The essential journalist news source
Back
2.
August
2020.
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli (3 Awst)

 

28/07/20 - Toiledau ym mharciau Caerdydd yn ail-agor

Mae mwyafrif y toiledau sy'n cael eu gweithredu gan y Cyngor ym mharciau Caerdydd wedi ail-agor gyda threfniadau glanhau rheolaidd a mesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith i sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24451.html

 

28/07/20 - Darpariaeth Ôl-16 ar gael o hyd mewn lleoliadau Chweched Dosbarth

Mae nifer o leoedd ar gael mewn lleoliadau chweched dosbarth ledled y ddinas ar gyfer mis Medi, ac anogir disgyblion sy'n cwblhau Blwyddyn 11 yr haf hwn i ddarganfod yr ystod amrywiol o opsiynau sydd ar gael iddynt.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24453.html

 

29/07/20 - Canfasio Blynyddol 2020 - Peidiwch â cholli eich llais

Mae'r canfasio blynyddol o bleidleiswyr cymwys yn y ddinas bellach ar y gweill, gyda rhai 14 i 16 oed yn gallu cofrestru i bleidleisio am y tro cyntaf.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24457.html

 

29/07/20 - Dim sgrybs? Neuadd Llanofer yn achub y dydd

Mae gweithwyr a gwirfoddolwyr wedi bod yn gwnïo gyda'r gorau mewn project cymunedol i greu dillad gwaith ar gyfer gweithwyr iechyd yn ystod argyfwng y Coronafeirws. Mae'r staff a'u cynorthwywyr o'r ganolfan dysgu cymunedol a'r celfyddydau wedi rhoi eu hamser, eu sgiliau a'u harbenigedd ar gyfer y project.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24459.html

 

29/07/20 - Mae Diwrnod Chwarae Caerdydd yn mynd ar-lein ar gyfer 2020

Mewn unrhyw flwyddyn arall ar Ddiwrnod Chwarae Cenedlaethol, byddai cannoedd o blant yn mwynhau digwyddiad Diwrnod Chwarae Cenedlaethol wedi'i drefnu gan Dîm Gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd yn un o fannau gwyrdd y ddinas.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24461.html

 

29/07/20 - Beicffyrdd newydd dros dro ar y gweill yn rhan o gynllun adfer y ddinas

Mae Caerdydd - a bleidleisiwyd y ddinas orau yn y DU i feicio ynddi yn ddiweddar - yn gosod beicffyrdd newydd dros dro. Bwriedir gosod y beicffyrdd newydd erbyn yr hydref i gynnig llwybrau diogelach, wedi eu gwahanu, i alluogi pobl i deithio ar feic ar rai o ffydd prysuraf Caerdydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24465.html

 

29/07/20 - Caffi Cwr y Castell yn barod i agor

Bydd profiad bwyta allan newydd cyffrous Caerdydd ar Stryd y Castell yn agor i'r cyhoedd yn swyddogol ddydd Gwener, 31 Gorffennaf, yn croesawu ymwelwyr i'r Un Ddinas - gydag ychydig o newidiadau.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24466.html

 

31/07/20 - Parc y Mynydd Bychan ymysg y 20 ardal chwarae ychwanegol i ailagor yng Nghaerdydd

Bydd 20 yn fwy o ardaloedd chwarae plant yng Nghaerdydd yn ailagor, gan gynnwys Parc y Mynydd Bychan. Mae 50 safle eisoes wedi eu hagor ledled y ddinas.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24477.html