Back
22.
June
2020.
Cyrtiau chwaraeon a hamdden awyr agored Cyngor Caerdydd i ail-agor
Mae
Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi o heddiw (Dydd Llun 22 Mehefin), y bydd yr holl
gyfleusterau chwaraeon a hamdden awyr agored, ac eithrio meysydd chwarae plant
a champfeydd awyr agored, yn cael agor.
O ganlyniad, mae holl gyrtiau tennis, pêl-fasged ac AGADd (Ardal Gemau Aml-ddefnydd) Cyngor Caerdydd yn y broses o gael eu hagor.
Mae
archwiliadau diogelwch yn cael eu cynnal ar hyn o bryd ac arwyddion newydd yn
cael eu cod i atgoffa aelodau’r cyhoedd o’r angen i gadw’r pellter cymdeithasol
angenrheidiol o dan delerau cyfyngiadau cyfnod y clo Llywodraeth Cymru.
Am ragor o
wybodaeth am y rheoliadau Coronafeirws, ewch i wefan Llywodraeth Cymru
yma:
Contact
Newyddion CaerdyddCategory
Sport, Health & Fitness