The essential journalist news source
Back
31.
July
2020.
Parc y Mynydd Bychan ymysg y 20 ardal chwarae ychwanegol i ailagor yng Nghaerdydd

31/07/20

Bydd 20 yn fwy o ardaloedd chwarae plant yng Nghaerdydd yn ailagor, gan gynnwys Parc y Mynydd Bychan. Mae 50 safle eisoes wedi eu hagor ledled y ddinas. 

Mae'r ardaloedd chwarae yn cael eu hailagor yn raddol, gan ddilyn ymagwedd diogelwch yn gyntaf a gyda'r nod o sicrhau bod plant ledled y ddinas yn gallu cael rhyw fath o ddarpariaeth chwarae yn eu hardal leol cyn gynted â phosibl.

Bydd 14 ardal chwarae yn ailagor o ddydd Sadwrn (1 Awst). Dyma nhw:

Parc Hamadryad(Butetown);Clos Emerson(Caerau);Rhydlafar(Creigiau a Sain Ffagan);Wilson Road i Blant bach(Trelái);Wilson Road i Blant Iau(Trelái);Parc y Mynydd Bychan(y Mynydd Bychan);Parc Hailey i Blant Bach(Ystum Taf);Parc Hailey i Blant Bach(Ystum Taf);Bryn Glas i Blant Iau(Llanisien);Bryn Glas i Blant Bach(Llanisien);Maes Hamdden Tredelerch(Llanrhymni);Gerddi Despenser i Blant Iau(Glan-yr-afon);Gerddi Despenser i Blant Bach(Glan-yr-afon);Ffordd Greenway(Tredelerch).

Bydd 6 ardal chwarae arall yn agor o ddydd Llun (3 Awst) Dyma nhw:

Parc Britannia(Butetown);Heol y Barcud(Llanisien);Hammond Way(Pen-y-lan);Garth Newydd(Pentyrch);Clos Horwood(Sblot);Ironbridge Road(yr Eglwys Newydd a Thongwynlais).

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth iechyd a diogelwch mae pob safle wedi mynd drwy asesiad risg Covid-19 ac mae arwynebau'r offer a'r arwynebau diogelwch wedi cael eu harchwilio gan arolygydd maes chwarae, cyn eu hail-agor.

Mae newidiadau wedi eu gwneud i helpu pobl i gadw pellter cymdeithasol a lleihau'r risg o drosglwyddo Covid-19 - er enghraifft, mae seddau rhai siglenni wedi eu tynnu i sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gadw.

I helpu i sicrhau diogelwch, mae arwyddion newydd wedi eu gosod ar y safleoedd hefyd, yn gofyn i deuluoedd sy'n eu defnyddio:

  • olchi neu ddiheintio eu dwylo, cyn, ar ôl ac wrth ddefnyddio'r cyfarpar;
  • cadw pellter o 2 fetr oddi wrth eraill nad ydynt yn rhan o'u cartref;
  • cyfyngu eu hymweliad i 30 munud yn ystod adegau prysur;
  • cael uchafswm o un oedolyn fesul plentyn yn yr ardal chwarae.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Gwyddom fod teuluoedd yn awyddus i ddefnyddio'r cyfleusterau hyn unwaith eto, ond er ein bod yn edrych ymlaen at weld plant yn mwynhau ein hardaloedd chwarae eto, mae'n bwysig iawn eu bod yn gallu gwneud hynny'n ddiogel.

"Mae ein tîm bach o arolygwyr meysydd chwarae cymwys yn gweithio'n galed i asesu risg, archwilio, atgyweirio a newid offer yn yr 116 o gyfleusterau sydd gennym cyn gynted â phosibl, cyn iddynt ailagor.

"Tan hynny, ac rwy'n deall pa mor anodd y gall fod, mae'n bwysig am resymau diogelwch nad yw rhieni yn caniatáu i blant ddefnyddio unrhyw fannau chwarae sydd heb eu hagor yn swyddogol.

"Mae angen i deuluoedd sy'n ymweld ag ardaloedd chwarae hefyd gymryd cyfrifoldeb am gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel, cadw pellter cymdeithasol a sicrhau bod y dwylo'n cael eu golchi cyn ac ar ôl eu hymweliad."

Y 50 man chwarae sydd eisoes ar agor yw:

Gofod agored Adamscroft(Adamsdown);Sgwâr Adamsdown(Adamsdown);  Belmont Walk(Butetown); Craiglee Drive(Butetown); Sgwâr Hodges(Butetown); Sgwâr Loudon(Butetown); Windsor Esplanade(Butetown);Clos Emblem(Caerau);Heol Homfrey(Careau); Parc Trelái(Caerau);Parc JiwbiliTreganna; Sanatorium Road i Blant Bach(Treganna); Llwybr chwarae Parc Bute(Cathays);Gerddi Cogan (Cathays); Parc Maendy(Cathays);Green Farm Road (Trelái); Beechley Road(y Tyllgoed); Clos Chorley(y Tyllgoed); Cilgant Hendy-gwyn(y Tyllgoed);Maitland Park(Gabalfa);Maitland Road - ardal ystwythder (Gabalfa); Parc Sevenoaks (Grangetown(; Y Marl i Blant Bach (Grangetown); Y Marl i Blant Iau (Grangetown); Heol y Delyn(Llys-faen);Mill Heath Drive(Llys-faen); Cilgant Sant Martin i Blant Bach (Llanisien); Cilgant Sant Martin i Blant Iau (Llanisien); Sgwâr Watkin(Llanisien);Coed y Gores(Pentwyn); Chapelwood(Pentwyn); Parc Coed y Nant(Pentwyn);Waun Fach(Pentwyn);Garth Olwg(Pentyrch); Ffordd Penuel(Pentyrch);Gerddi Cyncoed(Penylan);  Sovereign Chase(Penylan);Gerddi Shelley (Plasnewydd); Parc Butterfield(Pontprennau/Llaneirwg); Cwm Farm i Blant Iau(Radyr);Cwm Farm i Blant Bach(Radyr);Fisherhill Way(Radur/Pentre-poeth); Wyndham Street(Glan-yr-afon); Sgwâr Beaufort (Sblot); Parc Sblot(Sblot);Parc Tremorfa(Sblot);Clos Wilkinson (Sblot); Heol Maes Eirwg(Trowbridge);Parc Treftadaeth(Trowbridge);Hollybush(yr Eglwys Newydd a Thongwynlais)

Caiff mwy o safleoedd eu hailagor Ddydd Llun 10 Awst. Dilynwch ni ar Twitter @cyngorcaerdydd neu ar Facebook @cardiff.council i gael diweddariadau.