The essential journalist news source
Back
13.
July
2020.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 13 Gorffennaf

Yn y diweddariad ar a gafwyd heddiw gan Gyngor Caerdydd: canllawiau newydd i gefnogi dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi;derbyn ceir gydag ôl-gerbydau yn Bessemer Close o ddydd Llun 13 Gorffennaf; Castell Caerdydd enillydd gwobr hamdden a thwristiaeth; a preswylydd yn rhoi nodau llyfrau ‘Diolch' i Ffordd Lamby.

 

Canllawiau newydd i gefnogi dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau diwygiedig i gefnogi ysgolion, cyn i'r holl ddisgyblion ddychwelyd ym mis Medi.

Ddydd Iau diwethaf, roedd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, wedi cyhoeddi y gallai'r holl ddysgwyr ddychwelyd i'r ysgol yn yr hydref.

Bydd y canllawiau hyn yn helpu ysgolion, awdurdodau lleol a lleoliadau i weithredu'n llawn yn yr hydref - ac mae'r canllawiau hefyd yn cynnwys arweiniad newydd ar grwpiau cyswllt.

Bydd £29 miliwn ar gael gan Lywodraeth Cymru i ‘recriwtio, adfer a chodi safonau', mewn ymateb i'r pandemig.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg: "Mae'r canllawiau diwygiedig hyn yn adlewyrchu'r cyngor meddygol a gwyddonol diweddaraf. Ac mae'r cyngor yn cynnig llwybr canol rhwng canllawiau cenedlaethol strwythuredig a hyblygrwydd lleol.

"Eleni, rydyn ni wedi dysgu bod yn rhaid inni fod yn barod ar gyfer amrywiaeth o senarios. Mae'r canllawiau hyn yn nodi pa flaenoriaethau dysgu a ddylai barhau i fod yn gyson, ni waeth ble mae'r dysgu'n cael ei gynnal.

"Bydd hynny'n helpu ein hysgolion a'n lleoliadau addysg i sicrhau bod dysgwyr yn parhau i elwa ar gwricwlwm eang a chytbwys a'u bod yn parhau i wneud cynnydd wrth ddysgu.

"Hoffwn ddiolch i'n hawdurdodau lleol a'r undebau llafur am eu cyfraniad at y canllawiau hyn. Ac wrth gwrs, diolch o galon i staff ein hysgolion am eu hymroddiad, eu proffesiynoldeb a'u gwaith caled dros y misoedd diwethaf, sydd wedi sicrhau ein bod ni'n barod i bawb ddychwelyd ym mis Medi."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Bydd nifer o blant a rhieni ledled Cymru yn croesawu cyhoeddiad heddiw gan Llywodraeth Cymru y bydd yr holl blant yn dychwelyd i'r ystafell ddosbarth, yn llawn amser o fis Medi.

"Dros y misoedd diwethaf, mae llawer o waith wedi'i wneud gan ein hysgolion i gynnig dysgu o gartref, wedi'i hwyluso gan yr awdurdod lleol a'n partneriaid. Ond yn anochel felly, mae bod i ffwrdd o'r ystafell ddosbarth wedi golygu bod plant a phobl ifanc wedi bod ar eu colled. Mae dychwelyd i'r ysgol yn bwysig iawn ar gyfer eu haddysg, lles a datblygiad, ond, gwn fod rhai teuluoedd yn teimlo'n bryderus am y newyddion yma.

"Mae sicrhau bod y broses dychwelyd yn llawn yn cael ei rheoli'n ddiogel a iechyd a diogelwch disgyblion a staff yn flaenoriaeth. Bydd Cyngor Caerdydd yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ac yn gweithio'n agos ag ysgolion i oresgyn unrhyw heriau fel y gallant groesawu disgyblion yn ôl i amgylchedd dysgu diogel y tymor nesaf."

Canllawiau gweithredol ar gyfer ysgolion a lleoliadau o dymor yr hydref: Diogelu Addysg (COVID-19):

https://llyw.cymru/canllawiau-gweithredol-ar-gyfer-ysgolion-lleoliadau-o-dymor-yr-hydref-covid-19

Canllawiau ar ddysgu mewn ysgolion a lleoliadau o dymor yr hydref: Diogelu Addysg (COVID-19):

https://llyw.cymru/canllawiau-ar-ddysgu-mewn-ysgolion-lleoliadau-o-dymor-yr-hydref-covid-19

 

Derbyn ceir gydag ôl-gerbydau yn Bessemer Close o ddydd Llun 13 Gorffennaf

O heddiw ymlaen rydyn ni'n derbyn ceir gydag ôl-gerbydau yn ein Canolfan Ailgylchu yn Bessemer Close.

Gallwch weld pa gerbydau a gaiff fynediad i'r canolfannau yma:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/canolfannau-ailgylchu/ymweld-a-chanolfan-ailgylchu/Pages/default.aspx

Uchafswm maint yr ôl-gerbydau a dderbynnir yw 1.2m x 1.2m (4tr x4tr)

Bydd angen i geir ag ôl-gerbydau ddilyn y broses drefnu ar gyfer faniau a byddant yn cael 1 ymweliad bob mis.

Trefnwch le o leiaf 24 awr ymlaen llaw:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/canolfannau-ailgylchu/ymweld-a-chanolfan-ailgylchu/Pages/default.aspx

#CadwCymrunDdiogel - cadwch bellter cymdeithasol a golchwch eich dwylo'n rheolaidd

 

Castell Caerdydd - enillydd Gwobr Hamdden a Thwristiaeth Cardiff Life 2020

Ddydd Iau cawsom y newyddion cyffrous bod Castell Caerdydd wedi ennill y Wobr Hamdden a Thwristiaeth yng Ngwobrau Cardiff Life 2020! O ystyried y sefyllfa bresennol, roedd y Gwobrau yn wahanol iawn eleni gyda seremoni rithwir unigryw, am ddim, ar gyfer y ddinas gyfan!

Gwobrau Cardiff Live yw uchafbwynt busnes y ddinas. Dyma'r gwobrau uchaf eu bri yn y ddinas, ac mae'r gystadleuaeth drostyn nhw'n ffyrnig bob blwyddyn, gyda mwy o gwmnïau lleol yn rhan ohonyn nhw nag mewn unrhyw gynllun tebyg. Mae'n anrhydedd i ni fod y Castell wedi'i ddewis i gynrychioli'r categori hwn.

Un o fanteision ennill yw cael ein cynnwys yng nghylchgrawn Cardiff Life. Bydd y rhifynnau nesaf ar gael yma:

http://www.mediaclash.co.uk/magazines/local-magazines/cardiff-life/

Sylwadau gan Cardiff Life:

"Mae Castell Caerdydd wedi mwy nag ateb y galw eleni. Mae'n gwneud yn fawr o'r hyn sydd ganddo i'w gynnig, a hynny gyda dyfeisgarwch mawr, gan ddenu 300,000 o ymwelwyr bob blwyddyn a hyrwyddo diwylliant Caerdydd yn wych."

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy ddilyn:

www.castell-caerdydd.com

www.twitter.com/CastellCaerdydd

www.facebook.com/officialcardiffcastle

 

Preswylydd yn rhoi nodau llyfrau ‘Diolch' i Ffordd Lamby

Mae preswylydd caredig wedi dosbarthu nodau llyfrau a wnaed â llaw i'n cydweithwyr yn Ffordd Lamby i ddiolch iddynt am eu gwaith caled.

Rhoddodd Candy, o Bentwyn, y nodau llyfrau i'n timau gwastraff, gyda neges yn diolch i bobl ar yr adeg hon gan gynnwys y gweithwyr gwastraff.

Diolch am eich caredigrwydd.