04/08/20 - Lansio Caffi Cwr y Castell yn Llwyddiannus
Agorodd profiad ciniawa newydd Caerdydd yn yr awyr agored ar Stryd y Castell i'r cyhoedd yn swyddogol ddydd Gwener gyda dechrau anhygoel yn cynhyrchu dros £80,000 i'r economi leol.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24490.html
07/08/20 - Cyflwyno mesurau diogelwch COVID mewn pedair canolfan siopa ardal
Bwriedir dechrau ar y gwaith o addasu pedair o ganolfannau siopa ardal Caerdydd i helpu busnesau i fasnachu'n ddiogel drwy'r pandemig COVID a galluogi ymwelwyr i gadw at reoliadau ymbellhau cymdeithasol.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24494.html
07/08/20 - Yr ardal chwarae yn Llyn Parc y Rhath ymysg yr 21 o ardaloedd chwarae yng Nghaerdydd sy'n ailagor
Caiff 21 o ardaloedd chwarae plant yng Nghaerdydd, gan gynnwys y cyfleuster poblogaidd yn Llyn Parc y Rhath, eu hailagor y penwythnos hwn. Bydd agor y cyfleusterau hyn yn golygu bod 90 o safleoedd ledled y ddinas ar gael i'w defnyddio.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24496.html
07/08/20 - Canolfan Ffitrwydd CF11 i ail-agor
Bydd Ffitrwydd CF11 , y ganolfan hamdden a weithredir gan y Cyngor yn Nhrem-y-môr, yn ail-agor o ddydd Llun, 10 Awst.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24498.html
07/08/20 - Cyngor Caerdydd ar frig siart boddhad preswylwyr
Preswylwyr Caerdydd yw'r hapusaf yng Nghymru gyda gwasanaethau eu cyngor, datgelodd arolwg newydd gan Lywodraeth Cymru.
Darllenwch fwy yma: