Croeso i ddiweddariad COVID-19 olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd,sy'n cynnwys: cynllun graddol i wneud Caerdydd yn un o ddinasoedd 'mwyaf diogel' y DU wedi'i lansio; cau ffyrdd canol dinas Caerdydd a rhoi cyfyngiadau ar waith wrth i gyfyngiadau cloi gael eu codi; a 5 awgrym da ar gyfer rheoli plâu'r haf hwn
Cynllun graddol i wneud Caerdydd yn un o ddinasoedd 'mwyaf diogel' y DU wedi'i lansio
Bydd siopwyr, gweithwyr a thrigolion sy'n ymweld â chanol dinas Caerdydd o ddydd Llun 22 Mehefin, yn cael eu cyfarch gan fannau croeso wedi'u staffio, systemau cerdded diogel a rhai ffyrdd ar gau wrth i'r ddinas lansio cam un o'i gynllun graddol i ddiogelu'r cyhoedd wrth i'r cyfyngiadau symud ddechrau cael eu codi.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener 19 Mehefin y gall siopau nad ydynt yn rhai hanfodol yn y ddinas agor o ddydd Llun ymlaen.
Gweithredodd Cyngor Caerdydd ei gynllun ar unwaith i gadw pobl yn ddiogel ac i helpu busnesau i ailagor, gan gynnwys:
- Sefydlu mannau croeso a gwybodaeth wedi'u staffio;
- Creu system gerdded wedi'i harwyddo'n glir - sy'n hygyrch i bawb;
- Sefydlu mannau ciwio y tu allan i siopau;
- Gadael mannau mainc sydd ar gael lle gall pobl stopio i gael seibiant;
- Cau Stryd y Castell a Lôn y Felin i draffig;
- Cymorth a chyngor i bobl ag anableddau gan gynnwys gwasanaeth casglu bygi modur.
Mae'r mesurau newydd yn rhan un o nifer o gamau y bydd y Cyngor yn eu cyflwyno dros amser wrth i fwy a mwy o gyfyngiadau gael eu codi.
Mae cynlluniau pellach i greu sgwâr cyhoeddus y tu mewn i Gastell Caerdydd; defnyddio Stryd y Castell a ffos y Castell fel ardal gysgodol ar gyfer bwytai a chaffis lleol i ddanfon bwyd; darparu mwy o fannau ar y stryd ar gyfer busnesau lletygarwch; a sefydlu parthau ar draws y ddinas i ddiddanu pobl yn yr awyr agored mewn lleoliadau lle gellir cadw pellter cymdeithasol.
Mae'r cynlluniau, a gyhoeddwyd yn gynharach yn y mis wedi'u cynllunio i wneud Caerdydd yn un o'r dinasoedd ‘mwyaf diogel' yn y DU wrth i fywyd ddechrau dychwelyd i'r ‘arfer'.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi y gall siopau nad ydynt yn hanfodol agor ddydd Llun, felly mae gennym dri diwrnod i gyrraedd cam un o'n cynlluniau ar gyfer bore Llun. Rydym wedi ceisio gwneud y systemau newydd hyn mor syml a hawdd eu defnyddio â phosibl, ond byddwn yn annog preswylwyr i ymweld â'n mannau croeso lle byddant yn cael atebion i unrhyw gwestiynau a allai fod ganddynt. I ddechrau, rydym yn ceisio sicrhau bod y pethau sylfaenol yn eu lle, ond byddwn yn symud yn gyflym i gam dau o'n cynlluniau a fydd yn sicrhau bod rhai mannau newydd yn cael eu hagor yn greadigol i helpu busnesau lleol."
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24136.html
Cau ffyrdd canol dinas Caerdydd a rhoi cyfyngiadau ar waith wrth i gyfyngiadau cloi gael eu codi
Mae trefniadau cau ffyrdd yng nghanol dinas Caerdydd yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau diogelwch y cyhoedd gan fod cyfyngiadau symud yn dechrau codi yn y brifddinas a siopau nad ydynt yn hanfodol yn agor eudrysaui'r cyhoedd o ddydd Llun, Mehefin 22.
Cau Ffyrdd - Stryd y Castell a Lôn y Felin
Bydd Stryd y Castell a Lôn y Felin ar gau i bob traffig, o 12 hanner dydd ddydd Sul, 21 Mehefin nes y ceir hysbysiad pellach.
Bydd cau Stryd y Castell yn golygu y gellir adeiladu ardal eistedd dan orchudd yn yr awyr agored ar Stryd y Castell ac yn ffos y Castell. Mae'r ardal hon yn cael ei chynllunio er mwyn i fwytai a chaffis lleol ei defnyddio. Bydd yn eu helpu i ailagor eu busnesau a gwasanaethu cwsmeriaid y byddent yn eu colli fel arall o ganlyniad i ofynion ymbellhau cymdeithasol ar eu hadeiladau.
Cyfyngiadau Traffig
Rhoddir cyfyngiadau ar waith ar ran isaf Heol Eglwys Fair,Heol y Portha Stryd Wood. Er y caniateir mynediad i fysus, tacsis, beicwyr a cherddwyr, dim ond ar gyfer meysydd parcio ac i ddanfon nwyddau y caniateir i gerbydau preifat eu defnyddio.
Bydd yr holl breswylwyr sy'n byw ar y strydoedd hyn yn gallu cael mynediad i'w heiddo. Bydd busnesau'n gallu derbyn danfoniadau rhwng 12 hanner nos a 10am.
Parcio a Theithio
Bydd Parcio a Theithio Pentwyn yn weithredol o ddydd Llun, 22 Mehefin, gyda gwasanaeth bws (gyda chapasiti cyfyngedig oherwydd cyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol) o 7am tan 7pm.
Bydd Parcio a Theithio Stadiwm Pêl-droed Dinas Caerdydd, Lecwydd, hefyd yn gweithredu 7am - 7pm o ddydd Llun, 22 Mehefin.
Bydd Neuadd y Sir Bae Caerdydd yn gweithredu gwasanaeth parcio a cherdded/gwasanaeth Baycar o ddydd Llun, 22 Mehefin, 7am - 7pm.
Tacsis
Gan y bydd Stryd y Castell a Lôn y Felin ar gau, darperir safleoedd tacsis ychwanegol ar gael i'r fasnach ar y naill ochr a'r llall i'r pwynt cau ar Stryd y Castell, ger Gwesty'r Angel yn ogystal â safle newydd ar waelod Ffordd y Brenin.
Bydd y Cyngor yn parhau i ymgynghori â'r diwydiant tacsis tra bo'r ardaloedd newydd yn ymsefydlu.
Cael mynediad i ganol y ddinas mewn car
Bydd pob llwybr i mewn i ganol y ddinas ar gyfer modurwyr ar agor fel arfer, gyda mynediad ar gael o goridor yr M4 drwy Gyffyrdd 30, 32 a 33. Cynghorir y rhai sy'n ymweld â Chaerdydd i ymgyfarwyddo â'r cyfyngiadau traffig trwodd yng nghanol y ddinas cyn iddynt deithio.
Beicio
Sefydlwyd beicffordd newydd dros dro o gyffordd Heol y Gadeirlan/Heol y Bont-faen, dros bont Treganna, ar hyd Stryd y Castell, Heol y Dug a hyd at gyffordd Heol y Gogledd a Boulevard de Nantes.
Bydd parcio beiciau ychwanegol hefyd ar gael yng nghanol y ddinas i'r cyhoedd ei ddefnyddio ac mae cyfleoedd Parcio a Cherdded hefyd yn cael eu hystyried.
Parcio Ceir
Bydd pob maes parcio canol dinas preifat a pharcio ar y stryd ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio, ond ar lai o gapasiti oherwydd gofynion ymbellhau cymdeithasol. Bydd pob modurwr sy'n cyrraedd canol y ddinas yn cael ei dywys i'r man parcio agosaf gan arwyddion digidol.
Bysus
Bydd rhaid i bob cwmni bysus addasu rhai llwybrau i ganol y ddinas oherwydd bod Stryd y Castell ar gau. Gofynnwn i bawb sy'n dymuno teithio ar fws, i fynd i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybr bws penodol.
I gael gwybodaeth am Bws Caerdydd, ewch ihttps://www.cardiffbus.com/
Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i:https://www.natgroup.co.uk/
I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Stagecoach, ewch i:https://www.stagecoachbus.com/about/south-wales
Am ragor o wybodaeth am wasanaethau National Express, ewch i:https://www.nationalexpress.com/en
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24138.html
5 awgrym da ar gyfer rheoli plâu'r haf hwn
Rydym yn gweld cynnydd mewn galwadau ac ymholiadau ar-lein yn ymwneud â sut i ddelio gyda phlâu a heigiadau.
Yn benodol, ymddengys fod cynnydd yn nifer y llygod mawr ar hyn o bryd, yn gysylltiedig o bosibl â rhagor o bobl yn aros gartref, yn ogystal â diffyg eu ffynonellau bwyd arferol. Mae cynnydd mewn bwydo adar hefyd yn cyfrif am fwyafrif ein galwadau.
Dyma ein 5 Awgrym Da i osgoi plâu yn ystod misoedd yr haf:
- Mae mwy ohonom ni wedi dechrau defnyddio'r ardd oherwydd y cyfnod cloi sydd wedi arwain at fwy o bobl yn bwydo adar. Er ei bod yn wych bwydo'r adar yn yr ardd, yn arbennig ar hyn o bryd, mae'n bwysig eich bod yn cadw llygad am lygod mawr, fel y byddant yn fuan iawn, fel yr adar, yn dysgu bod bwyd ar gael yn gyson. Ni ddylech roi bwyd uniongyrchol ar y tir dan unrhyw amgylchiadau.
- Os oes gennych anifeiliaid anwes y tu allan, megis cwningod a moch cwta, neu eich bod yn cadw ieir, cofiwch fod eu bwyd hefyd yn denu llygod mawr.
- Os ydych yn cadw hadau adar neu fwyd anifeiliaid anwes mewn sied, gwnewch yn siŵr eu bod mewn cynhwysydd wedi'i selio a chaled, bydd y llygod mawr fel arall yn ei gnoi.
- Mae sied yr ardd a deciau gardd yn lle gwych i'r llygod mawr guddio a nythu o danynt, cadwch lygad am dyllau neu lwybrau yn ymddangos yn yr ardaloedd hyn.
- Os yw plâu yn rhwygo eich bagiau ailgylchu yn agored, golchwch y pecynnu bwyd fel poteli, tuniau, jariau a hambyrddau bwyd yn drylwyr, cyn eu rhoi yn y bagiau i'w casglu.
Os ydych chi'n dechrau sylwi ar weithgarwch llygod mawr o fewn ffiniau eich eiddo, mae gennych gyfrifoldeb i weithredu gan y bydd yn gwaethygu os byddwch yn ei adael heb ei drin.
Gallwch drin y broblem eich hun neu ddefnyddio sefydliad proffesiynol fel Adran Rheoli Plâu Cyngor Caerdydd sy'n gallu cynnig cyngor neu ddarparu gwasanaeth trin cost isel. Gellir cysylltu â nhw ar 02920872934 neurheoliplau@caerdydd.gov.uk.
Nid yw Rheoli Plâu yn swyddogaeth statudol, ond rydym yn cynnig gwasanaeth â chymhorthdal sylweddol o £55 am 4 ymweliad.
Mae rhagor o gyngor ar gael yma:
https://www.cardiff.gov.uk/ENG/resident/Pests-pollution-and-food-hygiene/Pests-and-infestation/Pages/Pests-and-infestation.aspx
Os ydych yn denant i'r Cyngor gallwch wneud cais am archeb drwy Cysylltu â Chaerdydd ar 029 2087 2088 (Opsiwn 2). Os ydych yn Denant i Gymdeithas Dai, dylech gysylltu â'ch Cymdeithas Dai oherwydd efallai y bydd ganddynt drefniadau ar waith i ddelio ag unrhyw broblemau cnofilod.