Bydd yr ardal fwyta awyr
agored â 240 o seddi dan orchudd yn croesawu ciniawyr i fwynhau bwyd o
ddetholiad eang o fwytai'r ddinas o flaen un o olygfeydd mwyaf deniadol
Caerdydd - ei chastell hardd.
Mae Caffi Cwr y Castell - a
grëwyd yn uniongyrchol o flaen Castell Caerdydd - yn rhan o ystod ehangach o
fesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i gynyddu mannau awyr agored y gellir eu
defnyddio gan y sector lletygarwch sy'n ceisio adfer o effeithiau'r pandemig.
Bydd yr ardal lletygarwch
newydd yn galluogi busnesau - a allai gael trafferth i weithredu'n broffidiol
dan do oherwydd y rheoliadau cadw pellter dau fetr yng Nghymru - i fasnachu
mewn lleoliadau diogel awyr agored sy'n caniatáu i gadw pellter cymdeithasol.
Bydd ymwelwyr yn gallu archebu bwyd a diodydd i'w danfon o ddetholiad eang o
fwytai a chaffis gan ddefnyddio cod QR ar y safle neu drwy deipio y cyfeiriad
URL Cardiff-castle.yoello.com yn eu ffonau a dilyn y cyfarwyddiadau.
Bydd y man awyr agored newydd yn agor o
10am tan 10pm saith diwrnod yr wythnos gydag archebion olaf am 8.30pm.
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry,
Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Roedden ni am greu man deniadol y bydd
preswylwyr ac ymwelwyr yn hoffi ei ddefnyddio ac un a all helpu busnesau
lletygarwch lleol i ddechrau ar eu busnes. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl
fwynhau'r lle newydd a fydd yn cynnig golwg drawiadol i gwsmeriaid o'n castell
eiconig yng nghanol y ddinas. Rydym yn gobeithio y bydd yn chwarae rhan bwysig
yn helpu busnesau yng Nghaerdydd i oroesi canlyniadau'r pandemig."
Sut bydd yn gweithio:
Ar agor: 7 diwrnod yr wythnos
Amseroedd: 10am-10pm (archebion olaf
8:30pm)
Amser aros: hyd at ddwy awr
Nifer y lleoedd: 240 o seddi, archebu bwyd
o fwytai a chaffis ar draws canol y ddinas
Lleoliad: Stryd y Castell
1.
Nid
oes unrhyw archebion ymlaen llaw, felly pryd bynnag y byddwch chi'n barod,
bachwch eich ffrindiau neu'ch teulu a bant â chi i Stryd y Castell (uchafswm
nifer y seddi ar un bwrdd yw chwech). Mae 240 o seddi wedi'u trefnu o amgylch
byrddau ar gyfer pedwar neu chwech, ond os ydych am ddod i mewn ar eich pen
eich hun neu fel pâr, ewch i un o'r byrddau i bedwar.
2.
Byddwch
yn gweld dwy ardal fwyta ar wahân, ond maent yn gweithredu yn yr un
ffordd. Dewiswch pa un bynnag sy'n mynd â'ch bryd - rydych chi'n gallu
eistedd yno am hyd at ddwy awr felly man a man i chi fod yn gyffyrddus!
3.
Ar
adegau prysur, efallai y bydd angen i chi giwio ond pan ddaw eich tro, fe fydd
tywysydd yn eich cyfeirio chi a'ch criw at un o'r byrddau gwag. Mae'r
cyfleusterau'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio. Mae'r ardal
yn wastad a gellir symud cadeiriau o fyrddau i gynnwys cadeiriau olwyn a
chadeiriau gwthio (sylwer nad oes cadeiriau uchel ar gael).
4.
Cymerwch
sedd, a gallwch fod yn dawel eich meddwl bod y caffi wedi'i ddylunio i fod yn
ddiogel ac i alluogi cadw pellter cymdeithasol. Bydd yr ymbarelau patio mawr yn
eich diogelu rhag yr elfennau - boed yn heulwen neu'n law. Am resymau
amgylcheddol a chyflenwi ynni, nid oes unrhyw wresogyddion ar y safle. Os yw
hi'n ddiwrnod oerach, beth am ddod â siôl neu flanced i ymlacio? Ni allwn
gynnig rhai oherwydd risg o halogiad.
5.
Bydd
diheintydd dwylo yn cael ei ddarparu hefyd a bydd staff glanhau wedi'u lleoli'n
barhaol ar y safle i gadw'r ardal yn lân ac yn glir o ddeunydd pacio, platiau
wedi'u defnyddio ac ati, er y gofynnir i gwsmeriaid fynd â'u gwastraff i'r man
ailgylchu ar y ffordd allan.
6.
Hefyd
mae toiledau i gwsmeriaid ym maes parcio Tŵr y Cloc ac maent yn cynnwys toiled
i'r anabl a chyfleusterau newid cewynnau.
7.
Rydym
yn gwybod bod disgwyl i chi aros dau fetr i ffwrdd oddi wrth ffrindiau ac aelodau'r
teulu y tu allan i'ch "swigen", felly mae cadeiriau ar wahân wrth y
byrddau. Chi sy'n gyfrifol am gadw pellter cymdeithasol oddi wrth eich
ffrindiau y tu allan i'ch ‘swigen', yn unol â chyfansoddiad eich grŵp.
8.
I
gychwyn eich archeb, chwiliwch am arwydd y cod QR ar eich bwrdd. Agorwch gamera
eich ffôn a sganiwch y cod - neu deipiwch cardiff-castle.yoello.com i'ch
porwr gwe a gallwch archebu yn y ffordd hon.
9.
Bydd
Caffi Cwr y Castell yn rhan o'r system Tracio ac Olrhain. Bydd botwm Tracio ac
Olrhain yn ymddangos pan fyddwch yn defnyddio'r URL Cardiff-castle.yoello.com
neu wrth i chi sganio cod QR y bwrdd i gael mynediad at Yoello. Bydd angen i
gwsmeriaid glicio ar hwnnw a llenwi ffurflen fer cyn gwneud eu harcheb gyntaf.
Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl i ni gysylltu â chi a'ch grŵp ynglŷn ag unrhyw
ganlyniadau positif COVID-19 a allai effeithio arnoch.
10. A dyma ble mae'r hwyl yn dechrau o
ddifri! Gyda chynifer o hoff fannau bwyta'r ddinas yn rhan o'r cynllun, bydd y
dewis bron yn ddi-ben-draw - felly beth bynnag sy'n tynnu dŵr o'ch dannedd,
bydd rhywbeth yn siŵr o blesio o'r lleoliadau a'r bwydlenni gwahanol ar eich
sgrin.
11. Ar ôl i chi ddewis pa fwydlen yr
hoffech archebu ohoni, nodwch yr amser aros, a thalwch gyda cherdyn
credyd/debyd pan fyddwch yn barod. Cofiwch: os bydd aelodau o'ch parti yn
archebu o wahanol fusnesau, bydd yr archebion yn cael eu prosesu ar wahân a
gallant gyrraedd ar adegau gwahanol.
12. Eisteddwch ac ymlaciwch tan i'ch
bwyd a'ch diodydd gyrraedd eich bwrdd. Bydd popeth sydd ei angen arnoch yn
cyrraedd gyda'ch archeb. Bydd modd compostio'r holl flychau, y cynwysyddion
diodydd a'r cyllyll a'r ffyrc, felly gallen nhw fod yn bren neu wedi'u gwneud o
startsh.
13. Nid oes lleiafswm gwariant oni bai
eich bod am archebu alcohol. Os hoffech gael alcohol bydd angen i chi wario £10
o leiaf ar fwyd. Felly, os oes gennych awydd coffi, bachwch sedd ac ewch
amdani, ond cofiwch, mae'r ardal wedi ei chynllunio i geisio helpu busnesau i
wneud digon o arian i oroesi canlyniadau COVID-19 - felly gwariwch ychydig yn
fwy os gallwch chi fforddio a theimlo'n dda am helpu eich hoff bwyty drwy'r
pandemig.
14. Wedi i chi orffen gloddesta, neu ar
ôl i'ch dwy awr ddod i ben, casglwch eich sbwriel a'i roi yn y biniau ailgylchu
ar eich ffordd allan.
Cynghorion Craff!
1.
Gan
fod gennych slot o ddwy awr, argymhellir eich bod yn archebu'r bwyd a'r diodydd
i gyd ar y dechrau, rhag ofn na fydd digon o amser gennych yn ddiweddarach - ac
os byddwch am archebu diodydd alcoholig, bydd angen i'ch parti archebu gwerth o
leiaf £10 o fwyd a bydd polisi ‘Herio 25' ar waith.
2.
Bydd
amser aros am archebion yn cael ei arddangos gan yr app ac efallai y bydd gan
rai amseroedd aros hirach nag eraill, felly os ydych ar frys, ceisiwch ddewis
bwyty a all weini o fewn yr amser sy'n addas i chi.
3.
Gall
archebu prydau o wahanol fwydlenni fod yn wych os oes gan eich parti chwaeth
wahanol, ond os byddwch yn archebu ac yn talu ar wahân, byddant yn cyrraedd ar
wahanol adegau. Felly beth am archebu o'r un lle, a thalu mewn un taliad? Wedyn
gall pawb fwyta ar yr un pryd.
4.
Gobeithio
y cewch ymweliad gwych, ond os bydd unrhyw broblemau gyda'ch bwyd, dylech
gyfeirio cwynion yn ôl i'r bwyty yr archeboch chi ganddo. Darperir
manylion cyswllt y bwyty drwy app Yoello, felly os ydych yn dymuno trafod
unrhyw beth neu wneud cwyn dylid eu cyfeirio at y bwyty dan sylw.
Dyma'r bwytai a'r caffis sydd wedi
cofrestru ar gyfer yr app Yoello ar hyn o bryd, ond mae mwy yn cael eu
hychwanegu drwy'r amser
Wallys
Dusty Knuckle
Bwyta Bwyd Bombai (3B's Café)
Marco Pierre White
Fab Burgers
Grazing Shed
Zero degrees
Wok to Walk
Park Plaza Hotel
Ynglŷn â Yoello
Wedi'i sefydlu yn 2017 - ac
wedi'i gyhoeddi yn y rownd derfynol yn ddiweddar ar gyfer Gwobrau Cychwyn
Busnes Cymru - mae Yoello yn blatfform talu symudol awdurdodedig gan yr
Awdurdod Ymddygiad Ariannol sy'n defnyddio bancio agored i dorri allan y
rhyngfasnachwyr a chysylltu masnachwyr a banciau cwsmeriaid â'i gilydd yn
uniongyrchol. Gan ganolbwyntio ar hyn o bryd ar y sector lletygarwch, mae
Yoello yn cynnig ffordd syml, fforddiadwy a diogel i helpu unrhyw leoliad i
reoli archebion a thaliadau symudol.
Mae Yoello yn dileu'r angen yn
gyfan gwbl am gysylltiad â staff, bwydlenni corfforol, neu giwio - yn hanfodol
ar gyfer glynu wrth reolau cadw pellter cymdeithasol. Nid oes angen i
gwsmeriaid lawrlwytho app hyd yn oed, maent yn sganio cod QR i gyrchu'r fwydlen,
yn clicio i archebu, yna'n gwneud eu taliad symudol diogel. Gallant hyd yn oed
ychwanegu awgrymiadau a gadael adolygiadau ar gyfer y busnes.
Gyda dwy ran
o dair o ddefnyddwyr yn dweud eu bod yn fodlon rhoi cynnig ar ddulliau
digyswllt newydd[[1]], a
gyda 60% yn ffafrio osgoi cyffwrdd â phad darllen cerdyn wrth brynu[[2]]-
ni allai technoleg brofedig Yoello ddod ar adeg pan fo'i hangen fwy i'r sector
lletygarwch na hon. Mae Yoello hefyd yn darparu platfform 'profi ac olrhain' am
ddim sydd hefyd yn gallu helpu gweithredwyr mewn ffordd sy'n cydymffurfio â
rheoliadau data.
Mae'r cwmni o Gaerdydd wedi
bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol ac Ardaloedd Gwella Busnes ers
dechrau'r cyfnod cloi i helpu busnesau i ailagor ac arbed miloedd o bunnoedd yn
y broses.
I gael gwybod
mwy am Yoello a sut y gall helpu tafarndai a bwytai i ailagor yn ddiogel, ewch
iwww.yoello.com