The essential journalist news source
Back
17.
July
2020.
Y diweddaraf ar ailagor ardaloedd chwarae a champfeydd awyr agored

17/07/20

Caiff 30 o ardaloedd chwarae eu hailagor yng Nghaerdydd ddydd Llun (20 Gorffennaf) ar ôl i Lywodraeth Cymru dynnu'r cyfyngiadau ar eu defnydd yn ôl.

Bydd pob un o'r naw campfa awyr agored hefyd yn ailagor ddydd Llun.

Bydd yr ardaloedd chwarae yn cael eu hailagor yn raddol, yn dilyn dull diogelwch yn gyntaf a chyda'r nod o sicrhau bod plant ledled y ddinas yn gallu cael rhyw fath o ddarpariaeth chwarae yn eu hardal leol cyn gynted â phosibl.

Cyn ailagor, mae cyfarpar ac arwynebau diogelu wedi eu gwirio, ac mae newidiadau wedi eu gwneud i helpu i gadw pellter cymdeithasol a lleihau'r risg o drosglwyddo COVID-19 - er enghraifft, efallai bod seddau rhai siglenni wedi eu tynnu i sicrhau bod pellter o 2 fetr wedi'i gadw.

I helpu i sicrhau diogelwch, caiff arwyddion newydd hefyd eu gosod ar y safleoedd yn gofyn i deuluoedd sy'n eu defnyddio:

  • olchi neu ddiheintio eu dwylo, cyn, ar ôl ac wrth ddefnyddio'r cyfarpar;
  • cadw pellter 2 fetr oddi wrth eraill nad ydynt yn rhan o'u cartref;
  • cyfyngu eu hymweliad i 30 munud yn ystod adegau prysur;
  • cael uchafswm o un oedolyn fesul plentyn yn yr ardal chwarae.

Caiff mwy o 116 o ardaloedd chwarae'r ddinas eu hailagor yn yr wythnosau i ddod, ar ôl i'r holl archwiliadau diogelwch angenrheidiol gael eu cwblhau.

Y 30 ardal chwarae a fydd yn agor o ddydd Llun yw:

Adamsdown Square(Adamsdown); Hodges Square(Butetown); Loudon Square(Butetown); Craiglee Drive(Butetown); Emblem Close(Caerau);Heol Homfrey(Careau); Parc Jwbilî(Treganna); Sanatorium Road - Plant Bach(Treganna); Gerddi Cogan(Cathays); Green Farm Road(Trelái); Beechley Road(y Tyllgoed); Chorley Close(y Tyllgoed); Maitland Road - ardal ymarferion ystwytho(Gabalfa); Sevenoaks Park(Grangetown); The Marl - Toddler(Grangetown); The Marl - Junior(Grangetown); Mill Heath Drive(LIys-faen); St Martin's Crescent - Plant Bach(Llanisien); St Martin's Crescent - Plant Iau(Llanisien); Coed y Gores(Pentwyn); Chapelwood(Pentwyn); Garth Olwg(Pentyrch); Gerddi Cyncoed(Penylan); Gerddi Shelley(Plasnewydd); Parc ButterfieldPontprennau / Llaneirwg); Fisherhill Way(Radur / Pentre Poeth); Wyndham Street(Glan yr Afon); Beaufort Square(Sblot); Wilkinson Close(Sblot); Heol Maes Eirwg(Trowbridge).

Ar gyfer diweddariadau ar fwy o ardaloedd chwarae yn ailagor, dilynwch ein cyfryngau cymdeithasol.