The essential journalist news source
Back
4.
August
2020.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 4 Awst

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cynnwys: penwythnos cyntaf caffi newydd Cwr y Castell; y diweddaraf am 'Amser am Newid Go Iawn', yr ymgyrch sydd â'r nod o adeiladu ar lwyddiant y gwaith o helpu pobl fregus oddi ar y strydoedd; canfasio blynyddol pleidleiswyr cymwys ar waith, gyda phlant 14 i 16 oed yn gallu cofrestru am y tro cyntaf; a'r Ymgyrchwyr Sbwriel sy'n gobeithio newid arferion drwg y rhai sy'n gollwng sbwriel.

 

Lansio Caffi Cwr y Castell yn Llwyddiannus

Agorodd profiad ciniawa newydd Caerdydd yn yr awyr agored ar Stryd y Castell i'r cyhoedd yn swyddogol ddydd Gwener gyda dechrau anhygoel yn cynhyrchu dros £80,000 i'r economi leol.

Ar ôl y penwythnos cyntaf llwyddiannus, gallai hyd at 30 o fusnesau gymryd rhan ym menter Caffi Cwr y Castell gyda nifer fawr yn barod i ymuno erbyn y penwythnos, gan gynnig detholiad ehangach fyth o fwytai i ymwelwyr eu mwynhau.

Mae'r profiad bwyta newydd yn galluogi bwytai a chaffis yng nghanol y ddinas i fasnachu mewn man gyda 240 o seddi yn yr awyr agored, dan orchudd, i fwyta o flaen un o dirnodau mwyaf eiconig Caerdydd - Castell Caerdydd.

Mae'r cyfleusterau newydd wedi eu gosod i alluogi busnesau - a allai gael trafferth gwneud elw dan do oherwydd y rheoliadau cadw pellter dau fetr sydd yng Nghymru - i fasnachu mewn lleoliadau awyr agored diogel sy'n caniatáu cadw pellter cymdeithasol.

Mae cwsmeriaid y Caffi ar Stryd y Castell yn defnyddio eu ffonau clyfar i ddefnyddio platfform ar-lein drwy deipioCardiff-castle.yoello.comi mewn i'w porwyr neu drwy sganio cod QR sydd wedi'i osod ar eu bwrdd. Mae hyn yn eu galluogi i archebu danfoniadau o nifer o fwytai a chaffis ar draws y ddinas. Mae'r cwsmer yn talu drwy'r platfform talu diogel ac mae'r bwyd a'r ddiod yn cael eu danfon at y bwrdd.

Mae'r cyfleuster newydd ar Stryd y Castell wedi cael croeso cynnes gan fusnesau yn dilyn y penwythnos agoriadol llwyddiannus.

Wok to Walk -'Mae wedi bod yn dda iawn. Rydym wedi derbyn llif cyson o archebion i fynd ar y cyd â'n masnach arferol yn y siop. Rydym yn hapus iawn gyda'r ffordd y mae'r cyfan yn gweithio.'

Dusty Knuckle- 'Rydym wedi cael ein synnu gan ba mor boblogaidd y mae wedi bod ac mae'n wych beth mae Cyngor Caerdydd, Caerdydd AM BYTH a Yoello wedi'i sefydlu i gefnogi busnesau fel ein busnes ni. Bu'n rhaid i ni gynyddu ein stoc yn ddramatig i ymdopi â'r galw gan fod y fasnach wedi bod yn wych.'

Nata & Co- 'Mae'n cael sêl bendith fawr gennym ni gan ein bod ni wedi bod yn brysur iawn.'

Marco Pierre White- ''rydym wedi bod yn hapus iawn gyda'r galw gan bobl wych Caerdydd. Mae wedi.'

Dywedodd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Rydym wrth ein boddau gyda'r dechrau a gafodd Caffi Stryd y castell ac rydym yn falch iawn bod y sector lletygarwch wedi gallu manteisio ar gynnig Stryd y Castell. Ein bwriad bob amser oedd ceisio diogelu cynifer o swyddi ag y gallwn er gwaethaf y pandemig ac rydym am ddiolch i bobl Caerdydd a ddaeth allan yn eu miloedd i ddangos eu cefnogaeth.

"Gyda thywydd cynnes yn y rhagolygon ar gyfer y penwythnos hwn, rydyn ni'n disgwyl i fwy o bobl ddod draw i roi cynnig arni. Mae'n ffordd wych i bobl gefnogi eu hoff fwytai a chaffis a allai fel arall gael trafferth i weithredu'n broffidiol oherwydd y rheolau ymbellhau cymdeithasol 2 fetr. Ein neges i bawb yw, dewch draw, eisteddwch, mwynhewch eich bwyd mewn lleoliad gwych, ond cofiwch gadw pellter cymdeithasol oddi wrth eraill a gadewch i'n staff ar y safle helpu."

Dywedodd Sina Yamani, Prif Swyddog Gweithredol Yoello: "Roedd agor Caffi Cwr y Castell yn llwyddiant ysgubol, gyda'r holl fyrddau wedi'u llenwi drwy gydol y dydd a rhesi mawr o bobl yn aros i gael eu derbyn. Cynhyrchodd cyfanswm y penwythnos dros £80,000 i'r economi leol, sy'n wych o ystyried bod y rhan fwyaf o'r partneriaid wedi gorfod cau'n gynnar yn sgil rhedeg allan o stoc."

Dywedodd Adrian Field, Cyfarwyddwr Gweithredol Caerdydd AM BYTH: "Rydym wedi bod mewn cysylltiad cyson â phob un o'n haelodau drwy gydol y cyfnod anodd hwn, a bu heriau i'w hwynebu yn y sector lletygarwch fel un o'r sectorau olaf i ailagor. Rydym yn falch iawn o weithio gyda Yoello a Chyngor Caerdydd i gynnig y cyfle i gwsmeriaid fwyta allan i'n busnesau. Rydym yn credu bod hwn yn gyfle gwych i gynifer o fusnesau gael archebion ychwanegol, i gynifer o fusnesau nad oes ganddynt lawer o le nac adnoddau i greu eu hatebion digidol eu hun ar yr adeg hon.

Mae clywed bod cymaint o'n haelodau eisoes wedi gweld gwahaniaeth cadarnhaol yn union pam yr oeddem am roi'r cyfle hwn iddynt ac rydym wrth ein boddau, ar ôl cyfnod mor fyr o amser, ei fod eisoes wedi gwneud gwahaniaeth. "

Mae'r Cyngor wedi nodi rhai cynghorion call i bawb sy'n ymweld â Chaffi Cwr y Castell:

Archebwch bopeth ar y dechrau- Gan mai slot dwy awr yn unig sydd gennych, argymhellir eich bod yn archebu'r holl fwydydd a diodydd yn syth fel na fyddwch yn rhedeg allan o amser. Os hoffech archebu alcohol, bydd angen i chi archebu £10 gwerth o fwyd (Bydd y polisi ‘Herio 25' ar waith).

Sicrhewch eich bod yn edrych ar yr amseroedd aros- Bydd gan y bwytai/caffis wahanol amseroedd aros a bydd gan rai amseroedd aros hirach - felly os ydych ar frys ceisiwch ddewis un a all eich gweini yn ôl yr amser sydd gennych.

Archebwch bopeth o'r un lle- Gall archebu prydau o wahanol fwydlenni fod yn wych os oes gan eich parti chwaeth wahanol, ond os byddwch yn archebu ac yn talu ar wahân, byddant yn cyrraedd ar wahanol adegau. Felly beth am archebu o'r un lle, a thalu mewn un taliad? Wedyn gall pawb fwyta ar yr un pryd.

Mae cynllun Estyn Llaw drwy Fwyta Allan y Llywodraethdim ond yn berthnasol pan gaiff bwydydd a diodydd eu gwerthu i'w bwyta/yfed yn syth ar safle.  Gan fod Caffi Cwr y Castell yn cael ei ystyried yn wasanaeth cludfwyd yn anffodus, nid yw'r cynllun yn berthnasol, hyd yn oed os yw'r masnachwr yr ydych yn archebu ohono yn gyfranogwr yn ei safle ei hun.

A oes gennych unrhyw gwestiynau? Bydd y tîm ar y safle yn hapus helpu, neu ewch i'r adran Cwestiynau Cyffredin yn:

http://www.croesocaerdydd.com/caffi-cwr-castell/

 

Amser am Newid Go Iawn

Mae angen eich help arnom i sicrhau nad yw pobl sy'n agored i niwed yn cael eu tynnu'n ôl i fywyd ar y stryd, ar ol y llwyddiant a gawsom yn cefnogi pobl i mewn i lety yn ystod y cyfnod cloi.

Os ydych chi'n poeni am rywun, anfonwch am help. Tecstiwch newigoiawn a manylion y lleoliad i 80800

Cefnogwch newid go iawn drwy beidio â rhoi eich newid mân.

Darllenwch fwy yma:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Tai/digartrefedd/newid-go-iawn-i-bobl-ddigartref/Pages/default.aspx

 

Canfasio Blynyddol 2020 - Peidiwch â cholli eich llais

Mae'r canfasio blynyddol o bleidleiswyr cymwys yn y ddinas bellach ar y gweill, gyda rhai 14 i 16 oed yn gallu cofrestru i bleidleisio am y tro cyntaf.

Mae'r gyfraith wedi newid yng Nghymru, felly bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn gallu pleidleisio yn etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf ym mis Mai. Bydd dinasyddion tramor cymwys sy'n byw yng Nghaerdydd hefyd yn gallu cymryd rhan, drwy gofrestru i bleidleisio.

Anogir trigolion ledled y ddinas, gan gynnwys y grwpiau hyn o bleidleiswyr sydd newydd eu rhyddfreinio, i beidio â cholli eu llais ar benderfyniadau sy'n effeithio arnynt drwy sicrhau bod eu manylion cofrestru etholiadol yn gyfredol.

Cynhelir y canfasio dros yr haf bob blwyddyn ac mae'n sicrhau bod cofrestr etholiadol Caerdydd yn cael ei diweddaru, gan nodi unrhyw breswylwyr nad ydynt wedi'u cofrestru fel y gellir eu hannog i wneud hynny.

Cysylltir â phreswylwyr mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys drwy'r post, dros y ffôn neu drwy e-bost er mwyn gwirio bod y wybodaeth a gedwir am eu haelwyd yn parhau'n gywir ac y gellir gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol.   Gofynnir i breswylwyr gysylltu â thîm Gwasanaethau Etholiadol y Cyngor cyn gynted â phosibl os oes angen unrhyw newidiadau.

Gall rhai 14 i 16 oed yng Nghymru a dinasyddion tramor cymwys bellach gofrestru i gymryd rhan yn etholiadau'r Senedd 2021.  Bwriedir cynnal etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throsedd ym mis Mai ac er nad yw'r etholfraint newydd yn ymestyn i'r etholiad penodol hwn, anogir pob preswylydd cymwys arall i gofrestru er mwyn gallu pleidleisio.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24457.html

 

Pencampwr sbwriel sy'n gobeithio y bydd ei gweithredoedd yn newid arferion taflwyr sbwriel

Pan aeth gwledydd Prydain i gyfnod y cloi ym mis Mawrth a phan oeddem yn treulio amser yn ein gerddi neu allan yn cerdded bob dydd, darganfu llawer ohonom werthfawrogiad o'r newydd o'r awyr agored.

Cafodd Charlotte Strevens - a symudodd o'r Rhondda i Lanedern gyda'i gŵr yn gynharach eleni - gymaint o ysbrydoliaeth gan ei hamgylchedd lleol fel ei bod wedi penderfynu helpu i'w wneud yn lle gwell.

Yma, yn ei geiriau ei hun, mae hi'n dweud wrthym am ei stori wirfoddoli Carwch Eich Caerdydd:

"Wrth i Covid-19 ein taro ni i gyd a chyda'r byd wedi oedi a gwaith wedi ffyrlo, cefais amser i fyfyrio a gwerthfawrogi'r awyr iach.

Roedd eistedd yn yr ardd a mynd am dro yn lleol wrth wrando ar yr adar yn fy annog i wella fy hun ychydig yn fwy. 

Dwedodd fy mam-yng-nghyfraith wrthyf am grŵp hel sbwriel Pentwyn a Llanedern felly penderfynais holi mwy amdano. Ymunais y diwrnod hwnnw, a'r diwrnod wedyn gollynwyd offer casglu sbwriel wrth fy nrws.

Os ydw i'n onest, roedd mynd allan y tro cyntaf braidd yn frawychus i ddechrau gan mod i'n poeni am sylwadau angharedig. Fodd bynnag, fe'i cefais yn dasg heddychlon iawn ac er syndod imi, mae'r bobl leol wedi fy stopio ychydig o weithiau, yn amrywio o blant i henoed, i ddiolch imi a dod i ddeall y rheswm pam yr wyf yn gwneud hyn.

Fy rheswm? Allai ond gobeithio pan fydd pobl yn sylweddoli â'u llygaid eu hunain bod yn rhaid i rywun godi'r llanastr hwnnw, efallai y byddant yn meddwl ac yn cymryd yr ychydig gamau ychwanegol tuag at y llu o finiau cyfagos i gael gwared â'u sbwriel.

Ar ôl llenwi bag gyda sbwriel mae'n gwneud i mi deimlo'n falch a ‘mod i wedi cyflawni rhywbeth. Mae'n hawdd cerdded heibio a meddwl, nid fi bia hwnna, pam ddylwn i ei godi? Ond os oedd yn rhywbeth yn eich cartref mae'n debyg y byddech yn ei wneud beth bynnag ... Rwy'n credu ei bod yn bryd i bobl sylweddoli mai'r Ddaear yw eich cartref, eich tŷ chi yw eich lloches!  

Drwy gasglu sbwriel, rwy wedi sylwi bod y parciau a'r ardaloedd gwyrdd yn edrych yn fwy deniadol, ond yn anffodus, rwy wedi sylwi bod mannau poblogaidd cyffredin lle mae gofyn mynd i'r afael â nhw bob dydd.

Rwy' wedi teimlo'n fwy pwrpasol ers casglu sbwriel tra mod wedi fy ffyrlo, mae'n eich annog i fynd allan o'r tŷ ac yn rhoi strwythur i'ch diwrnod a galla i yn bendant gymryd yr hyn rwy' wedi'i ddysgu yn fy rôl bresennol pan fydda i yn dychwelyd i'r gwaith fel Ymarferydd gofal plant cyn-ysgol."

Mae Charlotte yn annog unrhyw un a hoffai gasglu sbwriel i fynd amdani.

Ychwanega, "Os ydych wedi bod yn meddwl am y peth a bod yr amser gennych... rhowch gynnig arni, efallai y byddwch yn ei hoffi ac yn gallu ymwneud â phobl o'r un anian, o bosib yn gwneud mwy o ffrindiau ar hyd y ffordd hyd yn oed."

Diolch i Charlotte a'n Pencampwyr Sbwriel sy'n parhau i helpu i Gadw Caerdydd yn Daclus!

Os ydych chi'n teimlo eich bod wedi'ch ysbrydoli gan stori Charlotte ac yn awyddus i gymryd rhan, mae rhagor o arweiniad ar gasglu sbwriel tra'n cynnal pellter cymdeithasol ar gael ar wefan Cadwch Gaerdydd yn Daclus:

https://www.keepcardifftidy.com/cy/

Rhowch gwybod am sbwriel drwy ein gwefan:

http://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/addysg-a-gorfodaeth-gwastraff/sbwriela/Pages/default.aspx

Neu ymunwch â miloedd o drigolion ac ymwelwyr sydd wedi lawrlwytho app Cardiff Gov am ffordd glyfrach i gysylltu â gwasanaethau'r cyngor a sôn am daflu sbwriel yma:

http://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/app-caerdydd-gov/Pages/default.aspx