The essential journalist news source
Back
13.
August
2020.
Canlyniadau Safon Uwch Caerdydd 2020

 

13/8/2020

Mae disgyblion ar draws Caerdydd wedi derbyn eu canlyniadau Safon Uwch heddiw, ac mae llawer ohonynt wedi cael eu cyflwyno ar ffurf rithwir oherwydd COVID-19. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Hoffwn longyfarch holl fyfyrwyr Caerdydd sydd wedi cael eu canlyniadau Safon Uwch heddiw, yn dilyn ychydig fisoedd anghyffredin iawn i bobl ifanc ledled y ddinas.

 

"Mae ysgolion, rheoleiddwyr a byrddau arholi wedi gweithio'n ddiwyd i sicrhau y bydd eu canlyniadau'n cael eu hystyried yr un mor arwyddocaol â rhai'r blynyddoedd a fu. Bydd cohort Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13 eleni'n cael eu cydnabod am lwyddo yn wyneb cyfres eithriadol o heriau a achoswyd gan y pandemig, a nawr gallant ddathlu eu dyfalbarhad a'u gwaith caled dros y blynyddoedd diwethaf.

 

"Rwyf wedi mwynhau clywed am gynifer o lwyddiannau o bob cwr o'r ddinas a boed ein myfyrwyr yn symud yn eu blaen i'r brifysgol, i swyddi neu i hyfforddiant, hoffwn ddymuno pob lwc iddynt wrth iddynt ddechrau ar bennod newydd yn eu bywydau."

 

O ystyried y penderfyniad i ganslo arholiadau'r haf hwn o ganlyniad i'r pandemig, mae CBAC wedi datblygu proses sy'n caniatáu i raddau gael eu seilio ar Raddau Asesiad Canolfan a Threfnau Rhestrol sydd wedi eu cyflwyno gan athrawon/darlithwyr.

 

Yn dilyn ymgynghoriad â phobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ym maes addysg a gynhaliwyd gan Cymwysterau Cymru, mae CBAC wedi datblygu dau fodel safoni ystadegol, sydd wedi eu cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru, a gaiff eu cymhwyso fel rhan o'r broses cyhoeddi graddau ar gyfer cyfres arholiadau haf 2020.

 

Mae proses apelio benodol ar gyfer cyfres arholiadau haf 2020 wedi'i datblygu hefyd.

Ar 12 Awst mae'r Gweinidog dros Addysg wedi cyhoeddi cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol i Cymwysterau Cymru roi sylw dyledus i bolisi newydd Llywodraeth Cymru na ddylai dysgwyr safon uwch dderbyn canlyniad gradd mewn pwnc yn haf 2020 sy'n is na'u gradd lefel UG cyfatebol. Mae'r rheol hon yn cael ei chyflwyno ar ôl i CBAC ryddhau'r canlyniadau cychwynnol i ysgolion a cholegau. Mae Cyfarwyddyd y Gweinidog hefyd yn gofyn am ystyried a ellir ehangu'r sail dros apelio ar gyfer pob cymhwyster Safon Uwch, Safon UG a TGAU.

 

Dywedodd Ian Price, Cyfarwyddwr CBI Cymru: "Mae 2020 heb os wedi bod yn flwyddyn anarferol a heriol i bobl ifanc a'r system addysg yn gyffredinol, ond ni ddylai hynny amharu ar y blynyddoedd o waith caled ac ymroddiad gan y disgyblion. Er y bydd llawer o bobl ifanc, yn ddealladwy, yn ansicr ynghylch sut y bydd canlyniadau eleni yn cael eu hystyried a'u gwerthfawrogi, mae cyflogwyr yn ymddiried yn y systemau cymwysterau sydd ar waith ac yn hyderus y bydd y graddau wedi'u dyfarnu'n gywir. 

 

"Ni waeth a yw pobl yn cael y canlyniadau roedden nhw'n gobeithio amdanynt ai peidio, dim ond un o'r ffactorau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt yw graddau. Mae cyflogwyr yn dweud wrthym yn rheolaidd fod agwedd a gallu yn llawer pwysicach na chymwysterau ffurfiol wrth ddewis cyflogi rhywun."

 

Ar 3 Gorffennaf 2020 cyhoeddodd y Gweinidog dros Addysg yng Nghymru y byddai mesurau perfformiad Cyfnod Allweddol 4 a chweched dosbarth etifeddol yn cael eu gohirio tan flwyddyn academaidd 2020/21. Mae'r dull cyffredinol hwn o gyhoeddi'r data cymwysterau perthnasol ar gyfer blynyddoedd academaidd 2019/20 a 2020/21 wedi'u nodi hefyd. 

Mae rhai straeon newyddion da a rennir gan ysgolion o bob rhan o'r ddinas yn cynnwys:

 

Ysgol Uwchradd Cantonian:
Mae disgyblion, rhieni a staff Ysgol Uwchradd Cantonian yn dathlu canlyniadau Safon Uwch gwych heddiw. Mae llawer o fyfyrwyr yn mynd ‘mlaen i'r brifysgol gan gynnwys Ramal Meghji Britton a Rhys Hughes a fydd yn astudio Ysgrifennu Caneuon a Busnes Cerddoriaeth yn y Sefydliad Cerddoriaeth Fodern Prydeinig a Gwyddelig, Mohamed Mohmed a fydd yn astudio Cyfrifiadureg a Rumi Shikdar yn astudio Rheolaeth Busnes, y ddau ym Met Caerdydd. 
Mae Aran Hesso wedi ennill lle ym Mhrifysgol Abertawe i astudio Athroniaeth yn dilyn blwyddyn allan i deithio.

Dywedodd y Pennaeth, Diane Gill, "Rydw i unwaith eto'n hynod o falch o gyflawniadau pob un o'n disgyblion chweched dosbarth. Ar ôl blwyddyn anodd i bawb a chryn dipyn o ansicrwydd, maent wedi parhau i ddangos ymrwymiad ac wedi gweithio'n galed a sicrhau eu bod yn ennill y graddau gorau posib."

 

Ysgol Gyfun Glantaf

Mae'r ysgol yn falch o'r canlyniadau sydd ar y cyfan yn adlewyrchu'r dangosyddion perfformiad disgwyliedig.

Er bod Glantaf yn falch o gyflawniadau pob un o'n myfyrwyr ar adeg eithriadol o heriol, mae'r canlynol yn arbennig o nodedig.

Bydd myfyriwr gyda 4A* yn astudio Cyfrifiadureg a Mathemateg yng Nghaerfaddon a bydd myfyriwr gyda 3A* ac A yn astudio Peirianneg Gemegol yn Birmingham. 

Bydd un o'n myfyrwyr â 3A* ac A yn astudio Mathemateg yn Warwick a myfyriwr gyda 3A* ac A yn astudio Ffiseg Ddamcaniaethol yn Durham. I gloi, bydd un o'n myfyrwyr â 3A* yn astudio Astudiaethau Ffrangeg a Sbaenaidd yn Lerpwl.  

 

Ysgol Uwchradd Llanisien

Mae myfyrwyr wedi cael canlyniadau rhagorol ac mae'r ysgol yn falch o'u holl ganlyniadau Safon Uwch. Mae rhai llwyddiannau unigol yn cynnwys;

Alex Fairhurst yw myfyriwr cyntaf yr ysgol i ennill 5 gradd A* mewn Mathemateg, Mathemateg Bellach, Daearyddiaeth, Ffiseg a CBC. Mae Amy Jones wedi ennill y graddau i Astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen ac mae Donte Day wedi sicrhau'r graddau i dderbyn ei le ym Mhrifysgol Chicago. Bydd ei radd yn cynnwys unedau yn y Dyniaethau, Cemeg, Mathemateg a Bioleg. 

Dywedodd y Pennaeth, Sarah Parry: "Hoffwn ddiolch i'r myfyrwyr am eu hamynedd a'u graslondeb yn ystod y cyfnod hwn.  Hoffwn ddiolch hefyd i'n hathrawon, ein staff cymorth a'r swyddog arholiadau am y gwaith aruthrol wnaethon nhw o dan yr amgylchiadau heriol hyn i sicrhau bod ein myfyrwyr yn ennill y cymwysterau fydd yn eu galluogi i fynd yn eu blaen i gyfnod nesaf eu bywydau mewn addysg neu gyflogaeth.

"Nid yw amgylchiadau cyflwyno'r graddau hyn yn eu gwneud yn llai gwerthfawr.  Mae'r canlyniadau hyn yn benllanw 13 blynedd o waith caled, blynyddoedd o waith sydd wedi arwain at y garfan anhygoel o bobl sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw. "

 

Mae Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau bod pob person ifanc yn cael ei gefnogi trwy'r cyfnod pontio. Bydd 'Ymrwymiad Caerdydd' i bobl ifanc, sy'n dwyn gwasanaethau'r Cyngor a phartneriaid ar draws y ddinas ynghyd i gynorthwyo pob person ifanc i gyrraedd eu potensial llawn, yn sicrhau bod cyngor a chymorth ar gael yn hawdd i bawb sy'n gadael yr ysgol ac y gallai fod angen cymorth arnynt gyda'u camau nesaf. 

Mae'r Cyngor a nifer o sefydliadau eraill wedi paratoi Cyfeiriadur Cynghori, sy'n cynnwys dolenni i amrywiaeth o gyngor a gwybodaeth y gellir eu gweld ar ffurf rithwir a thrwy apwyntiadau wyneb yn wyneb. I weld y Cyfeiriadur Cynghori i'r Rhai sy'n Gadael yr Ysgol, ewch i:www.caerdydd.gov.uk/gadaelyrysgol

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry: "Mae wedi bod yn hanfodol sicrhau bod cymorth a chyngor ar gael yn eang i'n holl fyfyrwyr a phobl ifanc sy'n casglu canlyniadau'r mis hwn, gyda ffocws arbennig ar gefnogi'r broses o drosglwyddo dysgwyr i addysg, cyflogaeth a hyfforddiant. Mae timau'r Cyngor, ysgolion a phartneriaid allanol i gyd wrth law, yn barod i helpu'r rhai sydd ei angen."