The essential journalist news source
Back
11.
August
2020.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 11 Awst

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n ymdrin â'r canlynol: mae'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol yn ceisio ceisiadau am aelodaeth a barn ar beth ddylai ei flaenoriaethau fod; mae amser o hyd i gael lleisio barn ar gynlluniau i wella Tudor Street; agallwch gysylltu â thîm canolfan gyswllt C2C tan 8pm drwy'r gwasanaeth gwe-sgwrsio byw.

 

Tasglu Cydraddoldeb Hiliol Caerdydd

Mae anghydraddoldeb hiliol yn parhau i fodoli yng Nghaerdydd, Cymru a'r DU. Yn hydref 2020, bydd Cyngor Caerdydd yn cynnull Tasglu Cydraddoldeb Hiliol i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail hil a hyrwyddo cydraddoldeb hiliol yn y ddinas.

Bydd y Tasglu yn arwain camau gweithredu cydlynol a strategol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yng Nghaerdydd, ar y cyd â'n partneriaid yn y sector cyhoeddus a chyflogwyr pwysig y ddinas. Bydd yn gyfrifol am hyrwyddo rhaglen o newid a thrawsnewid er mwyn creu dinas decach i'n preswylwyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.

Yn ystod haf 2020, byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ffrydiau gwaith â blaenoriaeth y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol er mwyn deall beth ym marn ein preswylwyr yw'r problemau mwyaf, a'r cyfleoedd mwyaf, i drigolion Caerdydd sydd o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, fel y gallwn ganolbwyntio ein syniadau a'n hadnoddau i ganfod yr atebion a fydd yn cael yr effaith fwyaf.

Galw am aelodau

Rydym yn chwilio am geisiadau ar gyfer Aelodaeth y Tasglu gan unigolion sydd â mewnwelediad a diddordeb mewn hil, ethnigrwydd a hawliau dynol sydd â'r gallu, y profiad, y cyfle a'r dylanwad i wneud newidiadau yn eu sector, eu diwydiant a'u sefydliadau.

Bydd Aelodau'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol yn cefnogi Cadeirydd y Tasglu, y Cynghorydd Saeed Ebrahim, i gyflawni rhaglen waith sy'n cyflawni'r amcanion canlynol:

  • ​Gweithio gyda chymunedau a sefydliadau Caerdydd i wella a blaenoriaethu cydraddoldeb hiliol er mwyn sicrhau dinas gynhwysol, gydlynol, ffyniannus a chynrychioliadol; 
  • Arwain datblygwyr polisïau a strategaethau Caerdydd i sicrhau bod cydraddoldeb hiliol yn cael ei gynnwys yn eu holl waith; 
  • Defnyddio pŵer cynnull y Cyngor i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, gan weithio'n agos, lle bo angen, gyda Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd; 
  • Cydlynu camau gweithredu ac argymhellion i hybu cydraddoldeb hiliol, gan ganolbwyntio ar ffrydiau gwaith â blaenoriaeth wedi'u nodi trwy ymgynghori â phreswylwyr BAME y ddinas; 
  • Adrodd am gynnydd o ran cydraddoldeb hiliol ac effaith gyffredinol anghydraddoldeb a gwahaniaethu ar gymunedau BAME yng Nghaerdydd.


Ffurflen Gais ar gyfer Ymaelodi â'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Strategaethau-cynlluniau-a-pholisiau/Cydraddoldeb-amrywiaeth-a-chydlyniant/tasglu-cydraddoldeb-hiliol/Documents/0001803%20RC%20Race%20Eq%20Task%20App%20Form%202020%20W1.pdf

Canllawiau Gwneud Cais y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Strategaethau-cynlluniau-a-pholisiau/Cydraddoldeb-amrywiaeth-a-chydlyniant/tasglu-cydraddoldeb-hiliol/Documents/0001803%20RC%20Race%20Eq%20Task%20App%20Form%20Guidance%202020%20W2.pdf

Anfonwch eich ffurflen gais wedi'i llenwi i  timcydraddoldeb@caerdydd.gov.uk  erbyn y dyddiad cau, sef dydd Gwener 18 Medi 2020, erbyn 5pm.

Ymgynghoriad: Eich blaenoriaethau ar gyfer Tasglu Cydraddoldeb Hiliol Caerdydd

Er mwyn paratoi ar gyfer lansio'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol, rydym yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus i geisio barn preswylwyr Caerdydd, yn enwedig y rheini o gefndiroedd Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, ar flaenoriaethau strategol y Tasglu.

Rydym am wybod beth yw barn ein preswylwyr ar y problemau mwyaf, a'r cyfleoedd mwyaf, i drigolion Caerdydd sydd o gefndiroedd Pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig, fel y gallwn ganolbwyntio ein syniadau a'n hadnoddau i ddod o hyd i'r atebion a fydd yn cael yr effaith fwyaf.

Gweld yr ymgynghoriad yma:

https://wh1.snapsurveys.com/s.asp?k=159680484480

 

Hwb adfywio gwerth miliynau o bunnoedd i Tudor Street

Bydd Tudor Street yng Nghaerdydd yn elwa ar raglen adfywio gwerth miliynau o bunnoedd sydd â'r nod o greu ardal siopa ddeniadol a bywiog ar gyfer y gymuned leol ac ymwelwyr ag ardal Glan-yr-afon.

Bydd cam un y datblygiad yn gweld £1m yn cael ei fuddsoddi mewn safleoedd masnachol sydd wedi ymrwymo i gymryd rhan yng nghynllun gwella adeiladau Tudor Street.

Mae cyllid pellach o tua £3m wedi'i glustnodi ar gyfer gwaith yn gynnar yn 2021 a fydd yn galluogi trawsnewidiad mawr i amgylchedd y stryd gyfan.

Mae ymgynghoriad ar waith 2021 yn cau ar 17 Awst, a nod y cynllun yw cyflawni:

 

  • Lôn feiciau ddwy ffordd newydd, ar wahân, o Bont Stryd Wood i'r gyffordd â Clare Street
  • Ynys fysus newydd gyferbyn â Plantagenet Street, yn hwyluso teithio ar fysus i'r Sgwâr Canolog a chanol y ddinas yn ehangach
  • Seilwaith gwyrdd newydd, yn benodol coed a gerddi glaw, gan hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer bioamrywiaeth a gwell ansawdd aer
  • Amgylchedd cyhoeddus dymunol a chroesawgar, gwella'r Porth i Dde Glan-yr-afon o ganol y ddinas, gyda blaenoriaeth i gerddwyr drwy balmentydd lletach a gwell croesfannau i gerddwyr
  • Gwell mynediad i Daith Taf drwy ailalinio'r ramp a'r grisiau presennol wrth y gyffordd â Tudor Street ac
  • Amgylchedd stryd rhagorach, gyda phalmentydd, celfi stryd a goleuadau newydd

Cliciwch yma i weld yr ymgynghoriad ac i ddweud eich dweud:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/Projectau-Trafnidiaeth/Ymgynghoriadau/Pages/default.aspx

 

Siaradwch â ni ar-lein

Os oes angen i chi siarad â ni ar ôl 6pm does dim angen aros i'n llinellau ffôn agor eto yn y bore.

Gallwch gysylltu â thîm canolfan gyswllt C2C tan 8pm drwy'r gwasanaeth gwe-sgwrsio byw.

Darllenwch fwy yma:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Hafan/Cysylltu-ar-Cyngor/Siaradwch-a-ni-arlein/Pages/default.aspx