The essential journalist news source
Back
30.
June
2020.
Diweddaraf COVID-19: 30 Mehefin

Dyma'r diweddaraf ar COVID-19 gan Gyngor Caerdydd: ysbryd Cymunedol Caerdydd yn dod i'r amlwg ar Wellfield Road; cymorth digidol i athrawon, blant a phobl ifanc Caerdydd; a beth am flasu Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd o garreg eich drws?

 

Ysbryd Cymunedol Caerdydd yn dod i'r amlwg ar Wellfield Road

Nos Sul, ar ôl i Wellfield Road yng Nghaerdydd gael ei chau am y diwrnod i osod 14 o goed bedw a rhwystrau traffig newydd, cafodd trigolion a manwerthwyr eu deffro gan seirenau'r heddlu ychydig cyn hanner nos i ddod o hyd i bedair o'r coed wedi eu torri neu eu difrodi'n ddifrifol.

Gosodwyd y coed a'r rhwystrau i alluogi busnesau i fasnachu'n ddiogel, gyda phalmentydd ehangach i gwsmeriaid, gan alluogi pobl i ymbellhau'n gymdeithasol oddi wrth eraill.

Roedd y newyddion bod y coed wedi'u difrodi gam yn rhy bell i breswylydd lleol Jordan Lee Wilson sy'n astudio gradd Meistr mewn Dylunio Trefol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Aeth Jordan, 23, o Stafford yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, ati ei hun i brynu coeden Acer gan werthwr lleol wrth fynd am dro a phlannu'r goeden yn un o'r blychau plannu gwag sydd bellach yn wag, gyda phlac sy'n darllen ‘Rydym yn Dwlu ar ein Coed Newydd XX. '

Cafodd llun o'r goeden a'r plac eu gosod ar y cyfryngau cymdeithasol gan gasglu hoffterau a rhaniadau yn gyflym a chroesawodd y cyhoedd yr hyn a wnaed Jordan.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gynllunio a Thrafnidiaeth: "Ar ôl y gofid a'r sioc a achoswyd gan y difrod a wnaed i'r coed newydd ar Wellfield Road, roedd hi wir yn galonogol gweld arwydd ewyllys da Jordan heddiw a gweld yr ymateb cadarnhaol a gafodd ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae wedi helpu i greu gwir deimlad o ysbryd cymunedol tuag at yr ymdrechion parhaus i wneud gwelliannau ar Wellfield Road. Rwyf am ddiolch iddo am yr arwydd."

Mae trigolion eraill hefyd wedi anfon negeseuon i'r Cyngor drwy'r cyfryngau cymdeithasol, gan gynnig rhoi arian tuag at y coed newydd sydd eisoes wedi'u harchebu.

Mae'r Cyngor wedi bod mewn cysylltiad â Jordan hefyd, i ddiolch iddo am ei gyfraniad a'i neges. Bydd coeden Acer newydd Jordan yn aros ar Wellfield Road yn y ddysgl bresennol nes i'r coed bedw newydd gyrraedd, ac mewn ymgynghoriad â Jordan, bydd y goeden Acer wedyn yn cael ei ail-blannu mewn parc lleol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

Cymorth digidol i athrawon, blant a phobl ifanc Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd yn rhoi'r offer digidol diweddaraf i bob athro yng Nghaerdydd i'w helpu i ddarparu dysgu ar-lein a chyfunol.

Mae arian ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru wedi prynu 1,300 o liniaduron i athrawon hyd yma gyda 1,700 o ddyfeisiau pellach yn cael eu rhoi dros yr wythnosau i ddod.

Yn ogystal â rhoi gliniaduron i athrawon, mae Cyngor Caerdydd wedi dosbarthu bron 6500 o declynnau digidol gan gynnwys Chromebooks ac iPads i blant a phobl ifanc yng Nghaerdydd sydd wedi cael eu hadnabod yn rhai sy'n dioddef amddifadedd digidol. Mae hyn ar ben 2000 o ddyfeisiau band eang  symudol 4G.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Bydd y cynllun hwn yn sicrhau bod pob athro yn y ddinas ag offer digidol modern er mwyn iddo ddarparu dysgu ar-lein yn effeithlon.

"Rydym yn gwybod y bydd angen cyflwyno addysg trwy ddysgu cyfunol, gan gyfuno deunyddiau addysgol ar-lein â dulliau ystafell ddosbarth traddodiadol.  Mae hyn yn cryfhau ymhellach y pwysigrwydd bod angen mynediad digidol da ar ein gweithlu wrth symud ymlaen, hyd yn oed pan fydd ysgolion yn ailagor. 

Gan fod arweiniad Llywodraeth Cymru ar ffrydio gwersi byw (dysgu cydamserol) wedi newid yn ddiweddar a bod ysgolion wedi derbyn canllawiau erbyn hyn, bydd rhoi'r dyfeisiau newydd y mae'r Cyngor yn berchen arnynt hefyd yn galluogi athrawon i gynnal gwersi byw, yn ddiogel ac yn fedrus. Bydd hefyd yn rhoi'r cyfle iddynt wella'r defnydd o dechnoleg yn eu gwersi, creu cynnwys a chyfathrebu â disgyblion a chydweithwyr.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry: "Ers i ysgolion gael eu cau, mae Cyngor Caerdydd wedi cynnig hyfforddiant sylweddol i gefnogi ysgolion i ddarparu dysgu ar-lein ac o bell, gan gynnwys hyfforddiant rhithwir i athrawon mewn partneriaeth â'r Brifysgol Agored. Bydd yr hyfforddiant hwn yn parhau i gefnogi athrawon i ddarparu dysgu cydamserol a chyfunol."

 

Beth am flasu Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd o garreg eich drws?

Bob blwyddyn, daw mwy na 100 o gynhyrchwyr crefftus, masnachwyr bwyd annibynnol a gwerthwyr bwyd stryd i osod stondinau ym Mae Caerdydd ar benwythnos cyntaf mis Gorffennaf ar gyfer Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd - ond eleni caiff y bwyd (ynghyd â rhywfaint o'r profiad gŵyl) ei ddosbarthu yn syth wrth eich drws.

Bydd  gwefan newydd yr ŵyl  yn cynnig ryseitiau a marchnad ar-lein lle gall ymwelwyr archebu amrywiaeth o fwyd a diod lleol a rhyngwladol o safon uchel - pethau megis Cacennau blasus, marinadau, olewau â blas, piclau, jin a seidr arbenigol a mwy - yn uniongyrchol gan y gwneuthurwyr.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd wedi bod yn un o uchafbwyntiau yng nghalendr digwyddiadau'r haf Caerdydd ers dros 20 mlynedd, gan ddod â llu o bobl sy'n dwlu ar fwyd i'r ddinas i brofi cynnyrch anhygoel a mwynhau bwrlwm yr ŵyl.

"Mae pethau'n mynd i fod ychydig yn wahanol eleni, ond fe wyddom i lawer o bobl fod ymweliad â'r digwyddiad hwn yn nodi dechrau'r haf yng Nghaerdydd - ac i'r gwerthwyr yn yr ŵyl, mae'n gyfle gwych i gysylltu'n uniongyrchol â chwsmeriaid.

"Dylai'r ŵyl rithwir hon fod yn ffordd wych o roi blas i bobl o'r hyn y mae'r ŵyl bwyd a diod yn ei wneud, cefnogi'r busnesau bach sy'n dibynnu o leiaf yn rhannol, ar y cyfleoedd sydd ar gynnig, a helpu i gadw ysbryd yr ŵyl yn fyw tan y flwyddyn nesaf."

Bydd gwefan Gŵyl Bwyd a diod Caerdydd yn cael ei lansio ddydd Gwener yma am hanner dydd a bydd ar gael drwy gydol mis Gorffennaf.

Bydd manylion llawn am yr ŵyl a'r holl fasnachwyr yn cael eu hychwanegu at  www.cardifffoodanddrinkfestival.com  lle gallwch hefyd ymuno â rhestr bostio'r ŵyl i gael diweddariadau.