The essential journalist news source
Back
23.
July
2020.
Cerflun o'r masnachwr caethweision Thomas Picton i'w dynnu a’i symud
Mae cerflun o'r masnachwr caethion ac arwr rhyfel Waterloo, Syr Thomas Picton, i'w dynnu a’i symud o Neuadd Farmor yr Arwyr yn Neuadd y Ddinas Caerdydd.

Cafodd y penderfyniad ei wneud yn dilyn dadl a phleidlais a gynhaliwyd yng Nghyngor Llawn Caerdydd.

Galwodd Arglwydd Faer Du cyntaf Caerdydd, y Cynghorydd Dan De'ath, am i'r cerflun gael ei dynnu oherwydd cysylltiadau Picton â chaethwasiaeth a'i arteithio a ddogfennwyd o ferch yn ei harddegau a orfodwyd yn gaethwas yn India’r Gorllewin.

Cefnogwyd yr alwad i dynnu'r cerflun gan Arweinydd y Cyngor, y Cyng Huw Thomas, a ddwedodd: “Bu galwadau cyhoeddus amlwg iawn yn sgil y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys i ailasesu sut y caiff unigolion o hanes gwledydd Prydain a fu’n gysylltiedig â chaethwasiaeth eu coffau.   Yng Nghaerdydd yn benodol, mae’r ddadl wedi canolbwyntio ar gerflun Syr Thomas Picton yn Neuadd y Ddinas. 

"Rwy'n falch iawn bod ein Cyngor wedi penderfynu tynnu'r cerflun hwn ac rwyf hefyd wrth fy modd bod y penderfyniad hwn wedi'i wneud yn dilyn dadl gyhoeddus a phleidlais ddemocrataidd.

“Fodd bynnag, er bod camau fel y rhain yn bwysig, ni allant ein gwyro rhag y dasg galetach o geisio mynd i’r afael â’r heriau sy’n dal i gael eu profi gan gymunedau Pobl Dduon heddiw.

“Er bod gan Gaerdydd hanes amlddiwylliannol y gellir bod yn falch ohono, a thraddodiad o ddathlu amrywiaeth, ni all hyn esgusodi unrhyw hunanfodlonrwydd neu ddiffyg gweithredu, ac mae’n rhaid i ni gydnabod bod pobl groenliw yn y ddinas yn gorfod delio â hiliaeth bob dydd. Mae’n bwysig felly, yn fy marn i, ein bod ni hefyd yn meddwl am sut y gallwn fynd i’r afael â’r problemau sy’n wynebu cymunedau Pobl Dduon yn y ddinas. Dyna pam fy mod yn creu tasglu i weithio gyda chymunedau Du a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghaerdydd i gael gwybod beth arall y gall y Cyngor ei wneud i’w cefnogi. Rwy’n awyddus i sicrhau nad yw hyn yn dod yn siop siarad lle y caiff yr un trafodaethau rydym wedi’u clywed ers degawdau eu hailadrodd.  Yn hytrach, rydw i eisiau clywed gan leisiau newydd, a chanolbwyntio ar faterion tactegol y gall y Cyngor weithredu’n gyflym arnynt, ac annog newid mewn pobl eraill, gan ymateb i anghenion go iawn ein cymunedau.”

Bydd y cerflun o Picton nawr yn cael ei osod y tu fewn i flwch yn y Neuadd Farmor tra bod cais yn cael ei gyflwyno i wneud addasiadau i’r adeilad rhestredig Gradd1. Bydd y cais yn cael ei wneud i Lywodraeth Cymru a fydd yn derbyn cyngor gan CADW, ei wasanaeth amgylchedd hanesyddol.  Gallai'r broses hon gymryd mwy nag 20 wythnos.