The essential journalist news source
Back
29.
July
2020.
Beicffyrdd newydd dros dro ar y gweill yn rhan o gynllun adfer y ddinas

 

Mae Caerdydd - a bleidleisiwyd y ddinas orau yn y DU i feicio ynddi yn ddiweddar - yn gosod beicffyrdd newydd dros dro.

Bwriedir gosod y beicffyrdd newydd erbyn yr hydref i gynnig llwybrau diogelach, wedi eu gwahanu, i alluogi pobl i deithio ar feic ar rai o ffydd prysuraf Caerdydd.

Mae'r ddau lwybr - y feicffordd ‘Traws-ddinas' a'r feicffordd ‘Cylch y Bae' - yn cael eu datblygu'n gynt yn rhan o gynlluniau adfer COVID y Cyngor ac maent yn cydweddu â'r weledigaeth beicio a nodwyd ym Mhapur Gwyn Trafnidiaeth y Cyngor.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae traffig ar ein ffyrdd wedi lleihau'n ddramatig nawr bod nifer o fusnesau a sefydliadau yn dewis gadael i'w staff barhau i weithio gartref.

"Mae'r lefelau traffig presennol ar 66% o'r rhai cyn y cyfnod cloi, gyda'r llif traffig yng nghanol y ddinas yn is o hyd ar 50%. Tra bod y lefelau traffig wedi gostwng, mae'r defnydd o'r cynllun ‘nextbike' wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y cyfnod cloi, gyda dros 14,000 o gwsmeriaid newydd, a oedd yn cynnwys 114,383 o sesiynau llogi rhwng mis Mawrth a mis Mehefin, sy'n drawiadol.

"Gyda darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn rhedeg ar lai o gapasiti, mae llawer o bobl bellach yn dewis cerdded a beicio yng Nghaerdydd. Mae hyn yn newyddion gwych, yn wych i iechyd pobl ac yn wych i'r amgylchedd. Rydym eisiau sicrhau y gall unrhyw un sy'n gallu beicio wneud hynny mewn modd mwy diogel ac atyniadol.

"Rydyn ni'n gwybod bod yna rai pobl sy'n newydd i feicio, gan gynnwys pobl ifanc iawn, ac mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y bobl hyn mor ddiogel â phosibl."

Yn rhedeg o'r gorllewin i'r dwyrain, caiff y llwybr ‘Traws-ddinas' ei osod ar hyd Heol Lecwydd a Wellington Street, gan ymuno â'r feicffordd bresennol ar Stryd y Castell. Bydd y llwybr yn parhau ar hyd Boulevard de Nantes, i Blas Dumfries, ar hyd Heol Casnewydd i'r gyffordd â Broadway.

Bydd yr ail feicffordd dros dro, ‘Cylch y Bae', yn cael ei gosod o'r Gylchfan Hud, i lawr dwyrain Stryd Tyndall, ar Stryd Tyndall, gan ymuno â'r feicffordd newydd sy'n rhedeg i lawr ac yn ôl i fyny Rhodfa Lloyd George, gan ymuno â Sgwâr Callaghan a gorffen ar Heol Penarth.

Bydd y llwybrau newydd hyn hefyd yn cysylltu safleoedd parcio a phedlo sy'n cael eu sefydlu yn Stadiwm Dinas Caerdydd a Bae Caerdydd, gan alluogi pobl sy'n teithio o ymhellach i ffwrdd i ddewis parcio eu car a cherdded neu feicio gweddill eu taith.

Bydd y cynlluniau'n defnyddio cyrbau ‘bolltio' lled-barhaol gyda bolardiau plastig bach sydd wedi'u gosod ar y ffordd. Os ydynt yn llwyddiannus, gellir eu cadw neu roi atebion mwy parhaol yn eu lle. Gellir eu newid os oes angen.

Mae'r ddau gynllun hyn ar dendr ar hyn o bryd ac ar ôl ymgysylltu â'r cyhoedd fe'u gosodir ym mis Medi.