Yn y diweddariad ar COVID-19 a gafwyd heddiw gan Gyngor Caerdydd: fersiwn gyfeillgar i blant o strategaeth adfer y ddinas; sut mae gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru yn gweithio; nodyn i'ch atgoffa i beidio rhoi cyllyll cegin nad oes mo'u heisiau mwyach mewn bagiau gwastraff neu ailgylchu cyffredinol; a Grace fach yn Stopio Sbwriela!
Fersiwn gyfeillgar i blant o strategaeth adfer y ddinas
Fel y disgrifir yn ein gweledigaeth ar gyfer Caerdydd sy'n dda i blant
Mae Caerdydd yn lle gwych i dyfu i fyny.
- Dinas gyda phlant a phobl ifanc wrth ei chalon, lle mae lleisiau, anghenion a hawliau pob plentyn a person ifanc yn cael eu parchu.
- Dinas lle mae pob plentyn a pherson ifanc, waeth beth fo'u cred, ethnigrwydd, cefndir neu gyfoeth yn ddiogel, iach, hapus ac yn gallu rhannu yn llwyddiant y ddinas.
Er mwyn cyflawni hyn rydym wedi gwneud fersiwn hygyrch, gyfeillgar i blant o strategaeth adfer y ddinas
Darllenwch fwy yma:
https://www.childfriendlycardiff.co.uk/cy/adnoddau/covid-19-strategaeth-adfer/
Sut mae gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru yn gweithio
Profi
Mae olrhain cysylltiadau yn dibynnu ar bobl yn cael prawf gynted ag y gallant. Cyn gynted ag y bydd unrhyw berson yn datblygu symptomau haint y coronafeirws dylai drefnu i gael prawf ar unwaith a dylai hunanynysu ynghyd ag aelodau ei aelwyd.
https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws
Olrhain
O gael canlyniad cadarnhaol gofynnir i chi gefnogi gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru drwy adrodd am eich cysylltiadau diweddar er mwyn gallu cysylltu â nhw a'u hysbysu i hunanynysu a chael prawf os byddant yn datblygu symptomau. Bydd hyn yn helpu i atal y feirws.
Ystyr cysylltiadau agos yw:
- Rhywun rydych chi wedi bod o fewn 1 metr iddo, am fwy nag 1 funud
- Rhywun rydych chi wedi bod o fewn 2 fetr iddo, am fwy na 15 munud
Cysylltiad yw rhywun rydych yn byw neu nad ydych yn byw gydag ef ond rydych wedi bod o fewn pellter agos iddo, rhywun sydd wedi bod o fewn 1 metr i chi ac rydych wedi cael sgwrs wyneb yn wyneb ag ef, neu gyswllt corfforol croen wrth groen, rhywun rydych wedi pesychu arno, neu rywun sydd wedi cael mathau eraill o gysylltiad â chi, o fewn un metr am un funud neu fwy.
Rhywun rydych chi wedi teithio mewn cerbyd ag ef, sydd wedi bod yn eistedd yn agos i chi ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae'n hynod bwysig bod pawb sy'n gysylltiad i achos positif yn hunanynysu am 14 diwrnod. Mae hynny oherwydd y gallant gario'r feirws, p'un a ydyn nhw â symptomau ai peidio, a gallent drosglwyddo'r feirws i bobl eraill. Nid oes angen i aelodau eraill o deulu'r cysylltiad hunanynysu.
Diogelu
Mae'r camau hynny yn ychwanegol at y canllawiau presennol o ran golchi dwylo'n rheolaidd ac yn aml a chadw pellter cymdeithasol. Mae'r pethau hynny'n wirioneddol bwysig i bawb er mwyn atal trosglwyddiad y feirws. Drwy weithio gyda'n gilydd, byddwn i gyd yn helpu i gadw Cymru'n ddiogel.
Olrhain eich symudiadau. Atal y lledaeniad. Gyda'n gilydd byddwn yn cadw Cymru'n ddiogel
https://llyw.cymru/coronafeirws
Nodyn i'ch atgoffa i beidio rhoi cyllyll cegin nad oes mo'u heisiau mwyach mewn bagiau gwastraff neu ailgylchu cyffredinol
Y ffordd fwyaf diogel o gael gwared ar hen gyllyll cegin yw mynd â nhw i'ch Canolfan Ailgylchu leol a'u rhoi yn y biniau metel sgrap.
Ni ddylent gael eu rhoi yn eich bagiau ailgylchu neu wastraff cyffredinol.
Trefnwch eich ymweliad â'r ganolfan ailgylchu yma:https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/canolfannau-ailgylchu/ymweld-a-chanolfan-ailgylchu/Pages/default.aspx
Grace fach yn Stopio Sbwriela!
Gofynnwch i blentyn 9 oed beth a hoffai ei gael i'w ben-blwydd neu'r Nadolig ac mae'n debyg o ofyn am degan technolegol neu hwyl (a swnllyd!).
Ond, dywedodd Grace, merched fach garedig 9 oed o Lwynbedw, wrth ei thad ei bod eleni'n gofyn i Sion Corn am ... bigwr sbwriel.
Dywed Gareth Wakeham, tad Grace, "Dywedodd Grace wrthyf, pan fyddwn ni'n mynd am dro, nad yw hi'n hoffi gweld y sbwriel ar y llawr a'r difrod mae'n ei wneud i'r amgylchedd.
"Dywedodd yr hoffai fynd â phigwr sbwriel â hi a bag sbwriel i lanhau wrth i ni gerdded."
Gyda phen-blwydd Grace ar ddiwedd Mehefin yn ystod y cyfnod cloi, nid oedd parti pen-blwydd gyda'i ffrindiau, felly trodd ei thad gofalgar at Gyngor Caerdydd am help.
Ysgrifennodd Gareth e-bost at y Cynghorydd Daniel De'ath, Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, gan ofyn a allai helpu i wneud pen-blwydd ei ferch yn un arbennig iawn, trwy roi pigwr sbwriel iddi.
Dywed y Cynghorydd Daniel De'ath, Gwir Anrh. Arglwydd Faer Caerdydd, "Mae Grace yn enghraifft wych o rywun sydd, hyd yn oed yn ifanc, yn gwneud gwahaniaeth enfawr yn ei chymuned ac yn cael effaith gadarnhaol ar ein hamgylchedd.
"Diolch yn fawr i Graham, tad Grace, am gysylltu. Gobeithiwn y cafodd Grace ben-blwydd gwych.
"Rydym yn hynod o falch ac yn ddiolchgar i'n trigolion a'n gwirfoddolwyr sy'n rhoi o'u hamser sbâr i gasglu sbwriel, yn enwedig yn y cyfnod anodd hwn.
"Mae mor anffodus bod lleiafrif o bobl yn credu ei fod yn dderbyniol i daflu sbwriel ac rydym yn ddiolchgar i'r rhai ohonoch sy'n dangos eich bod yn caru lle rydych yn byw.
"Hoffwn ddiolch hefyd i dimau glanhau strydoedd ein Cyngor ac i gasglwyr sbwriel penodol sy'n parhau i weithio'n galed iawn i gadw Caerdydd yn daclus."
Dywed Grace, "Gofynnais i am y codwr sbwriel gan fy mod i am wneud y byd yn lle glanach.
"Pan welais i'r holl sbwriel mewn parciau ac ym Mae Caerdydd, doeddwn i ddim yn gallu credu'r peth. Roeddwn i'n ysgwyd fy mhen ac yn gofyn "Pam?"
"Gobeithio y bydd pobl yn fwy gofalus wrth i'r cyfnod cloi ddechrau cael ei lacio.
"Cyn y cyfnod cloi, gwnes i araith yn yr ysgol am sbwriel a byddwn i wir yn hoffi petai pobl yn rhoi eu sbwriel yn y bin yn hytrach na'i daflu ar y llawr."
Diolch am fod yn Ymgyrchydd Sbwriel mor wych.
Pen-blwydd hapus Grace.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am grwpiau cymunedol ac Ymgyrchwyr Sbwriel, ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus www.keepwalestidy.cymru. Mae rhagor o arweiniad ar gasglu sbwriel yn ystod cyfyngiadau COVID-19 i'w gweld ar wefan https://www.keepcardifftidy.com/cy/.