The essential journalist news source
Back
31.
July
2020.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 31 Gorffennaf

Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd, sy'n cynnwys: agor Caffi Cwr y Castell; beicffyrdd dros dro yn dod i Gaerdydd; 20 ardal chwarae arall i ailagor; mwy o Hybiau cymunedol yn ailagor; a, diolch i Neuadd Llanofer, mwy o sgrybs i weithwyr iechyd.

 

Caffi Cwr y Castell wedi agor heddiw

Heddiw (dydd Gwener, 31 Gorffennaf), oedd yr agoriad swyddogol i'r cyhoedd ar brofiad bwyta newydd cyffrous ar Stryd y Castell, Caerdydd, gan groesawu ymwelwyr i'r Un Ddinas - ond bod pethau ychydig yn wahanol.

Mae'r ardal fwyta awyr agored â 240 o seddi dan orchudd yn croesawu pobl i fwynhau bwyd o ddetholiad eang o fwytai'r ddinas a hynny o flaen un o olygfeydd mwyaf deniadol Caerdydd - ei chastell hardd.

Mae Caffi Cwr y Castell - a godwyd ar Stryd y Castell ei hun - yn rhan o ystod ehangach o fesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i gynyddu mannau awyr agored y gellir eu defnyddio gan y sector lletygarwch sy'n ceisio adfer yn dilyn effeithiau'r pandemig.

Mae'r ardal letygarwch newydd yn galluogi busnesau - a allai gael trafferth gwneud elw dan do oherwydd y rheoliadau cadw pellter dau fetr sydd yng Nghymru - i fasnachu mewn lleoliadau awyr agored diogel sy'n caniatáu cadw pellter cymdeithasol.

Bydd ymwelwyr yn gallu archebu bwyd a diodydd i'w danfon o ddetholiad eang o fwytai a chaffis gan ddefnyddio cod QR ar y safle neu drwy deipio'r cyfeiriad URL Cardiff-castle.yoello.com i'w ffonau a dilyn y cyfarwyddiadau.

Mae'r man awyr agored newydd yn agor o 10am tan 10pm saith diwrnod yr wythnos gyda'r archebion olaf am 8.30pm.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Roedden am greu man deniadol y bydd preswylwyr ac ymwelwyr wrth eu bodd yn ei ddefnyddio a man a all helpu busnesau lletygarwch lleol i ddechrau cynnal eu busnes unwaith eto. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl i fwynhau'r ardal newydd a fydd yn cynnig golwg drawiadol i gwsmeriaid o'n castell eiconig yng nghanol y ddinas. Rydym yn gobeithio y bydd yn chwarae rhan bwysig yn helpu busnesau yng Nghaerdydd i oroesi canlyniadau'r pandemig."

Sut mae'n gweithio:

Ar agor: 7 diwrnod yr wythnos

Amseroedd: 10am-10pm (archebion olaf 8:30pm)

Amser aros: hyd at ddwy awr

Nifer y lleoedd: 240 o seddi, archebu bwyd o fwytai a chaffis yng nghanol y ddinas

Lleoliad: Stryd y Castell

 

  1. Nid oes modd archebu ymlaen llaw, felly pryd bynnag y byddwch chi'n barod, bachwch eich ffrindiau neu'ch teulu a bant â chi i Stryd y Castell (uchafswm nifer y seddi ar un bwrdd yw chwech). Mae 240 o seddi wedi'u trefnu ar batrwm byrddau i bedwar neu chwech, ond os ydych am ddod ar eich pen eich hun neu fel cwpl, ewch i un o'r byrddau i bedwar.

 

  1. Byddwch yn gweld dwy ardal fwyta ar wahân, ond maent yn gweithredu yn yr un modd.  Dewiswch pa un bynnag sy'n mynd â'ch bryd - rydych chi'n gallu eistedd yno am hyd at ddwy awr felly man a man i chi fod yn gyffyrddus!

 

  1. Ar adegau prysur, efallai y bydd angen i chi giwio ond pan ddaw eich tro, fe fydd tywysydd yn eich cyfeirio chi a'ch criw at un o'r byrddau gwag. Mae'r cyfleusterau'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio. Mae'r ardal yn wastad a gellir symud cadeiriau i gynnwys cadeiriau olwyn a choetshys babis (sylwer nad oes cadeiriau uchel ar gael).

 

  1. Cymerwch sedd, a gallwch fod yn dawel eich meddwl bod y caffi wedi'i ddylunio i fod yn ddiogel ac i alluogi cadw pellter cymdeithasol. Bydd yr ymbarelau patio mawr yn eich diogelu rhag yr elfennau - boed law neu hindda. Am resymau amgylcheddol a chyflenwi ynni, nid oes unrhyw wresogyddion ar y safle. Os yw hi'n ddiwrnod oerach, beth am ddod â siôl neu flanced i ymlacio? Ni allwn gynnig rhai oherwydd perygl halogiad.

 

  1. Bydd diheintydd dwylo yn cael ei ddarparu hefyd a bydd staff glanhau wedi'u lleoli'n barhaol ar y safle i gadw'r ardal yn lân ac yn glir o ddeunyddiau pacio, platiau wedi'u defnyddio ac ati, er y gofynnir i gwsmeriaid fynd â'u gwastraff i'r man ailgylchu ar y ffordd allan. 

 

  1. Hefyd mae toiledau i gwsmeriaid ym maes parcio tŵr y cloc sy'n cynnwys toiled i'r anabl a chyfleusterau newid cewynnau.

 

  1. Rydym yn gwybod bod disgwyl i chi aros ddau fetr i ffwrdd oddi wrth ffrindiau ac aelodau'r teulu y tu allan i'ch "swigen", felly mae cadeiriau ar wahân wrth y byrddau. Chi sy'n gyfrifol am gadw pellter cymdeithasol oddi wrth eich ffrindiau y tu allan i'ch ‘swigen', yn unol â chyfansoddiad eich grŵp.

 

  1. I gychwyn eich archeb, chwiliwch am arwydd y cod QR ar eich bwrdd. Agorwch gamera eich ffôn a sganiwch y cod - neu deipiwch cardiff-castle.yoello.com i'ch porwr gwe a gallwch archebu yn y dull hwnnw.  

 

  1. Bydd Caffi Cwr y Castell yn rhan o'r system Tracio ac Olrhain. Bydd botwm Tracio ac Olrhain yn ymddangos pan fyddwch yn defnyddio'r URL Cardiff-castle.yoello.com neu wrth i chi sganio cod QR y bwrdd i gael mynediad i Yoello. Bydd angen i gwsmeriaid glicio ar hwnnw a llenwi ffurflen fer cyn gwneud eu harcheb gyntaf. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl i ni gysylltu â chi a'ch grŵp ynglŷn ag unrhyw ganlyniadau COVID-19 positif a allai effeithio arnoch. 

 

  1. Dyma lle mae'r hwyl yn dechrau o ddifri! Gyda chynifer o hoff fannau bwyta'r ddinas yn rhan o'r cynllun, bydd y dewis bron yn ddi-ben-draw - felly beth bynnag sy'n tynnu dŵr i'ch dannedd, bydd rhywbeth yn siŵr o blesio o'r lleoliadau a'r bwydlenni gwahanol ar eich sgrin.

 

  1. Ar ôl i chi ddewis pa fwydlen yr hoffech archebu ohoni, nodwch yr amser aros, a thalwch gyda cherdyn credyd/debyd pan fyddwch yn barod. Cofiwch: os bydd aelodau o'ch parti yn archebu o wahanol fusnesau, bydd yr archebion yn cael eu prosesu ar wahân a gallant gyrraedd ar adegau gwahanol.

 

  1. Eisteddwch ac ymlaciwch tan i'ch bwyd a'ch diodydd gyrraedd eich bwrdd. Bydd popeth sydd ei angen arnoch yn cyrraedd gyda'ch archeb. Bydd modd compostio'r holl flychau, y cynwysyddion diodydd a'r cyllyll a'r ffyrc, felly gallen nhw fod o bren neu wedi'u seilio ar startsh.

 

  1. Nid oes lleiafswm gwariant oni bai eich bod am archebu alcohol. Os hoffech gael alcohol bydd angen i chi wario £10 o leiaf ar fwyd. Felly, os bydd awydd coffi arnoch, bachwch sedd ac ewch amdani, ond cofiwch, mae'r ardal wedi ei chynllunio i geisio helpu busnesau i wneud digon o arian i oroesi canlyniadau COVID-19 - felly gwariwch ychydig yn fwy os gallwch chi ei fforddio a theimlo'n dda am helpu eich hoff fwyty drwy'r pandemig.

 

  1. Wedi i chi orffen gloddesta, neu ar ôl i'ch dwy awr ddod i ben, casglwch eich sbwriel a'i roi yn y biniau ailgylchu ar eich ffordd allan.

 

Cynghorion Craff!

 

  1. Gan fod gennych slot o ddwy awr, argymhellir eich bod yn archebu'r bwyd a'r diodydd i gyd ar y dechrau, rhag ofn na fydd digon o amser gennych yn ddiweddarach - ac os byddwch am archebu diodydd alcoholig, bydd angen i'ch parti archebu gwerth o leiaf £10 o fwyd a bydd polisi ‘Herio 25' ar waith.

 

  1. Bydd amser aros am archebion yn cael ei arddangos yn yr app ac efallai y bydd amseroedd aros hirach i rai nag eraill, felly os ydych ar frys, ceisiwch ddewis bwyty a all weini o fewn yr amser sy'n addas i chi.

 

  1. Gall archebu prydau o wahanol fwydlenni fod yn wych os oes gan eich parti chwaeth wahanol, ond os byddwch yn archebu ac yn talu ar wahân, byddant yn cyrraedd ar wahanol adegau. Felly beth am archebu o'r un lle, a thalu mewn un taliad? Wedyn gall pawb fwyta ar yr un pryd. 

 

  1. Gobeithio y cewch ymweliad gwych, ond os bydd unrhyw broblemau gyda'ch bwyd, dylech gyfeirio cwynion yn ôl i'r bwyty yr archeboch chi ganddo.  Darperir manylion cyswllt y bwyty drwy app Yoello, felly os ydych yn dymuno trafod unrhyw beth neu wneud cwyn dylid eu cyfeirio at y bwyty dan sylw.

 

Dyma'r bwytai a'r caffis sydd wedi cofrestru â Yoello ar hyn o bryd, ond mae mwy yn cael eu hychwanegu drwy'r amser

Bute & Co Coffee House

Bwyta Bwyd Bombai (3B's)

Dusty Knuckle

FABurgers Ltd

The Grazing Shed

Heavenly Desserts

Keralan Caravan

Marco Pierre White Steakhouse Bar & Grill

Mother Nature Cafe

Nata & Co

Wally's Deli & Kaffeehaus

Wok to Walk

Zerodegrees Cardiff

 

Beicffyrdd newydd dros dro ar y gweill yn rhan o gynllun adfer y ddinas

Mae Caerdydd - a bleidleisiwyd y ddinas orau yn y DU i feicio ynddi yn ddiweddar - yn gosod beicffyrdd newydd dros dro.

Bwriedir gosod y beicffyrdd newydd erbyn yr hydref i gynnig llwybrau diogelach, wedi eu gwahanu, i alluogi pobl i deithio ar feic ar rai o ffydd prysuraf Caerdydd.

Mae'r ddau lwybr - y feicffordd ‘Traws-ddinas' a'r feicffordd ‘Cylch y Bae' - yn cael eu datblygu'n gynt yn rhan o gynlluniau adfer COVID y Cyngor ac maent yn cydweddu â'r weledigaeth beicio a nodwyd ym Mhapur Gwyn Trafnidiaeth y Cyngor.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae traffig ar ein ffyrdd wedi lleihau'n ddramatig nawr bod nifer o fusnesau a sefydliadau yn dewis gadael i'w staff barhau i weithio gartref.

"Mae'r lefelau traffig presennol ar 66% o'r rhai cyn y cyfnod cloi, gyda'r llif traffig yng nghanol y ddinas yn is o hyd ar 50%. Tra bod y lefelau traffig wedi gostwng, mae'r defnydd o'r cynllun ‘nextbike' wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y cyfnod cloi, gyda dros 14,000 o gwsmeriaid newydd, a oedd yn cynnwys 114,383 o sesiynau llogi rhwng mis Mawrth a mis Mehefin, sy'n drawiadol.

"Gyda darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn rhedeg ar lai o gapasiti, mae llawer o bobl bellach yn dewis cerdded a beicio yng Nghaerdydd. Mae hyn yn newyddion gwych, yn wych i iechyd pobl ac yn wych i'r amgylchedd. Rydym eisiau sicrhau y gall unrhyw un sy'n gallu beicio wneud hynny mewn modd mwy diogel ac atyniadol.

"Rydyn ni'n gwybod bod yna rai pobl sy'n newydd i feicio, gan gynnwys pobl ifanc iawn, ac mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y bobl hyn mor ddiogel â phosibl."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24465.html

 

Parc y Mynydd Bychan ymysg y 20 ardal chwarae ychwanegol i ailagor yng Nghaerdydd

Bydd 20 yn fwy o ardaloedd chwarae plant yng Nghaerdydd yn ailagor, gan gynnwys Parc y Mynydd Bychan. Mae 50 safle eisoes wedi eu hagor ledled y ddinas.

Mae'r ardaloedd chwarae yn cael eu hailagor yn raddol, gan ddilyn ymagwedd diogelwch yn gyntaf a gyda'r nod o sicrhau bod plant ledled y ddinas yn gallu cael rhyw fath o ddarpariaeth chwarae yn eu hardal leol cyn gynted â phosibl.

Bydd 14 ardal chwarae yn ailagor o ddydd Sadwrn (1 Awst). Dyma nhw:

Parc Hamadryad(Butetown);Clos Emerson(Caerau);Rhydlafar(Creigiau a Sain Ffagan);Wilson Road i Blant bach(Trelái);Wilson Road i Blant Iau(Trelái);Parc y Mynydd Bychan(y Mynydd Bychan);Parc Hailey i Blant Bach(Ystum Taf);Parc Hailey i Blant Bach(Ystum Taf);Bryn Glas i Blant Iau(Llanisien);Bryn Glas i Blant Bach(Llanisien);Maes Hamdden Tredelerch(Llanrhymni);Gerddi Despenser i Blant Iau(Glan-yr-afon);Gerddi Despenser i Blant Bach(Glan-yr-afon);Ffordd Greenway(Tredelerch).

Bydd 6 ardal chwarae arall yn agor o ddydd Llun (3 Awst) Dyma nhw:

Parc Britannia(Butetown);Heol y Barcud(Llanisien);Hammond Way(Pen-y-lan);Garth Newydd(Pentyrch);Clos Horwood(Sblot);Ironbridge Road(yr Eglwys Newydd a Thongwynlais).

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth iechyd a diogelwch mae pob safle wedi mynd drwy asesiad risg Covid-19 ac mae arwynebau'r offer a'r arwynebau diogelwch wedi cael eu harchwilio gan arolygydd maes chwarae, cyn eu hail-agor.

Y 50 man chwarae sydd eisoes ar agor yw:

Gofod agored Adamscroft(Adamsdown);Sgwâr Adamsdown(Adamsdown);  Belmont Walk(Butetown); Craiglee Drive(Butetown); Sgwâr Hodges(Butetown); Sgwâr Loudon(Butetown); Windsor Esplanade(Butetown);Clos Emblem(Caerau);Heol Homfrey(Careau); Parc Trelái(Caerau);Parc JiwbiliTreganna; Sanatorium Road i Blant Bach(Treganna); Llwybr chwarae Parc Bute(Cathays);Gerddi Cogan (Cathays); Parc Maendy(Cathays);Green Farm Road (Trelái); Beechley Road(y Tyllgoed); Clos Chorley(y Tyllgoed); Cilgant Hendy-gwyn(y Tyllgoed);Maitland Park(Gabalfa);Maitland Road - ardal ystwythder (Gabalfa); Parc Sevenoaks (Grangetown(; Y Marl i Blant Bach (Grangetown); Y Marl i Blant Iau (Grangetown); Heol y Delyn(Llys-faen);Mill Heath Drive(Llys-faen); Cilgant Sant Martin i Blant Bach (Llanisien); Cilgant Sant Martin i Blant Iau (Llanisien); Sgwâr Watkin(Llanisien);Coed y Gores(Pentwyn); Chapelwood(Pentwyn); Parc Coed y Nant(Pentwyn);Waun Fach(Pentwyn);Garth Olwg(Pentyrch); Ffordd Penuel(Pentyrch);Gerddi Cyncoed(Penylan);  Sovereign Chase(Penylan);Gerddi Shelley (Plasnewydd); Parc Butterfield(Pontprennau/Llaneirwg); Cwm Farm i Blant Iau(Radyr);Cwm Farm i Blant Bach(Radyr);Fisherhill Way(Radur/Pentre-poeth); Wyndham Street(Glan-yr-afon); Sgwâr Beaufort (Sblot); Parc Sblot(Sblot);Parc Tremorfa(Sblot);Clos Wilkinson (Sblot); Heol Maes Eirwg(Trowbridge);Parc Treftadaeth(Trowbridge);Hollybush(yr Eglwys Newydd a Thongwynlais)

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24477.html

 

Mwy o Hybiau cymunedol yn ailagor

Bydd Llyfrgell Rhiwbeina a Hyb Y Tyllgoed yn agor heddiw ar sail apwyntiad yn uni.

Gellir casglu bagiau gwastraff bwyd ac ailgylchu heb drefnu apwyntiad.

Manylion yma:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/hybiau-a-swyddfeydd-tai/Pages/Hybiau.aspx

️ 029 2087 1071

📧hybcynghori@caerdydd.gov.uk

@cdflibraries

 

Dim sgrybs? Neuadd Llanofer yn achub y dydd

Mae gweithwyr a gwirfoddolwyr wedi bod yn gwnïo gyda'r gorau mewn project cymunedol i greu dillad gwaith ar gyfer gweithwyr iechyd yn ystod argyfwng y Coronafeirws. Mae'r staff a'u cynorthwywyr o'r ganolfan dysgu cymunedol a'r celfyddydau wedi rhoi eu hamser, eu sgiliau a'u harbenigedd ar gyfer y project.

Ymunodd aelodau o'r cyhoedd â thiwtoriaid, dysgwyr a staff Canolfan Gelfyddydau Neuadd Llanofer yn Nhreganna i ffurfio tîm o 45 o bobl i wneud sgrybs ar gyfer nyrsys, meddygon a staff eraill y GIG.

Daeth y fenter at ei gilydd ar ôl i Bennaeth Technoleg Ysgol Plasmawr, Nia Clements, gysylltu â Llywodraeth Cymru i gynnig cymorth i'r ymdrech yn erbyn COVID-19 ac apeliodd am wirfoddolwyr i gefnogi'r project ar Facebook. Ymatebodd Rheolwr Canolfan Neuadd Llanofer, John Hobson, a'r cynorthwy-ydd gweinyddol, Gaynor Robinson, gan gynnig y ganolfan fel un o'r hybiau i wneud y gwisgoedd.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae'r tîm wedi bod yn brysur yn defnyddio eu sgiliau gwnïo i gynhyrchu 591 o diwnigau gyda defnydd a ddarparwyd gan Alexandra Workwear ac a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru. Gan ddefnyddio arian gan Ymddiriedolaeth Elusennol Neuadd Llanofer, a rhoddion gan ddwy gefnogwraig hael, Helen Lloyd Jones a Margaret le Grice, prynodd y ganolfan dri pheiriant gwnïo gorgloi newydd, a byrddau a haearnau smwddio.

Bu'r tiwtor gwnïo o raglen Dysgu am Oes y Cyngor, Ceri Ring, yn cefnogi'r gwirfoddolwyr drwy roi manylion technegol a chyfarwyddiadau wrth eu gweithfannau yn Neuadd Llanofer tra bod gwirfoddolwyr eraill yn cynhyrchu'r tiwnigau o gartref.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24459.html