The essential journalist news source
Back
26.
June
2020.
Diweddariad COVID-19: 26 Mehefin

Croeso i ddiweddariad COVID-19 olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd,sy'n cynnwys: casgliadau gwastraff gardd wrth ymyl y ffordd i ddychwelyd i'r patrwm arferol ar 6 Gorffennaf; bydd Heol Wellfield ar gau i draffig Ddydd Sul ar gyfer gwaith gwella; ac y Gleision yn dychwelyd i hyfforddi yng Nghanolfan Hamdden Pentwyn.

 

Casgliadau gwastraff gardd wrth ymyl y ffordd i ddychwelyd i'r patrwm arferol ar 6 Gorffennaf

Mae casgliadau gwastraff gardd o ymyl y ffordd Caerdydd yn mynd i ddychwelyd bob pythefnos o ddydd Llun 6 Gorffennaf.

Dwedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, yr Amgylchedd ac Ailgylchu: "Amharwyd ar ein casgliadau gwastraff gardd bob pythefnos gan bandemig COVID-19, ond rwy'n falch o ddweud y bydd y gwasanaeth arferol yn ailddechrau. Hoffwn ddiolch i'r trigolion am eu hamynedd. Maen nhw wedi deall y pwysau sydd wedi bod arnom ni'n iawn."

Gall preswylwyr wirio diwrnodau casglu gwastraff gwyrdd a dyddiadau ar gyfer eu hardal o 6 GorffennafYma, dylai casgliadau ddilyn y patrwm yr oedd preswylwyr yn gyfarwydd ag ef cyn y cyfyngiadau.

Mae'r ffaith fod y casgliad gwastraff gardd bob pythefnos wedi'i adfer yn golygu bod pob casgliad arferol o ymyl y ffordd bellach yn ôl yn y ddinas ac eithrio'r cynllun peilot poteli gwydr a jariau.

Gofynnir i drigolion sy'n byw yn y 14,000 o gartrefi a gymerodd ran yn y cynllun peilot gwydr barhau i roi eu poteli a'u jariau yn eu bagiau ailgylchu gwyrdd, yn hytrach na'u cadi glas hyd nes y ceir hysbysiad pellach.

Er mwyn helpu staff y Cyngor i gadw'r strydoedd yn lân, gofynnir i drigolion hefyd ddefnyddio eu cadis bwyd brown ar gyfer eu holl bilion llysiau a gwastraff bwyd dros ben, a sicrhau bod eu holl ddeunyddiau ailgylchadwy yn cael eu golchi cyn iddynt fynd i'r bagiau gwyrdd i'w casglu.

Yr unig wastraff y dylid ei roi yn y biniau gwyrdd yw dail, gwair wedi ei dorri, toriadau planhigion neu flodau a brigau a changhennau bychain.

Ychwanegodd y Cynghorydd Michael: "Cafwyd adroddiadau bod bagiau gwyrdd yn cael eu rhwygo ar agor gan wylanod llwglyd, gan achosi i sbwriel lifo allan i'r strydoedd ar draws y ddinas. Os golchir deunyddiau i'w hailgylchu a bod gwastraff bwyd yn mynd i'r cadis y gellir eu cloi yna bydd hynny'n mynd beth o'r ffordd i atal adar ac anifeiliaid rhag rhwygo bagiau gwyrdd ar agor a chreu llanast ar eich stryd. Mae llawer o breswylwyr yn wych am sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei gyflwyno yn y ffordd gywir, ond nid yw'n cymryd llawer i'r stryd gael ei difetha. Pe gallai pawb wneud eu gorau i sicrhau nad oes unrhyw wastraff bwyd yn eu bagiau gwyrdd a bod deunydd ailgylchadwy yn cael ei olchi, bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i olwg eich strydoedd."

 

Bydd Heol Wellfield ar gau i draffig Ddydd Sul ar gyfer gwaith gwella

Ddydd Sul 28 Mehefin bydd Heol Wellfield ar gau i draffig rhwng 61m a 4pm am fod gwaith ar y gweill i ailfodelu'r ffordd er mwyn sicrhau y gall siopau fasnachu yn ddiogel ac y gall y cyhoedd ddilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol.

Yn lle'r conau traffig sydd ar waith ar y naill ochr a'r llall i'r ffordd, rhoddir coed bedw yn eu lle a bydd rhwystrau ychwanegol yn cael eu gosod i ledu'r palmentydd, fel bod mwy o le agored i gerddwyr ei ddefnyddio.

Mae'r cynllun peilot wedi cael ei roi ar waith i alluogi'r siopwyr i fasnachu'n ddiogel, tra'n rhoi hyder i drigolion ei fod yn ddiogel siopa mewn ardaloedd siopa lleol. Gan fod y parcio wedi'i atal ar y naill ochr a'r llall i'r ffordd, mae trefniadau'n cael eu gwneud i gwsmeriaid barcio ar strydoedd cyfagos.

Dyma'r cyntaf o 15 cynllun y mae'r Cyngor yn edrych arnynt ar hyn o bryd mewn ardaloedd siopa cymdogaeth, i helpu'r busnesau hyn fasnachu tra bod y cyfyngiadau COVID-19 presennol ar waith.

Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio gyda busnesau lleol ar Heol Wellfield wrth i'r cynllun hwn ddatblygu a bydd yr ymgysylltiad hwn yn parhau, fel y gallwn oll gydweithio i wella'r stryd a fydd o fudd nid yn unig i'r masnachwyr ond i bawb sy'n byw ac yn ymweld â'r ardal.

 

Y Gleision yn dychwelyd i hyfforddi yng Nghanolfan Hamdden Pentwyn

Bydd Gleision Caerdydd yn dychwelyd i hyfforddi yng Nghanolfan Hamdden Pentwyn ar ôl dod i gytundeb dros dro gyda Chyngor Caerdydd a GLL, y fenter gymdeithasol hamdden elusennol sy'n gweithredu'r cyfleuster.

Gyda Pharc yr Arfau eiconig yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd fel rhan o Ysbyty Calon y Ddraig, roedd angen cyfleuster dros dro ar gyfer dychweliad tîm y rhanbarth i rygbi'r mis nesaf.

Mae cytundeb bellach wedi'i gwblhau rhwng y rhanbarth, Cyngor Caerdydd a GLL, ar gyfer defnyddio'r ganolfan hamdden ar Heol Bryn Celyn dros dro. Mae hyn yn dilyn cyngor y cytunwyd arno gan y Llywodraeth ac URC i glybiau rygbi proffesiynol ddychwelyd i hyfforddiant, gan weithredu protocolau diogel rhag COVID.

Bellach, bydd Gleision Caerdydd yn unig yn defnyddio nifer o gyfleusterau yng Nghanolfan Hamdden Pentwyn, gan gynnwys campfa bwrpasol, cyfleusterau meddygol ac arwyneb 3G. Bydd dynion John Mulvihill hefyd yn parhau i ddefnyddio llain laswellt unigryw ar eu cyfer yng Ngerddi Sophia.

Meddai Richard Holland, Prif Weithredwr Gleision Caerdydd: "Rydym wrth ein boddau bod gennym gyfleuster o'r fath i helpu'r garfan i ddychwelyd i chwarae yn raddol a hoffwn ddiolch i Gyngor Caerdydd, yn enwedig i arweinydd y Cyngor Huw Thomas, y Prif Weithredwr Paul Orders a'r Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury, a GLL am eu cefnogaeth yn hyn o beth."

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Hamdden a Diwylliant, y Cyng. Peter Bradbury: "Mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod wrth galon ymateb Caerdydd i COVID-19 - roedd y Gleision yn trosglwyddo Parc yr Arfau er budd y GIG yn enghraifft wych o hynny. Mae'r symud dros dro hwn i Ganolfan Hamdden Pentwyn, yn ateb creadigol iawn, sy'n cyd-fynd â'r ysbryd cymunedol hwnnw, o fudd i bob partner, a bydd yn helpu i sicrhau bod y garfan yn ffit ac yn barod i ailgydio ynddi ym mis Awst."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24183.html