The essential journalist news source
Back
15.
August
2020.
Caerdydd yn nodi 75 Mlynedd Diwrnod VJ


15/8/20
Heddiw, Awst 15, 2020, yw 75 mlwyddiant Diwrnod VJ, yn coffáu ildiad Siapan a diwedd yr Ail Ryfel Byd.

 

I nodi Diwrnod VJ eleni, cymerodd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Dan De'ath ac arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cyng Huw Thomas, ran mewn seremoni gosod torch yn y Gofeb Ryfel Genedlaethol, yn y Ganolfan Ddinesig yng Nghaerdydd yn gynharach heddiw.

 

Dywedodd Arglwydd Faer Caerdydd, y Cyng. Dan De'Ath:  "Gwelodd y Dwyrain Pell filoedd o ddynion a menywod y lluoedd yn parhau i wasanaethu mewn sefyllfa o wrthdaro am fwy na thri mis wedi i'r ymladd ddod i ben yn Ewrop. Mae Diwrnod VJ yn rhoi cyfle i bob un ohonom gofio'r rhai a wasanaethodd yn ardal Asia a'r Môr Tawel, gweithredu a ddaeth â'r Ail Ryfel Byd i ben yn y pen draw.

 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, Y Cyng. Huw Thomas: "Mae'n bwysig nad yw'r cyfnod hwn o hanes yn cael ei anghofio.  Mae'r ffaith fod 75 mlynedd ers Diwrnod VJ yn dod ag arwyddocâd ychwanegol iddo, a chyfle pellach i ddod â gweithredoedd miloedd o aelodau'r lluoedd i feddyliau cenhedlaeth arall."

 

Yn ymuno â'r Arglwydd Faer ac Arweinydd y Cyngor i osod y torch roedd Arglwydd Raglaw De Morgannwg, Prif Weinidog Cymru, prif swyddogion y Llynges Frenhinol, y Fyddin a'r Awyrlu Brenhinol a chynrychiolydd o'r Lleng Brydeinig Frenhinol.

 

Ar 4 Awst, gosododd yr Arglwydd Faer dorch yng Ngwasanaeth Diolchgarwch Cenedlaethol Cymru, a gynhaliwyd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf. Mae recordiad o'r gwasanaeth hwnnw ar gael i'w wylio arsianel YouTube Eglwys Gadeiriol Llandaf