The essential journalist news source
Back
21.
July
2020.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 21 Gorffennaf

Dyma'r newyddion diweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cynnwys; datganiad Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd am effaith COVID-19; cyfle i fusnesau archebu ein cyrtiau gweithgaredd ymbellhau cymdeithasol newydd ar Gaeau'r Gored Ddu; bagiau gwastraff lliwgar yn dangos gwaith caled ein harwyr sbwriel; ac mae ein Sgyrsfot ‘BOBi' wedi bod yn brysur.

 

Datganiad Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd am effaith COVID-19

Canfu adroddiad Sound Diplomacy am sector cerddoriaeth Caerdydd a sbardunodd greu Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd fod cerddoriaeth fyw yn creu 70% o'r swyddi yn y sector cerddoriaeth yng Nghaerdydd ac yn creu 65% (£45.6 miliwn) o'r incwm.

Gyda lleoliadau cerddoriaeth ar gau ar hyn o bryd, gwyliau wedi'u canslo a Covid 19 yn effeithio ar stiwdios recordio, addysg cerddoriaeth a llawer o feysydd eraill o'r sector cerddoriaeth, mae Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn gweithio i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon a'r heriau sydd wedi codi i'r diwydiant. Bellach mae'r bwrdd yn galw am fwy o eglurder ar y canllawiau ar gyfer y sector, yn enwedig ynghylch digwyddiadau, casgliadau torfol a'r amserlinau disgwyliedig i gyngherddau a pherfformiadau ailddechrau.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd a Chadeirydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, "Yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, ni ellir cynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw dan do neu yn yr awyr agored ar hyn o bryd, ond mae aelodau'r Bwrdd Cerddoriaeth yn unfryd yn eu hawydd i helpu i ddod â cherddoriaeth fyw yn ôl i'r ddinas cyn gynted â phosibl, unwaith y bydd y rheolau wedi'u llacio. Mae llawer o resymau am hynny - yn amlwg mae yna werth diwylliannol enfawr i gael cerddoriaeth yn ein bywydau, ond mae cerddoriaeth fyw hefyd yn rhan hanfodol o economi ddiwylliannol a nos Caerdydd.

"Cyn Covid-19, ein bwriad oedd integreiddio cerddoriaeth i bob agwedd o'r ddinas - nawr, gyda swyddi ac incwm pobl a chwmnïau yn y diwydiant cerddoriaeth mewn perygl, rydym yn wynebu set newydd o heriau."

"Bydd gwaith y Bwrdd Cerddoriaeth i gyflawni ein dyheadau i fod yn ddinas cerddoriaeth a gweithredu'r argymhellion yn adroddiad Strategaeth Cerddoriaeth Sound Diplomacy yn parhau ac mae sgyrsiau cynhyrchiol yn cael eu cynnal am feysydd mor amrywiol â rheoliadau clera a chyfleoedd mapio ar gyfer addysg gerddoriaeth yng Nghaerdydd, ond y gwir yw, oherwydd yr heriau a wynebir gan y sector cerddoriaeth yn sgîl Covid-19, ni fydd cynnydd yn hawdd.

"Ein ffocws allweddol ar hyn o bryd yw dod o hyd i ffyrdd o gefnogi adferiad sector cerddoriaeth Caerdydd - sector sydd wedi cael ei fwrw'n galed iawn gan y pandemig a rheoliadau'r cyfnod cloi yr oedd rhaid eu rhoi ar waith i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

"Wrth i gyfyngiadau'r cyfnod cloi gael eu llacio, mae cynlluniau'r Cyngor ar gyfer Caerdydd Ddiogelach yn cynnwys creu 'parthau estynnol', lleoedd newydd yng nghanol y ddinas ar gyfer caffis a bwytai i estyn eu busnes iddynt - mae tir Castell Caerdydd hefyd wedi cael ei agor fel sgwâr cyhoeddus am ddim.

"Os gall pobl fwynhau cerddoriaeth fyw yn ddiogel yn y mannau hyn, mae'n rhoi rheswm arall iddynt dreulio amser yng nghanol y ddinas a chefnogi economi'r ddinas. Fodd bynnag, heb newidiadau neu eglurhad o'r rheolau cenedlaethol cyfredol ynglŷn â digwyddiadau cerddoriaeth fyw, nid oes modd symud ymlaen gyda'r cynlluniau hyn.

"Mae pob aelod o'r Bwrdd Cerddoriaeth, fel minnau, yn awyddus i gael cerddoriaeth fyw, boed hynny'n ganu ym mhen stryd neu gerddoriaeth mewn digwyddiadau mwy rheoledig, i chwarae'r rôl sylweddol y gallai ei wneud yng nghynllun ehangach y Cyngor i ddiogelu swyddi, creu cyffro yn y ddinas eto a chreu amgylchedd diogel a chroesawgar sy'n denu pobl yn ôl i ganol y ddinas.

"Mae'r bwrdd yn barod i weithio trwy'r cynlluniau hyn, fel y gallwn ni unwaith eto groesawu cerddoriaeth fyw yn ôl i Gaerdydd pan ddaw'r amser a bydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn ei ganiatáu, a byddem yn croesawu rhagor o eglurder ynghylch sut a phryd y gallai hynny ddigwydd."

 

Rydym nawr yn derbyn archebion ar gyfer ein safleoedd digwyddiadau newydd ar Gaeau'r Gored Ddu

O Tae-Kwon-Do i Zumba, rydym nawr yn derbyn archebion ar gyfer ein safleoedd digwyddiadau newydd ar Gaeau'r Gored Ddu. 

Bydd y cyrtiau dros dro yn cynnig man preifat ar gyfer grwpiau o 9 i 29 o ran maint.

Mae marciau ymbellhau cymdeithasol wedi'u paentio ar y llawr, darperir gorsafoedd glanweithio â llaw a bydd y lleoliad yn gweithredu system un ffordd.

Cynigir gostyngiadau i elusennau/grwpiau dielw.

Mae gostyngiadau hefyd ar gael ar gyfer archebion sy'n para am gyfnod hirach.

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu, ewch i:

https://bute-park.com/cy/cyrtiauawyragored​​

 

Bagiau gwastraff lliwgar yn dangos gwaith caled ein Harwyr Sbwriel

Os gwelwch fagiau Cyngor pinc neu fagiau coch Cadw Cymru'n Daclus mae'n golygu bod ein pencampwyr sbwriel gwych wedi bod allan yn casglu'r sbwriel a adawyd ar ôl.

Maent yn helpu i gadw Caerdydd yn daclus ac mae pob bag pinc neu goch yn dangos llawer o waith caled gan wirfoddolwr sydd wedi cymryd yr amser i wneud rhywbeth da.

Caiff bagiau pinc eu casglu cyn gynted â phosibl gan ein criwiau glanhau.

Diolch i'n holl wirfoddolwyr!

Os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â:

carwcheichcartref@caerdydd.gov.uk

 

Mae ‘BOBi', Sgyrsfot y Cyngor, wedi bod yn brysur

Mae Sgyrsfot ar-lein y Cyngor 'BOBi' wedi bod yn #GweithioIGaerdydd o fore gwyn tan nos yn sgwrsio gyda mwy na 11,000 o drigolion Caerdydd ers 6 Ebrill, gan ymateb i ymholiadau gyda gwybodaeth ddefnyddiol a helpu defnyddwyr y we i fanteisio ar wasanaethau'r Cyngor.

Dyluniwyd BOBi fel ffordd arloesol o gael gwybodaeth am wasanaethau'r Cyngor yn effeithlon. Mae BOBi ar gael i gwsmeriaid 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, heb fod angen codi'r ffôn.

Mae BOBi eisoes yn deall ystod eang o bynciau sy'n amrywio o ddyddiadau casglu gwastraff, tipio anghyfreithlon, ailgylchu, y Dreth Gyngor, ysgolion a llawer mwy. Mae'n well gan y bot ddatganiadau a chwestiynau byrrach.

Ers y lansiad meddal ym mis Mawrth, mae'r tîm o ' drinwyr dynol ' y tu ôl i'r project wedi bod yn gweithio'n galed i ddatblygu gwybodaeth BOBi trwy ddysgu gwybodaeth newydd ac ymateb i'r coronafeirws drwy sicrhau bod gan BOBi atebion i bynciau perthnasol fel gwirfoddoli a chymorth budd-daliadau.

Mae mwy na 70% o drigolion Caerdydd wedi dweud bod eu profiad o ddefnyddio BOBi yn ' dda ' neu ' dda iawn ' sy'n ddechrau gwych i'r project cyffrous hwn.

Diolch yn fawr iawn i bawb fu'n rhan o'r gwaith o greu BOBi.