The essential journalist news source
Back
8.
July
2020.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 8 Gorffennaf

Yn y diweddariad COVID-19 diweddaraf gan Gyngor Caerdydd: dau Hyb cymunedol arall yn ailagor yr wythnos nesaf;casgliadau gwastraff gardd; a "Gŵyl Tŷ Allan", gŵyl gelfyddydol ddigidol ar-lein newydd a chyffrous.

 

Dau Hyb cymunedol arall yn ailagor yr wythnos nesaf

Bydd Hyb Grangetown a Llyfrgell Radur yn ail-agor Ddydd Llun (13 Gorff) nesaf, fel rhan o'r broses o ailddechrau gwasanaethau yn hybiau'r ddinas yn raddol.

Ar hyn o bryd mae chwe hyb ar agor ar sail apwyntiad yn unig (ac eithrio achosion brys) - Hyb y Llyfrgell Ganolog, Hyb Llaneirwg, The Powerhouse, Hyb Trelái & Chaerau, Hyb Ystum Taf a Gabalfa a Hyb Llanisien.

Bydd cwsmeriaid yn gallu defnyddio'r gwasanaeth llyfrgell clicio a chasglu newydd yn yr holl gyfleusterau hyn, yn ogystal ag ystod o wasanaethau cyngor yn y hybiau megis y Gwasanaeth i Mewn i Waith, tai, budd-daliadau a chyngor ariannol, lle na ellir delio gydag ymholiadau dros y ffôn neu dros e-bost.

Gellir casglu bagiau gwastraff bwyd ac ailgylchu gwyrdd heb drefnu apwyntiad hefyd.

Dysgwch fwy ar ygwasanaeth llyfrgell clicio a chasglu yma:https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/23993.html

Cysylltwch a'n Llinell Gyngor neu Llinell Llyfrgell (opsiwn 2) gan alw 029 2087 1071 neu ebost:

hybcynghori@caerdydd.gov.uk

 

Casgliadau gwastraff gardd

Mae casgliadau gwastraff gardd o ymyl y ffordd Caerdydd yn mynd i ddychwelyd bob pythefnos.

Gall preswylwyr wirio diwrnodau casglu gwastraff gwyrdd a dyddiadau ar gyfer eu hardal o 6 Gorffennaf yma:

http://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/Pryd-gaiff-fy-miniau-eu-casglu/Pages/default.aspx

Dylai casgliadau ddilyn y patrwm yr oedd preswylwyr yn gyfarwydd ag ef cyn y cyfyngiadau.

Mae'r ffaith fod y casgliad gwastraff gardd bob pythefnos wedi'i adfer yn golygu bod pob casgliad arferol o ymyl y ffordd bellach yn ôl yn y ddinas ac eithrio'r cynllun peilot poteli gwydr a jariau.

Gofynnir i drigolion sy'n byw yn y 14,000 o gartrefi a gymerodd ran yn y cynllun peilot gwydr barhau i roi eu poteli a'u jariau yn eu bagiau ailgylchu gwyrdd, yn hytrach na'u cadi glas hyd nes y ceir hysbysiad pellach.

Er mwyn helpu staff y Cyngor i gadw'r strydoedd yn lân, gofynnir i drigolion hefyd ddefnyddio eu cadis bwyd brown ar gyfer eu holl bilion llysiau a gwastraff bwyd dros ben, a sicrhau bod eu holl ddeunyddiau ailgylchadwy yn cael eu golchi cyn iddynt fynd i'r bagiau gwyrdd i'w casglu.

Yr unig wastraff y dylid ei roi yn y biniau gwyrdd yw dail, gwair wedi ei dorri, toriadau planhigion neu flodau a brigau a changhennau bychain.

 

"Gŵyl Tŷ Allan" - Gŵyl gelfyddydol ddigidol ar-lein newydd a chyffrous

18 Gorffennaf - 15 Awst 2020 

Gyda phobl ifanc a llawer o oedolion yn chwilio am ffyrdd o ddiddanu eu hunain a'u teuluoedd mewn ffordd greadigol yn ystod y cyfnod clo, mae Actifyddion Artistig wedi creu gŵyl gelfyddydau ddigidol lle gall pobl gymryd rhan heb orfod camu'r tu hwnt i garreg eu drws.

Elusen gofrestredig sy'n cefnogi prosiectau ymgysylltu â'r gynulleidfa, addysg a'r gymuned o Neuadd Dewi Sant a'r Theatr Newydd yw Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig

Mae Actifyddion Artistig wedi bod yn arwain y ffordd yng Nghymru drwy eu hymgysylltiad ag ysgolion, athrawon, teuluoedd a phobl ifanc yn ystod y cyfnod clo, gan ddarparu adnoddau addysgol ar-lein, mynediad at diwtorialau creadigol byw, ynghyd â dolenni a chyngor. Bydd Gŵyl Tŷ Allan yn cynnig mynediad AM DDIM at weithgareddau ar-lein, a bydd yn cynnwys gweithgareddau dan arweiniad artistiaid a mini-brosiectau i annog pobl o bob oed, nid dim ond plant, i fwynhau natur gan ddysgu mewn ffordd hwyliog a chreadigol.

Mae'r celfyddydau wastad wedi chwarae rôl allweddol yn cefnogi ac yn ysgogi ymdeimlad o lesiant ar gyfer y rhai sy'n cymryd rhan ac yn ymgysylltu â nhw, gyda cherddoriaeth, canu, dawns, theatr, a'r celfyddydau gweledol i enwi dim ond rhai.

Bydd llawer o'r ymgysylltiad â'r gweithgareddau dan arweiniad artistiaid yn yr ŵyl yma yn cynnwys natur a byddant wedi'u hysbrydoli gan fyd natur. Wrth i ni gamu'n betrusgar o'r cyfnod clo, rydyn ni am annog pobl ifanc yn benodol i fwynhau natur mewn ffordd hwyliog, greadigol ac yn bwysicaf oll, diogel. Bydd bod tu allan NAWR yn fwy nag erioed yn cael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd meddwl a'n llesiant.  Bydd yr ŵyl ddigidol yma'n dod â'r holl elfennau yma at ei gilydd i ddysgu pethau newydd mewn ffordd hwyliog a chreadigol! 

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal dros gyfnod o fis, a bydd yn cael ei lansio ddydd Sadwrn 18 Gorffennaf ac yn parhau tan ddydd Sadwrn 15 Awst. Mae Actifyddion Artistig wedi creu rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau, a darperir rhywfaint o'r gweithgareddau mewn cyfres o waith i bobl rhwng 1 ac 80 oed.  I roi blas ar y rhain mae Prom Tidli (i blant rhwng 1 a 5 oed), sy'n gyfres o 4 gweithgaredd gwahanol yn ymwneud â chynnwys, themâu a chymeriadau Prom Tidli.  Prom Teulu, sydd eto yn gyfres o 4 gweithgaredd gwahanol (i blant 5 oed a hŷn); cyfres o 5 podlediad dan arweiniad Jonathan James (10 oed a hŷn) yn cynnwys sgyrsiau gydag artistiaid amrywiol am y berthynas, y dylanwad a'r ysbrydoliaeth rhwng cerddoriaeth a natur; cyfres o 12 gweithgaredd Celfyddydau Ieuenctid a fydd yn cefnogi datblygiad sgiliau newydd (rhwng 10 ac 18 oed). Ac, wrth gwrs, y Cwis - sydd wedi bod yn rhan fawr o'r cyfnod clo! Rydyn ni wedi creu 4 cwis i'r teulu ar bynciau celfyddydau gweledol, cerddoriaeth, ffilm a theatr (ar gyfer plant 10 oed a hŷn). Gallwn ddweud yn onest - mae rhywbeth i bawb!

http://artsactive.org.uk/gwyl-ty-allan/