The essential journalist news source
Back
22.
July
2020.
Amgueddfa Caerdydd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Amgueddfa Da i Deuluoedd
Mae Amgueddfa Caerdydd wedi cyrraedd rhestr fer ‘Gwobr Da i Deuluoedd Plant Mewn Amgueddfeydd o Gartref' yn y categori 'gweithgaredd gwefan gorau' ar gyfer eu gweithgareddau 'Fy Amgueddfa'.

Er ei bod ar gau i'r cyhoedd ar hyn o bryd o dan Reoliadau Coronafeirws, mae'r amgueddfa wedi parhau â'i gwaith yn adrodd hanes Caerdydd drwy amrywiaeth o weithgareddau ar-lein ar gyfer pob oed, ac roedd y panel llunio rhestr fer yn benodol falch o waith yr Amgueddfa ar gyfer pobl ifanc "nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n dda mewn mannau eraill".  Bu i'r panel hefyd ganmol yr amgueddfa am ei "chyflwyniad clir" a'r ffordd yr oedd yr ystod o bynciau yn gysylltiedig â ffocws yr amgueddfa ar hanes cymdeithasol."

Datblygwyd y gweithgareddau y gellir eu lawrlwytho, sy'n berffaith ar gyfer gwersi ysgol gartref neu yn ystod gwyliau'r haf, ar y cyd ag athrawon ysgolion lleol ac fe'u cynlluniwyd i gefnogi sgiliau allweddol a chefnogi dysgu rhwng y cenedlaethau a chael hwyl.

Mae'r gweithgareddau yn archwilio themâu gwahanol yn hanes cymdeithasol Caerdydd - er enghraifft gweithgareddau ditectif hanes i helpu plant oed ysgol gynradd i archwilio stori'r ddinas yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a ffilmiau animeiddio a chyflwyniadau sy'n ceisio annog plant hŷn i archwilio'r gorffennol er mwyn deall pynciau cyfoes. Mae ‘Protest! Syniadau Gwerth Ymladd Drostynt' er enghraifft yn archwilio gweithredu yn y gorffennol, gan rymuso pobl ifanc i sefyll dros bynciau sy'n bwysig ganddyn nhw fel pobl ifanc heddiw.

Dywedodd Rheolwr yr Amgueddfa, Victoria Rogers: "Rydym yn falch iawn o fod wedi cyrraedd y rhestr fer - rydym yn gwybod bod teuluoedd wrth eu boddau ag Amgueddfa Caerdydd ond mae cael ein henwebu eleni, o ystyried yr amgylchiadau anarferol a gododd yr angen ailfeddwl yn radical ac yn gyflym am y ffordd yr ydym yn gwasanaethu ein cynulleidfa, yn dystiolaeth go iawn o waith y tîm yma yn yr Amgueddfa."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'r gwaith y mae'r tîm yn Amgueddfa Caerdydd wedi'i wneud i gynnig profiadau amgueddfa digidol dros y misoedd diwethaf wedi cael ymateb da iawn gan y cyhoedd. Rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith caled sy'n digwydd yno a byddaf yn croesi fy mysedd y bydd y beirniaid, pan gyhoeddir yr enillwyr yn ddiweddarach eleni, yn cydnabod yr hyn y maent wedi llwyddo i'w gyflawni mewn cyfnod byr ac amgylchiadau digynsail."

Dros yr haf, bydd gweithgarwch yr amgueddfeydd yn cael ei adolygu gan feirniaid o deuluoedd ar y cyd â phanel o arbenigwyr a chaiff enillydd ei ddewis cyn cyhoeddiad terfynol yn yr hydref.

I weld y gweithgareddau, ewch i:https://cardiffmuseum.com/cy/dysgu/fy-amgueddfa-i//