyn rhwystrau a gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu hateb.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith ewch i'n sianeli cyfryngau cymdeithasol

Facebook- @CardiffYouthService

Instagram - @CardiffYouthService

Twitter - @YouthCardiff

Youtube - Cardiff Youth Service

 

Celfyddydau Ymladd Caerdydd yn ailgychwyn eu hyfforddiant yn y cyrtiau awyr agored dros dro ym Mharc Bute

Mae Celfyddydau Ymladd Caerdydd wedi symud eu hystod o ddosbarthiadau i'r cyrtiau awyr agored dros dro ym Mharc Bute ger ystafelloedd newid y Gored Ddu gan fod eu lleoliadau dan do arferol wedi cau oherwydd y pandemig.

Mae ailgychwyn y dosbarthiadau ac addasu yn ôl yr amgylchedd awyr agored wedi bod yn hwb mawr i'r gymuned crefftau ymladd, sydd bellach yn gallu ailddechrau hyfforddi yn ddiogel yn unol â'r canllawiau ymbellhau cymdeithasol.

Mae'r pum cwrt dros dro ym Mharc Bute yn rhan o gynllun i gefnogi sefydliadau a busnesau gyda mannau awyr agored preifat ar gyfer gweithgareddau grŵp sydd fel arfer yn digwydd dan do ond nad ydynt yn gallu digwydd o dan ganllawiau presennol y llywodraeth.

Ers ei lansio, mae nifer o grwpiau cymunedol wedi gallu ailafael yn eu gweithgareddau ac mae'r tîm ym Mharc Bute yn parhau i gymryd archebion ar gyfer unrhyw grwpiau sy'n chwilio am amgylchedd diogel i weithio ynddo.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24549.html

 

Golygfeydd o'r Castell wedi'u gweini ar blât!

Os ydych chi'n barod i fynd nôl mas am fwyd a diod, dewch draw i Gaffi Cwr y Castell a joio bwyd a diod yn un o'r lleoliadau harddaf yn y ddinas.

Mae hylif diheintio dwylo, seddi sy'n cadw pellter cymdeithasol a gwaith glanhau rheolaidd yn ei wneud yn ddewis mwy diogel ar gyfer bwyta mas.

Ar agor 7 diwrnod yr wythnos, 10am i 10pm.

Dysgwch fwy yma:

http://www.croesocaerdydd.com/caffi-cwr-castell/