The essential journalist news source
Back
23.
June
2020.
Diweddaraf COVID-19: 23 Mehefin

Dyma'r diweddaraf ar COVID-19 gan Gyngor Caerdydd: cadw canol y ddinas yn ddiogel a hygyrch i bawb; yr ardaloedd sy'n cael casgliadau gwastraff gardd dydd Sadwrn yma; Farchnad Caerdydd ailagor ar 29 Mehefin; a penderfyniad Teleofal Caerdydd i newid i weithio ystwyth yn galluogi'r tîm i helpu i ateb galwadau y tu allan i'r oriau arferol.

 

Cadw canol y ddinas yn ddiogel a hygyrch i bawb

Er mwyn sicrhau bod canol y ddinas yn lle diogel a hygyrch i bawb, mae amrywiaeth o fesurau ychwanegol wedi cael eu rhoi ar waith i helpu'r rheini sydd ag anableddau neu broblemau symudedd yng nghanol y ddinas.

Mae gwasanaeth Bygi Modur ar gael ar gais, drwy ofyn i aelod o staff yn unrhyw un o'r pwyntiau croeso. Gellir hefyd archebu'r bygi ymlaen llaw o fan parcio dynodedig drwy ffonio 029 2087 3888.

Mae parcio i bobl anabl ar gael fel arfer yng nghanol y ddinas ar Ffordd Churchill a Heol y Cawl. Gan fod Rhodfa'r Orsaf ar gau, bydd angen i bobl sydd am ddefnyddio Ffordd Churchill deithio ar hyd Stryd Bute i Adam Street.

Mae meysydd parcio ar y ffyrdd cyfyngedig ar agor i'r cyhoedd. Dim ond fel llwybr trwodd y mae'r ffyrdd hyn ar gau, a bydd arwyddion yn cael eu gosod ar y ffyrdd i wneud hyn yn glir.

Yr unig ffyrdd fydd ar gau yn llawn yw Stryd y Castell a Lôn y Felin.

Mae trefniadau wedi'u gwneud gyda manwerthwyr yng nghanol y ddinas i sicrhau y gall nwyddau gael eu danfon yn ystod y diwrnod gwaith. Mae mannau llwytho wedi'u creu y naill ochr i Stryd y Castell, a fydd ar gau, ac rydym yn parhau i weithio gyda manwerthwyr wrth i bawb ddod i'r arfer â'r system newydd.

I gael rhagor o wybodaeth am y trefniadau newydd yng nghanol y ddinas, darllenwch y daflen Holi ac Ateb:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24138.html

I gael rhagor o wybodaeth am gau ffyrdd yng nghanol y ddinas a'r cyfyngiadau, ewch i:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24136.html

 

Yr ardaloedd sy'n cael casgliadau gwastraff gardd dydd Sadwrn yma

Bydd yr ardaloedd yng Nghaerdydd y mae eu gwastraff yn cael ei gasglu ar Ddydd Iau yn cael casgliad gwastraff gardd ddydd Sadwrn yma, 27 Mehefin.

Bydd y casgliadau gwastraff gardd untro yn parhau yn ystod mis Mehefin a wythnos gyntaf mis Gorffennaf, fel y gall preswylwyr gael gwared ar eu toriadau glaswellt, brigau a changhennau bach, dail, a thoriadau planhigion a blodau.

Dyma'r unig fathau o wastraff y dylid eu rhoi yn eich bin olwynion gwyrdd neu eich bagiau amldro.

Hoffem atgoffa preswylwyr y dylent roi gwastraff gardd allan i'w gasglu yn eu biniau olwynion gwyrdd neu eu sachau gardd amldro yn unig.

Ni fydd unrhyw wastraff gardd ychwanegol a roddir mewn unrhyw gynhwysydd arall, gan gynnwys bagiau plastig, yn cael ei gasglu.

Os rhoddir eitemau anghywir yn y bin gwyrdd neu'r sachau amldro, caiff sticer pinc ei roi ar y cynhwysydd i hysbysu'r preswylydd bod eitemau anghywir wedi eu rhoi allan i'w casglu ac ni chaiff y gwastraff ei gasglu.

 

Farchnad Caerdydd ailagor ar 29 Mehefin

Mae disgwyl i Farchnad Caerdydd ailagor ar 29 Mehefin yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru'r wythnos ddiwethaf y caiff siopau nad ydynt yn rhai hanfodol agor unwaith eto.

Cyn i'r farchnad ailagor, mae'r Cyngor, a stondinwyr unigol, yn rhoi mesurau diogelwch ychwanegol ar waith i sicrhau y gall pawb sy'n defnyddio'r farchnad wneud hynny'n ddiogel.

 

Penderfyniad Teleofal Caerdydd i newid i weithio ystwyth yn galluogi'r tîm i helpu i ateb galwadau y tu allan i'r oriau arferol

Mae Teleofal Caerdydd wedi addasu eu harferion gweithio i sicrhau bod cwsmeriaid yn derbyn y gwasanaeth gorau posibl, gyda rhai aelodau o staff bellach yn gweithio'n ystwyth ac yn cefnogi'r tîm ehangach yn gyffredinol gan helpu gyda galwadau a negeseuon e-bost.

Mae ein Tîm Gofal Cwsmeriaid, ar ôl lleihau eu horiau agor i 9am-4.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, wedi bod yn brysur yn ateb galwadau a negeseuon e-bost a sicrhau bod cysylltiadau brys i'r gwasanaeth yn cael eu prosesu. Yn ystod mis Mai, deliodd y tîm gofal cwsmeriaid â 1375 o alwadau, prosesodd 1022 o negeseuon e-bost a chofrestrwyd 55 o gwsmeriaid newydd i'r gwasanaeth.

Mae ein Gweithredwyr Teleofal wedi bod yn brysur wrth ymateb i gwsmeriaid sydd angen cymorth, gyda thros 8,569 o alwadau yn cael eu trafod yn ystod mis Mai yn unig. Roedd y Tîm y Tu Allan i Oriau Arferol a oedd yn gweithio gartref hefyd yn delio â 1,192 o alwadau.

Mae cael cymorth gan staff sy'n gweithio'n ystwyth wedi golygu y gall aelodau o'r tîm gartref helpu i ateb galwadau y tu allan i oriau arferol gan Gyngor Caerdydd yn ogystal ag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai eraill, ac mae hyn yn tynnu'r pwysau oddi ar y rhai sy'n dal i fod yn y swyddfa.

Meddai Lesley Ironfield, Rheolwr Gwasanaethau 24/7, "Mae tîm Teleofal wedi parhau i ddarparu gwasanaethau i ddinasyddion sy'n agored i niwed trwy gydol y pandemig, gan eu helpu i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Rwyf mor falch o'r ffordd y mae'r tîm wedi addasu, mae'r rhai sydd wedi methu gweithio yn y swyddfa yn dal i allu cefnogi eu cydweithwyr."

I gael gwybod mwy am Teleofal, ewch i:

https://telecarecardiff.co.uk/