The essential journalist news source
Back
22.
June
2020.
Newid Go Iawn - gwybodaeth ar wasanaethau digartrefedd yng Nghaerdydd

22/6/20
Trosolwg

Ers i'r cyfangiadau ddod i rym yn sgil y cloi, rydym wedi cyflawni'r canlynol:

  • Creu 182 o unedau llety ychwanegol ar gyfer pobl ddigartref sengl
  • Wedi helpu 473 o bobl i mewn i'n llety person sengl
  • Wedi cynorthwyo 50 o bobl sy'n cysgu ar y stryd i mewn i lety
  • Wedi darparu 3 phryd bwyd y dydd mewn gwestyau a hosteli
  • Wedi atgyfeirio 71 o bobl i raglenni adsefydlu defnyddwyr cuffuriau sy'n gweddnewid eu bywydau Mae llawer mwy o bobl nag o'r blaen yn ymgysylltu â gwasanaethau, gyda rhai ohonynt yn symud ymlaen i driniaeth ymhen ychydig ddyddiau yn unig ar ôl eu hymgynghoriad cychwynnol.
  • Wedi parhau i gynnig cymorth a gwasanaethau therapiwtig, dros y ffôn, fideo ac wyneb yn wyneb.
  • Wedi cynnig sesiynau cyngor lles ac iechyd yn y llety.

 

Nid oes angen i neb gysgu ar y stryd yng Nghaerdydd

  • Cyn y cyfnod cloi, roeddem ni eisoes wedi gostwng nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd. Roedd nifer y bobl oedd yn cysgu ar y stryd yn 84 ym mis Mawrth 2020, o'i gymharu â 30 ym mis Mawrth 2019.

 

  • Ar ôl i'r cyfnod cloi ddod i rym, gostyngodd nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd i 5 unigolyn penderfynol. Mae achosion newydd yn cael eu nodi a'u lletya'n gyson, ond yn ystod cyfnod y cloi, mae nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd wedi aros yn isel iawn.

 

  • Mae'r diffyg cyfleoedd i gardota a llai o gyffuriau ar gael yn y ddinas wedi arwain at ymgysylltu â gwasanaethau na welwyd ei debyg ac wedi'n galluogi ni i wneud mwy o gynnydd nag erioed o'r blaen o ran helpu pobl i symud i ffwrdd o fywyd niweidiol ar y stryd.

 

  • Nid yw pawb sy'n cardota ar y stryd yn ddigartref, mae llawer eisoes dan do ond nid yw hynny'n golygu nad oes angen help arnynt.

 

  • Mae llawer o'r rhai sydd ar y stryd yn unigolion agored iawn i niwed ag amrywiaeth o broblemau ganddynt gan gynnwys problemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau. Mae llawer wedi dioddef trawma yn y gorffennol ac mae angen cymorth arbenigol arnynt i fynd i'r afael â'r problemau hyn. Mae'r cymorth hwnnw ar gael yng Nghaerdydd.

 

  • Dyma pam rydym yn galw am newid gwirioneddol ac yn annog y cyhoedd i beidio â rhoi eu newid sbâr i bobl sy'n cysgu ar y stryd.

 

  • Yn hytrach, gofynnwn i bobl anfon am gymorth, fel y gallwn ddarparu'r cymorth arbenigol y mae gwir angen amdano.

Trosolwg o Wasanaethau Digartref yng Nghaerdydd

Mae'r cyngor a'i bartneriaid yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau llety a chymorth i bobl sy'n mynd yn ddigartref.

Mae amrywiaeth o lwybrau a elwir yn Pyrth, ar gael ar gyfer grwpiau cleient gwahanol:

  • Pobl Sengl a Chyplau
  • Teuluoedd
  • Pobl Ifanc
  • Cam-drin Domestig 

Mae pob Porth yn cynnig amrywiaeth o lety arbenigol a chymorth.

 

Llety ar gyfer Pobl Sengl Ddigartref a Chyplau

  • Mae'r Porth Pobl Sengl yn cynnig mwy na 600 o leoedd mewn hosteli a thai â chymorth. Yn ogystal, mae yna amrywiaeth o lety brys.
  • Ers i'r argyfwng ddechrau, mae 182 o unedau ychwanegol o lety â chymorth wedi'u creu, gan gynnwys:
  • 130 o ystafelloedd mewn gwestyau,
  • 20 o Unedau Ynysu i alluogi pobl ddigartref i hunanynysu
  • 16 o fannau argyfwng ychwanegol
  • 16 fflat llety â chymorth ar gyfer symud ymlaen gyda chymorth
  • Gall anifeiliaid anwes gael eu lletya mewn llawer o'n cynlluniau llety â chymorth.
  • Lleolir y llety ar draws ystod o safleoedd ledled y ddinas a gall ddiwallu ystod eang o anghenion
  • Mae rhai gwasanaethau ar gyfer pobl ddigartref yn cael eu cynnig gan y Cyngor ac eraill gan elusennau fel Byddin yr Iachawdwriaeth, Wallich, Huggard a'r YMCA.

Mae digon o lety yn y ddinas ac nid oes angen i neb gysgu y tu allan

Cymorth i Bobl Ddigartref

  • Mae ein tîm Allgymorth Digartref yn gweithio 7 diwrnod yr wythnos yn ystod y dydd a chyda'r nos i ddod o hyd i unrhyw un sy'n cysgu ar y stryd neu sydd mewn perygl o gysgu ar y stryd ac i'w hannog i gael llety.

 

  • Mae digartrefedd yn llawer mwy na chwestiwn tai, mae gan lawer o bobl ddigartref broblemau sylfaenol ac felly mae ein gwasanaethau yn ceisio cynnig cefnogaeth gyfannol i helpu unigolion i fynd i'r afael ag achos sylfaenol eu digartrefedd a'u cefnogi i symud i ffwrdd o'r strydoedd am byth.

 

  • Mae ein tîm Allgymorth Amlddisgyblaethol yn darparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth i fynd i'r afael ag anghenion cymorth sylfaenol y rhai sy'n cysgu ar y stryd ac mewn llety hostel. Mae'r tîm hwn yn cynnwys nyrs iechyd meddwl a gweithiwr cymdeithasol; gweithiwr cyffuriau ac alcohol; mynediad at wasanaethau rhagnodi cyflym, nyrsys gofal sylfaenol, cwnselydd a gweithwyr therapiwtig; mentoriaid sy'n gyfoedion. Mae'r tîm wedi cael cryn lwyddiant yn cefnogi unigolion sy'n agored i niwed i ailadeiladu eu bywydau.

 

  • Yn aml, bydd unigolion sy'n cysgu ar y stryd yn penderfynu peidio â defnyddio llety oherwydd eu problemau cymhleth, ac yn hytrach, bydd rhai yn cysgu ar y stryd am lawer o flynyddoedd. Yn yr achosion hyn, mae ein tîm Allgymorth yn gweithio'n uniongyrchol â nhw bob dydd, gan barhau i'w hannog i ddefnyddio llety.

 

Dim Mynd Yn Ôl

 

Yn ystod yr argyfwng coronafeirws, gwnaed cynnydd mawr o ran gwella'r llety a'r gwasanaethau sydd ar gael i bobl ddigartref sengl yn y ddinas.  Ein nod yw parhau ac adeiladu ar y cynnydd ardderchog hwn wrth i ni edrych ar ail-lunio gwasanaethau yn y ddinas i ddiwallu anghenion cleientiaid yn y ffordd orau.