The essential journalist news source
Back
22.
July
2020.
Awydd Caerdydd i anrhydeddu ‘Torwyr Codau' y ddinas

22/07/20

Nod gweithgor newydd a dynnwyd ynghyd gan arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, fydd dod o hyd i ffordd o anrhydeddu a hyrwyddo hanes arwyr chwaraeon anhygoel Caerdydd, a adawodd eu cartrefi ar drywydd llwyddiant fel chwaraewyr Rygbi'r Gynghrair yng ngogledd Lloegr.

Roedd nifer o chwaraewyr gorau erioed y cod gogleddol yn hanu o Gaerdydd, llawer ohonynt yn chwaraewyr croenddu yr oedd rhaid iddynt adael de Cymru i ddatblygu eu gyrfaoedd. Aethant yn eu blaen i chwalu rhwystrau a dod yn arwyr ac yn fodelau rôl i gannoedd o filoedd o bobl rhwng y 1920au a'r 1970au.

Yn dilyn y diddordeb enfawr a grëwyd gan raglen ddogfen deledu'r BBC "The Rugby Codebreakers", mae nifer o grwpiau wedi dod ymlaen i geisio adeiladu ar y momentwm a grewyd gan y straeon am chwaraewyr fel Billy Boston, Jim Sullivan, Roy Francis, Colin Dixon, Johnny Freeman a Clive Sullivan.

Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Mae'r Cyngor yn cael cyswllt rheolaidd i weld sut y gellir dathlu'r cyfraniadau eithriadol a wnaed gan gynifer o'n chwaraewyr amlycaf. Ond beth ddaeth yn amlwg o'r rhaglen ‘Codebreakers' oedd sut mae stori rygbi'r gynghrair wedi mynd yn ddisylw i raddau helaeth yma, a beth sy'n hynod ddiddorol yw'r cefndir cymdeithasol a hiliol y tu ôl i pam aeth cymaint o chwaraewyr i Ogledd Lloegr.

"Wrth i ni i gyd fynd ati i ystyried ymgyrch Mae Bywydau Duon o Bwys a meddwl am sut mae Hanes Pobl Dduon yng Nghymru yn cael ei adlewyrchu yn ein mannau cyhoeddus, mae stori'r ‘Codebreakers' yn amlwg yn un sy'n berthnasol heddiw. Roedd llawer o'r dynion anhygoel hyn yn Ddu, ac roedd llawer yn teimlo bod rhaid iddynt adael Caerdydd er mwyn cael cyfle mewn bywyd. Aethant ymlaen i fod yn sêr enfawr ac yn fodelau rôl gwych, ac eto nid oes cerflun neu blac yn eu tref enedigol i ddathlu hynny.

"Rydym eisiau gwneud yn iawn am hynny, ac rydym eisiau dod o hyd i ffordd o adrodd eu storïau wrth drigolion ac wrth ymwelwyr. Bu Caerdydd yn ddinas amlddiwylliannol erioed, ac mae angen dathlu'r amrywiaeth honno. Pan fyddwch yn edrych ar gyflawniadau'r dynion hyn, mae'n biti garw nad yw eu bywydau cael eu dathlu'n agored yn y ddinas.

Mae arweinydd y cyngor wedi gwahodd arweinwyr cymunedau o ardal Bae Caerdydd, cynrychiolwyr rygbi'r gynghrair yng Nghymru a nifer o arbenigwyr eraill i geisio dod o hyd i'r ffordd orau o ddefnyddio storïau anhygoel y ‘Codebreakers' i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol ac i helpu i chwalu rhwystrau.

Anrhydeddwyd un o enwogion Wigan, Billy Boston, un o'r llu o arwyr chwaraeon o Tiger Bay, gyda cherflun yn ei dref fabwysiedig yn 2016.   Yn ystod ymgyrch ‘Mae Bywydau Duon o Bwys' daeth yn bwynt ralïo i ymgyrchwyr gwrth-hiliol i ddangos eu cefnogaeth.

Mae Boston hefyd yn cael ei goffáu ar gerflun rygbi'r gynghrair yn Stadiwm Wembley, ynghyd ag un arall o enwogion Tiger Bay, Gus Risman. Enwir y brif ffordd i mewn i Hull ar ôl un arall o chwaraewyr chwedlonol Caerdydd, Clive Sullivan.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol rygbi'r gynghrair Cymru, Gareth Kear: "Mae cysylltiad Cymru â rygbi'r gynghrair yn anhygoel ac mae'r llu o chwaraewyr gwych o Gaerdydd sydd wedi cipio calonnau a meddyliau cefnogwyr y gamp ledled y byd yn rhywbeth rydym yn teimlo sydd heb gael clod haeddiannol."

"Hoffem weld y storïau y tu ôl i'r bobl enwog hyn, o bosibl ynghyd â rhai'r dynion a'r menywod o gampau eraill, yn amlycach yn gyhoeddus er mwyn dangos sut y gall chwaraeon helpu i chwalu rhwystrau mewn cymdeithas."

Bydd y grŵp yn ailymgynnull yn ddiweddarach eleni i ystyried ei ganfyddiadau cychwynnol.