The essential journalist news source
Back
10.
July
2020.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 10 Gorffennaf

Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd,sy'n cynnwys: tasglu i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac anghyfiawnder mae cymunedau BAME Caerdydd yn eu hwynebu; datgelu argraff arlunydd o Heol y Castell wedi'i hailwampio; ‘Dim Troi Nôl', gweledigaeth newydd ar gyfer gwasanaethau digartrefedd; diogelwch yn gyntaf wrth i'r gwaith ddechrau ar ailagor Ardaloedd Chwarae Plant Caerdydd; a cyflawni Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gyda chymorth Model Buddsoddi Cydfuddiannol.

 

Tasglu i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac anghyfiawnder mae cymunedau BAME Caerdydd yn eu hwynebu

Mae'n bosibl y caiff tasglu â'r nod o daclo anghydraddoldeb ac anghyfiawnder hiliol yng Nghaerdydd ei sefydlu yr haf hwn gan Gyngor Caerdydd.

Cynigiwyd y tasglu gan Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, mewn ymateb i farwolaeth ofnadwy George Floyd yn yr UDA ac mae'r ymgyrch gan y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn y DU yn galw am gydraddoldeb a chyfiawnder mwy i Gymunedau Pobl Dduon. 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Bu sawl galwad cyhoeddus iawn yn sgil y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys am ailasesiad o sut y caiff unigolion oedd yn hanes Prydain a fu'n gysylltiedig â chaethwasiaeth eu coffau. Yng Nghaerdydd yn benodol, mae'r ddadl wedi canolbwyntio ar gerflun Syr Thomas Picton yn Neuadd y Ddinas. 

"Rwyf wedi nodi'n gyhoeddus fy mod yn cefnogi'r alwad hon, ac rwyf wedi gofyn i'r Cyngor yn ei gyfanrwydd greu gorchymyn democrataidd i dynnu'r gofeb hanesyddol hon trwy drafodaeth a phenderfyniad gan y Cyngor Llawn cyn gynted â phosibl.

"Fodd bynnag, er bod gweithrediadau fel y rhain yn bwysig, ni allen nhw ein gwyro rhag y dasg galetach o geisio mynd i'r afael â'r heriau mae cymunedau Pobl Dduon yn dal i'w profi heddiw.

"Er bod gan Gaerdydd hanes amlddiwylliannol y gellir bod yn falch ohono, a thraddodiad o ddathlu amrywiaeth, ni allai hyn esgusodi hunanfoddhad neu ddiffyg gweithredu, ac mae'n rhaid i ni gydnabod bod pobl nad ydynt yn wyn yn y ddinas yn gorfod delio â hiliaeth bob dydd. Mae'n bwysig felly, yn fy marn i, ein bod ni hefyd yn meddwl am sut y gallwn ni fynd i'r afael â'r problemau mae cymunedau Pobl Dduon yn eu hwynebu yn y ddinas. Dyma fy rheswm dros ymrwymo i sefydlu tasglu i weithio gyda chymunedau BAME yng Nghaerdydd i gael gwybod am y gwaith ychwanegol y gall y Cyngor ei wneud i'w cefnogi. Rwy'n awyddus i sicrhau nad yw hyn yn dod yn siop siarad lle y caiff yr un trafodaethau rydym wedi'u clywed ers degawdau eu hailadrodd.  Yn hytrach, rydw i eisiau clywed gan leisiau newydd, a chanolbwyntio ar faterion tactegol y gall y Cyngor weithredu'n gyflym arnynt, ac ysgogi newid mewn pobl eraill, gan ymateb i anghenion go iawn ein cymunedau."

Mae Arweinydd y Cyngor wedi gwahodd cynghorydd lleol Butetown, Saeed Ebrahim, i gadeirio'r Tasglu Cydraddoldeb Hilio, a allai roi lle i 14 aelod yn ogystal â'r cadeirydd. Caiff proses benodi gyhoeddus ei chynnal i nodi ymgeiswyr ar gyfer y swyddi ar y tasglu.

Dywedodd y Cynghorydd Ebrahim: "Rydym am daclo'r gwahaniaethu a'r anfanteision mae'r gymuned BAME yng Nghaerdydd yn eu hwynebu yn ogystal â dod o hyd i atebion.  Bydd angen unigolion craff sydd â diddordeb mewn hawliau hiliol a dynol ar y tasglu. Mae angen pobl â'r gallu, y profiad, y cyfle a'r dylanwad arnom i wneud newidiadau go iawn yn eu sectorau, eu diwydiannau neu eu sefydliadau.

"Byddwn yn ymgynghori â'r gymuned BAME ym mis Awst i gael barn ar flaenoriaethau'r tasglu. Bydd hyn yn ein helpu i lunio agenda'r tasglu. Rwyf am i ni lunio adroddiadau rheolaidd i'r Cabinet ynghyd ag argymhellion i'w gweithredu i gael eu hystyried. Rwy'n awyddus i roi cychwyn arni. Rwy'n gwybod bod y Cabinet hwn am weld newid go iawn ac mae'r tasglu yn ffordd o sicrhau bod llais y gymuned BAME yn cael ei glywed pan gaiff polisïau newydd eu drafftio."

Mae'r Cyngor hefyd wedi nodi meysydd cychwynnol y mae'n cynnig y dylent gael eu hystyried gan y tasglu, gan gynnwys:

  • Cael gwybod am waith ychwanegol y gellir ei wneud i sicrhau bod aelodau a gweithlu'r Cyngor yn cynrychioli amrywiaeth lawn y ddinas y mae'n ei gwasanaethu;
  • Cefnogi cymunedau BAME i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth;
  • Gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar archwilio cerfluniau, enwau strydoedd ac adeiladau i fynd i'r afael â chysylltiadau Cymru a'r fasnach mewn caethweision.

Ddydd Iau 16 Gorffennaf, bydd y Cabinet yn derbyn adroddiad yn argymell sefydlu'r tasglu. Ar ôl cytuno ar hyn, bydd gwaith yn dechrau ar recriwtio aelodau ac ar ymgynghori â'r gymuned BAME ar flaenoriaethau'r tasglu.

Bydd y tasglu'n rhoi adroddiad blynyddol i'r Cyngor Llawn, yn unol â'r amserlen adrodd ar gyfer Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol statudol y Cyngor, yn ogystal ag adroddiadau i'r Cabinet drwy gydol y flwyddyn gydag argymhellion i'w gweithredu mewn meysydd â blaenoriaeth.

 

Datgelu argraff arlunydd o Heol y Castell wedi'i hailwampio

Mae Cyngor Caerdydd wedi rhyddhau argraff arlunydd yn dangos yr ardal fwyta awyr agored newydd dan orchudd a gynlluniwyd ar gyfer Heol y Castell yng Nghaerdydd.

Mae'r cynllun yn rhan o ystod ehangach o fesurau sy'n cael eu rhoi ar waith yng nghanol y ddinas i gynyddu'r gofod awyr agored y gellir ei ddefnyddio gan y sector lletygarwch sy'n ceisio adfer o effeithiau'r pandemig. Bydd yr ardal letygarwch newydd yn galluogi busnesau i fasnachu'n ddiogel mewn lleoliadau awyr agored gan gadw pellter cymdeithasol. Gall ymwelwyr archebu bwyd a diod i'w gyflenwi gan ddetholiad o fwytai a chaffis yng nghanol y ddinas drwy gyfrwng app.

Mae gwaith i osod tarmac ar Heol y Castell eisoes wedi'i gyflawni a'r gobaith yw y gallai'r ardal awyr agored newydd fod ar gael i'w defnyddio erbyn diwedd y mis.

Caiff y gofod awyr agored newydd ei greu yn uniongyrchol ar Heol y Castell ei hun gan gynnig golygfa drawiadol o'r castell eiconig i ymwelwyr â chanol y ddinas. Caiff rhagor o fanylion ar sut y gweithredir y gofod eu rhyddhau yn agosach at y dyddiad agor.

 

Dim Troi Nôl: Gweledigaeth newydd ar gyfer gwasanaethau digartrefedd

Mae gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau digartrefedd yn y dyfodol yng Nghaerdydd sy'n nodi trywydd newydd ar gyfer gwasanaethau llety a chymorth yn y ddinas wedi ei chyhoeddi.

Mae model newydd y Cyngor yn cydymffurfio i raddau helaeth â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru ar wasanaethau i'r digartref ac mae'n ceisio adeiladu ar y cynnydd sylweddol a wnaed eisoes yn cefnogi pobl oddi ar y strydoedd.  Nod y cynigion yma yw ceisio gwella gwasanaethau i ddiwallu anghenion cleientiaid yn well ac adeiladu ar yr ymateb cyflym i bandemig y Coronafeirws gydag ymagwedd 'Dim Troi Nôl' i gefnogi unigolion sy'n agored i niwed.

Mae elfennau allweddol y weledigaeth newydd yn cynnwys canolfan asesu 24 awr newydd, dod â gwasanaethau i'r ddigartref ac iechyd gyda'i gilydd ar y safle, a llety mwy arbenigol, er mwyn sicrhau bod gan unigolion ddarpariaeth â chymorth o ansawdd da er mwyn helpu i gael eu bywydau yn ôl ar y trywydd iawn.

Mae ymagwedd newydd tuag at ddarparu gwasanaethau ar gyfer teuluoedd digartref sy'n ddigartref hefyd wedi'i nodi mewn adroddiad i'w ystyried gan y Cabinet ddydd Iau, 16 Gorffennaf.

Bydd y Cabinet yn clywed am y cynnydd a wnaed gan wasanaethau yn ystod argyfwng COVID-19, y mesurau cyflym a roddwyd ar waith i letya cleientiaid sy'n agored i niwed yn ddiogel a'r camau a gymerwyd eisoes i sicrhau llety parhaol ychwanegol fel rhan o gynlluniau tymor hwy y Cyngor i fynd i'r afael â digartrefedd.

Bydd canolfan asesu newydd, lle bydd anghenion cleient yn cael eu deall yn iawn a datrysiad priodol yn cael ei ddatblygu, ynghyd â llety argyfwng ar y safle, yn ganolbwynt i'r weledigaeth newydd hon. Bydd y Ganolfan yn dod yn bwynt cydgysylltu ar gyfer gwasanaethau anghenion cymhleth amlddisgyblaethol y ddinas gan gynnwys allgymorth stryd a hostel a bydd yn darparu atgyfeiriadau i gleientiaid gael eu hailgartrefu mewn llety hunangynhwysol o ansawdd da mewn lleoliad â chymorth, gan ddibynnu ar lefel eu hanghenion.

Amlinellir cynlluniau ar gyfer llety gwell yn yr adroddiad.  Mae cynlluniau ar y gweill fel bod cyfleuster sy'n bodoli eisoes yn Adamsdown, ac sy'n darparu llety dros dro i deuluoedd digartref ar hyn o bryd, yn canolbwyntio o'r newydd ar ddatblygu cyfleuster integredig o tua 103 o unedau hunangynhwysol gyda chymorth dwys, fel gwasanaethau iechyd a therapiwtig ar y safle. Bydd fflatiau ychwanegol ar gael fel rhan o'r cynllun ar gyfer llety mwy sefydlog tymor hwy.

Mae hyn yn ychwanegol at lety ychwanegol sydd eisoes yn y ddinas yn Llanrhymni, a bloc tai myfyrwyr Uned 42 ar Heol Casnewydd i ateb y galw cynyddol.

Mae ailgartrefu'n gyflym a Thai yn Gyntaf hefyd yn rhan bwysig o'r weledigaeth ar gyfer gwasanaethau digartrefedd yn y dyfodol yng Nghaerdydd, gan sicrhau y gall pobl ddigartref symud i lety parhaol cyn gynted â phosibl.  

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24325.html

 

Diogelwch yn gyntaf wrth i'r gwaith ddechrau ar ailagor Ardaloedd Chwarae Plant Caerdydd

Mae gwaith wedi dechrau i sicrhau bod ardaloedd chwarae plant a chyfarpar ffitrwydd awyr agored ym Mharciau Caerdydd yn ddiogel i'w defnyddio, yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru bodd modd iddyn nhw bellach ailagor i'r cyhoedd.

Mae gan Gaerdydd fwy na 100 o ardaloedd chwarae a naw ardal ffitrwydd awyr agored a bydd angen cynnal archwiliadau diogelwch ym mhob safle cyn y gellir eu hailagor i'r cyhoedd.

Er mwyn sicrhau bod gan bob ardal yng Nghaerdydd rywfaint o ddarpariaeth i blant gael chwarae yn yr awyr agored cyn gynted â phosibl, bydd yr archwiliadau hyn ac unrhyw waith angenrheidiol i adfer neu atgyweirio cyfarpar yn cael eu cynnal fesul cam dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24318.html

 

Cyflawni Rhaglen Ysgolion yr 21ainGanrif gydachymorth Model Buddsoddi Cydfuddiannol

Caiff Cabinet Cyngor Caerdydd y newyddion diweddaraf am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol i gynorthwyo cyflwyno Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Caerdydd, yn ei gyfarfod ddydd Iau 16 Gorffennaf.

Cynllun cenedlaethol yw'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol a ddatblygwyd i fenthyca arian drwy'r sector preifat er mwyn dylunio ac adeiladu ysgolion, a chynnal adeiladwaith yr adeiladau dros gyfnod o 25 mlynedd.

Mae'r Cyngor wedi cytuno i Gytundeb Partneriaeth Strategol 10 mlynedd gyda menter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a phartner y sector preifat, Meridiam Investments II SAS, i ddarparu ysgolion yn y dyfodol, gan gynnwys, mewn egwyddor, Ysgol Uwchradd Willows ac Ysgol Uwchradd Cathays.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24322.html