The essential journalist news source
Back
22.
July
2020.
Cyfle i wirioni wrth i’r Sialens Ddarllen yr Haf ddychwelyd

 


22/7/20
Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ôl yn Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd y haf hwn gan roi pwyslais ar gael hwyl a sbri!

 

Dyma'i hunfed flwyddyn ar hugain o annog plant rhwng 4 a 11 oed i fwynhau darllen chwe llyfr yn ystod gwyliau'r haf. Y thema eleni yw'r Sgwad Wirion sy'n dathlu llyfrau doniol, hapus a siriol ac sy'n dilyn carfan anturiaethus o anifeiliaid sy'n dwlu ar gael chwerthin ac archwilio pob math o deitlau difyr!

 

Wedi'i chyflwyno gan The Reading Agency a'i ddarparu gan lyfrgelloedd a hybiau cyhoeddus ledled y wlad, mae poblogrwydd yr sialens yn tyfu yng Nghaerdydd flwyddyn ar ôl blwyddyn. Y llynedd bu mwy na 6,500 o blant yn cymryd rhan yn yr sialens, sy'n ceisio cymell pobl ifanc i gynnal eu sgiliau llythrennedd y tu allan i'r ysgol ac osgoi 'dirywiad' yr haf.

 

Bydd yr sialens eleni yn wahanol i'r blynyddoedd blaenorol wrth i hybiau a llyfrgelloedd ledled y ddinas barhau i agor y gwasanaeth yn raddol ar ôl mesurau'r cyfnod cloi.  Gall aelodau'r llyfrgell ifanc fenthyg llyfrau o hyd, gan ddefnyddio'r gwasanaeth llyfrgell clicio a chasglu sydd ar gael mewn nifer o hybiau a llyfrgelloedd neu drwy fanteisio ar y cyfoeth o adnoddau digidol, gan gynnwys e-lyfrau, e-lyfrau sain ac e-gomics sydd ar gael yn y catalog ar-lein.

 

Er na fydd y gwasanaeth yn gallu cynnal y cannoedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau Sialens Ddarllen yr Haf mewn hybiau a llyfrgelloedd sydd fel arfer yn cael eu cynnig bob blwyddyn, bydd llawer o weithgareddau hwyliog ar gael ar wefan y Cyngor yn www.caerdydd.gov.uk/darllenyrhaf ac ar wefan yr her ynhttps://cymru.summerreadingchallenge.org.uk/

 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae plant yng Nghaerdydd yn cael amser gwych yn cwblhau Sialens Ddarllen yr Haf bob blwyddyn ac nid ydym am i'r flwyddyn yma fod yn wahanol. Yn fwy nag erioed o'r blaen efallai, oherwydd amgylchiadau'r misoedd diwethaf pan gaewyd ysgolion ac mae plant wedi bod gartref ers amser maith, mae'n bwysig ein bod yn annog plant i ddarllen, nid yn unig i hybu eu sgiliau ond i gael yr effaith gadarnhaol y gall darllen ei chael ar eu hyder a'u hiechyd meddwl.

 

"Mae'n amlwg ein bod wedi gorfod addasu rhai agweddau ar yr her eleni ond mae ei hanfod yn parhau'r un fath - darllen a mwynhau chwe llyfr o'ch dewis dros yr haf a chasglu tystysgrif a medal ar ddiwedd yr her.

 

"Gall plant ddewis llyfrau sydd ganddyn nhw gartref, llyfr comic y maen nhw'n ei brynu yn yr archfarchnad neu efallai rhoi cynnig ar ein hadnoddau digidol am y tro cyntaf. Mae apps fel Borrowbox ac RB Digital am ddim i'w lawrlwytho ac mae ganddyn nhw filoedd o deitlau y gall plant eu mwynhau ar ddyfais sydd ganddyn nhw gartref.

 

"Unwaith eto, rydym am weld mwy a mwy o blant Caerdydd yn ymrwymo i'r her eleni sy'n addo digon o hwyl, chwerthin a chanolbwyntio ar hapusrwydd yr haf hwn."

 

Gall plant gofrestru am Sialens Ddarllen yr Haf yn uniongyrchol arhttps://cymru.summerreadingchallenge.org.uk/i gasglu llu o wobrau rhithwir a thystysgrif neu

drwy ffonio Llinell Lyfrgelloedd y Cyngor ar 029 2087 1071 neu drwy lenwi'r ffurflen ymahttps://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/cy_GB/card_cy/.Bydd plant sy'n cofrestru drwy hybiau a llyfrgelloedd Caerdydd yn derbyn cerdyn casglwr, medal a thystysgrif ar ddiwedd yr her.

 

 

Gellir archebu detholiad o lyfrau drwy'r gwasanaeth llyfrgell clicio a chasglu drwy ffonio 029 2087 1071 neu drwy fynd i https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/cy_GB/card_cy/

 

Gall plant nad ydynt eisoes yn aelodau o'r gwasanaeth llyfrgell gofrestru ar-lein ymahttps://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/cy_GB/card_cy/

 

 

I gael rhagor o wybodaeth am Sialens Ddarllen yr Haf, ewch iwww.caerdydd.gov.uk/darllenyrhafneuhttp://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Llyfrgelloedd-ac-archifau/gweithgareddau-wrth-ynysu/Pages/default.aspx