The essential journalist news source
Back
19.
June
2020.
Pam mae'r trefniadau hyn wedi eu rhoi ar waith?

19/06/20

Yn gweithio law yn llaw  gyda FOR Cardiff a busnesau yng nghanol y ddinas, mae'r cyngor yn awyddus i greu dinas ddiogel a chroesawgar i bobl ddod i siopa a mwynhau.Gyda gofynion cadw pellter cymdeithasol yn dal i fod ar waith, mae angen addasu'r gofod agored yng nghanol y ddinas er mwynsicrhau y gall busnesau fasnachu, wrth sicrhau ei fod yn parhau'n amgylchedd diogel ar gyfer trigolion, gweithwyr,ymwelwyr a busnesau.

Er mwyn galluogi i hyn ddigwydd, bydd angen ail-fodelu'r gofod cyhoeddus a chau ffyrdd fel rhan o ymagwedd fesul cam. I ddechrau, bydd systemau cerdded cyfeiriadol newydd yn cael eu cyflwyno yng nghanol y ddinas a bydd nifer o fannau croeso wedi'u staffio yn cael eu creu a fydd yn cynnwys cyfarwyddyd a gwybodaeth ddefnyddiol. Bydd y systemau cerdded newydd yn cael eu marcio â chyfres o saethau a llinellau ar lawr ar strydoedd allweddol yng nghanol y ddinas. Byddant yn annog pobl i gadw i'r chwith, o fewn ardal ddiffiniedig, wrth gerdded. Bydd systemau ciwio yn cael eu rhoi ar waith i reoli mynediad i siopau.

Pa fesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod pobl yn gallu ymbellhau'n gymdeithasol oddi wrth eraill?

Mae'r saethau a'r llinellau ar y llawr yn nodi'r cyfeiriad teithio, gyda systemau ciwio yn eu lle i bobl gael mynediad i'r siopau. Lle y bo'n bosibl, bydd y system giwio y tu mewn i'r siop, yn hytrach nag allan ar y stryd. Gofynnwn i bawb sy'n ymweld â chanol y ddinas i fod yn amyneddgar a chadw'n ddiogel wrth i'r system newydd ymwreiddio.

Pam fod mannau croesawu wedi'u gosod?

Mae'r wyth man croesawu wedi'u creu i roi arweiniad a gwybodaeth i ymwelwyr pan fyddant yn cyrraedd canol y ddinas. Bydd Stryd y Castell a Lôn y Felin ar gau i draffig, gyda chyfyngiadau newydd ar Heol y Porth a rhan isaf Heol Eglwys Fair, a fydd yn golygu mai dim ond ar gyfer cerddwyr, beicwyr a bysiau y defnyddir y ffyrdd hyn, a'r rhai sydd angen mynediad i'r stryd mewn car, naill ai am eu bod yn byw yno, bod angen iddynt gyrraedd eu busnes neu i gael mynediad i faes parcio. Bydd staff wrth law i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan y cyhoedd.

A fydd diheintydd dwylo ar gael?

Bydd, fe fydd nifer o orsafoedd diheintio dwylo yn y mannau croesawu i'r cyhoedd eu defnyddio am ddim. Bydd pawb sy'n dod i Gaerdydd yn cael eu hannog i ddefnyddio'r cyfleusterau sydd ar gael.

A yw'r mesurau hyn yn rhai parhaol?

Nid yw'r mesurau hyn yn rhai parhaol ac fe'u rhoddwyd ar waith i agor canol y ddinas yn ddiogel, wrth i'r cyfyngiadau barhau i fod ar waith oherwydd COVID-19.

Beth yw'r cynlluniau ar gyfer Stryd y Castell?

Mae Stryd y Castell yn cael ei chau i bob modurwr, fel y gellir ei thrawsnewid yn lle cyhoeddus newydd, dan do yn yr awyr agored ac yn ardal fwyta. Bydd gwaith adeiladu a pharatoi yn dechrau ar hyn nawr fel y bydd yn barod pan gaiff cyfyngiadau ar y sector lletygarwch eu codi. Bydd yn galluogi gweithrediad bwytai a chaffis a fyddai fel arall wedi methu gweithredu oherwydd cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol yn eu hadeiladau. Mae'r holl fanylion sy'n gysylltiedig â'r cynllun hwn yn cael eu trafod gyda busnesau ar hyn o bryd a chaiff rhagor o wybodaeth ei rhyddhau pan fydd ar gael.

Pam ydych chi wedi cau Stryd y Castell? Sut fydd modurwyr yn gallu symud o'r dwyrain i'r gorllewin?

Er mwyn sicrhau y gellir dechrau rhoi trefniadau ar waith, rhaid cau'r ffordd. Rhoddwyd y trefniadau cau ffordd ar waith am 12 canol dydd ar ddydd Sul 21 Mehefin a byddant yn weithredol nes y ceir hysbysiad pellach. Dylai modurwyr beidio â defnyddio canol y ddinas fel llwybr trwodd. Yn hytrach, gofynnir iddynt ddefnyddio'r prif lwybrau prifwythiennol, ar hyd Rhodfa'r Gorllewin neu'r A4232 i symud o'r dwyrain i'r gorllewin. Mae trigolion sy'n byw yn ardaloedd canol dinas Treganna, Cathays, Grangetown a Glanyrafon yn gallu defnyddio Heol Penarth.

Pam ydych chi wedi gwneud Heol y Porth a rhan isaf Heol Eglwys Fair yn agored ar gyfer mynediad a bysus yn unig?

Rhaid rhoi cyfyngiadau ar waith er mwyn sicrhau y gall y llwybr cerdded newydd i gerddwyr weithio'n effeithiol. Bydd meysydd parcio ar Heol y Porth ar agor i'r cyhoedd eu defnyddio. Bydd y cyfyngiadau hyn yn sicrhau nad yw'r ffyrdd hyn yn cael eu defnyddio fel llwybr drwodd gan fodurwyr, a fydd yn helpu'r cwmnïau bysus i gynnal gwasanaeth prydlon.

Sut all y Cyngor osod yr holl newidiadau hyn heb ganiatâd cynllunio?

Fel y nodwyd uchod, nid yw'r rhain yn drefniadau parhaol, felly nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith hwn. Mae'r trefniadau cau ffyrdd wedi'u rhoi ar waith drwy orchymyn cyfreithiol ac rydym yn gweithio gyda'n cydweithwyr yn yr Adran Drwyddedu ar drefniadau dros dro y gellir eu rhoi ar waith i helpu masnach yn yr ardaloedd awyr agored newydd. Nod popeth a wnawn yw cadw'r cyhoedd yn ddiogel a galluogi busnesau i agor ac ymadfer ar ôl effeithiau'r pandemig a'r cyfyngiadau y mae wedi'u gosod arnom i gyd, gan ddiogelu, gymaint ag y gallwn, filoedd o swyddi ar yr un pryd.

Pwy fydd yn rheoli'r ciw i mewn i siopau a beth sy'n digwydd os bydd pobl yn anwybyddu'r system gerdded gyfeiriol?

Bydd nifer o farsialiaid yn gweithio yng nghanol y ddinas i helpu ymwelwyr i ddod i arfer â'r system newydd ac i gynorthwyo perchnogion siopau a'u staff. Bydd llysgenhadon FOR Cardiff hefyd ar gael i gynorthwyo lle bo angen. Gofynnwn i bawb ddilyn y system er eu diogelwch eu hunain ac er diogelwch eraill. Bydd marsialiaid a llysgenhadon stryd yng nghanol y ddinas i annog pobl i ddilyn y canllawiau. Os oes unrhyw un yn pryderu bod canllawiau'n cael eu torri, gofynnwn iddynt gysylltu â ni am help.

Pryd bydd y sector lletygarwch yn agor eto, gyda bwytai a thafarndai yn agor yng nghanol y ddinas?

Nid yw'r dyddiadau ar gyfer ail-agor y sector lletygarwch wedi'u cadarnhau gan Lywodraeth Cymru eto. Mae'r Cyngor, ynghyd â'n partneriaid, yn awyddus i sefydlu'r ardaloedd awyr agored hyn fel ein bod yn gallu cynorthwyo'r fasnach, yn barod ar gyfer pan wneir y cyhoeddiad.

A fydd yn rhaid i mi gerdded o amgylch canol y ddinas gyfan i gyrraedd siop benodol?

Na fydd. Bydd ardaloedd ar brif gyffyrdd ar strydoedd allweddol sydd wedi'u cynllunio i ganiatáu i ymwelwyr wneud tro pedol. Cofiwch wneud eich gorau i gadw i'r chwith ar eich taith yn yr ardal gerdded ddynodedig.

Sut fydd pobl sydd â phroblemau symudedd yn gallu dod i ganol y ddinas gyda'r holl gyfyngiadau a roddwyd ar waith?

Mae Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael ei lunio a byddwn yn gweithio gyda'n grŵp ffocws sefydledig i weithio drwy'r manylion hyn. Bydd y trefniadau newydd yn gwella symudiadau cerddwyr o amgylch canol y ddinas, ac ni all modurwyr ddefnyddio canol y ddinas fel llwybr trwodd.

I ddechrau, bydd cymorth a chyngor ar gael i bobl ag anableddau gan gynnwys gwasanaeth casglu bygi modur. Bydd pobl yn gallu mynd at unrhyw farsial neu fan croesawu i alw'r bygi. Byddant hefyd yn gallu mynd at lysgenhadon stryd am gymorth neu gyngor. Fel arall, os ydynt am archebu i gael eu casglu gan y bygi o fan parcio dynodedig ymlaen llaw, gallant ffonio 02920 873888 o ddydd Llun, 22 Mehefin.

 

A oes darpariaethau wedi'u gwneud ar gyfer y rhai sydd â phroblemau gweld, neu'r deillion?

Unwaith eto, bydd hyn i gyd yn cael sylw yn yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb a byddwn yn gweithio drwy'r manylion gyda'n grŵp ffocws. Rydym yn ymwybodol ei bod yn anodd cadw pellter cymdeithasol i'r rhai sy'n rhannol ddall, felly asesir cyfres o fesurau i geisio helpu cymaint ag sy'n bosibl.

A fydd parcio i bobl anabl ar gael o fewn y parthau sydd wedi eu cyfyngu? Os na, ble bydd parcio ar gael?

Bydd, bydd parcio i bobl anabl ar gael o fewn y parthau sydd wedi eu cyfyngu. Mae parcio i bobl anabl ar gael fel arfer ar Ffordd Churchill a Heol y Cawl. Nid yw'r Cyngor wedi symud unrhyw leoedd parcio i bobl anabl fel rhan o'r trefniadau newydd hyn.

Pa ddarpariaeth a roddwyd ar waith i sicrhau y gellir dosbarthu nwyddau a gwasanaethau i siopau?

Gellir dosbarthu nwyddau i siopau yng nghanol y ddinas rhwng hanner nos a 10am, felly nid yw hyn wedi newid. Cynghorir pob busnes i drefnu gyrru a derbyn cyflenwadau yn ystod yr oriau hyn, gan na chaniateir eu gwneud y tu allan i'r oriau hyn.

O ystyried y cyfyngiadau ar drafnidiaeth gyhoeddus o ganlyniad i fesurau cadw pellter cymdeithasol, pa ddarpariaeth drafnidiaeth arall yr ydych yn ei chynnig?

Sefydlwyd beicffordd newydd dros dro o gyffordd Heol y Gadeirlan/Heol y Bont-faen, dros bont Treganna, ar hyd Stryd y Castell, Heol y Dug a hyd at gyffordd Heol y Gogledd a Boulevard de Nantes.

Mae'r cyfyngiadau ar Heol y Porth a rhan isaf Heol Eglwys Fair wedi'u rhoi ar waith, nid yn unig i ddarparu ar gyfer y ffordd newydd o gerdded o amgylch canol y ddinas ond i gynorthwyo'r cwmnïau bysus i ddarparu gwasanaeth prydlon.

Mae seilwaith ychwanegol wedi'i roi ar waith hefyd, megis meysydd parcio beiciau newydd a safleoedd tacsi newydd ar gyfer y busnesau tacsis.

A fydd unrhyw ddarpariaeth ychwanegol i feicwyr?

Fel yr eglurwyd uchod, mae llwybr beicio newydd wedi'i sefydlu i alluogi beicwyr i deithio o'r Castell i ben draw Heol-y-Frenhines. Mae lleoedd parcio diogel ychwanegol i feiciau  hefyd yn cael eu hystyried i annog pobl i deithio ar feic.

Mae'r Cyngor hefyd yn archwilio posibiliadau eraill lle y gellid rhoi llwybrau beicio dros dro ar waith yn ddiogel er mwyn annog pobl i feicio.

A fydd lleoedd parcio ychwanegol ar gyfer ymwelwyr?

Bydd holl feysydd parcio canol y ddinas ar agor i'r cyhoedd eu defnyddio. Oherwydd y gofynion o ran cadw pellter cymdeithasol, bydd y capasiti yn y meysydd parcio hyn yn lleihau, ond bydd modurwyr yn cael eu cyfeirio at feysydd parcio sydd â lle i barcio pan fyddant yn cyrraedd canol y ddinas.

A fydd parcio am ddim?

Na, bydd rhaid talu am barcio. Bydd yr holl ffioedd am feysydd parcio preifat a pharcio ar y stryd yn dychwelyd i'r arfer a bydd trefniadau gorfodi parcio ar waith.

Sut fydd tacsis yn gallu gweithio yng nghanol y ddinas, os ydych wedi cau hanner ohono ar gyfer bysus a mynediad yn unig?

Bydd y tacsis yn gallu gyrru ar y ffyrdd sydd ar gyfer mynediad neu fysus dim ond os ydynt yn cael ffi ac yn gollwng rhywun ar y stryd honno. Ni fydd tacsis yn gallu defnyddio'r ffyrdd cyfyngedig hyn fel llwybr trwodd ac ni fyddant yn gallu cael mynediad i neu yrru ar hyd Stryd y Castell neu Lôn y Felin.

A fydd unrhyw safleoedd tacsis ychwanegol?

Bydd, gan y bydd Lôn y Felin ar gau i bob traffig, darperir safleoedd tacsis newydd ar y naill ochr a'r llall i'r pwynt cau ar Stryd y Castell, ger Gwesty'r Angel yn ogystal â safle newydd ar waelod Ffordd y Brenin. Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio gyda chynrychiolwyr o'r diwydiant tacsis drwy gydol y broses hon.

Sut fydd y bysus yn gweithredu gyda'r ffyrdd wedi eu cau a'r cyfyngiadau yr ydych wedi'u rhoi ar waith?

Bydd Heol y Porth, Stryd Wood, a rhan isaf Heol Eglwys Fair yn cael eu defnyddio ar gyfer bysus a mynediad yn unig. Bydd hyn yn sicrhau bod y bysus yn gallu symud o gwmpas canol y ddinas yn haws, gan y bydd llif y traffig yn lleihau.

Mae pob bws a arferai stopio ar Stryd y Castell wedi cael ei ailgyfeirio ac mae'r holl gwsmeriaid yn cael eu cynghori'n gryf i ymweld â gwefan y cwmni bysus am ragor o wybodaeth.

I gael gwybodaeth am Bws Caerdydd, ewch ihttps://www.cardiffbus.com/

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i:https://www.natgroup.co.uk/

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Stagecoach, ewch i:https://www.stagecoachbus.com/about/south-wales

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau National Express, ewch i:https://www.nationalexpress.com/en

Rwy'n breswylydd sy'n byw yng nghanol y ddinas, pa ymgynghori sydd wedi ei gynnal â thrigolion ar y cynllun hwn?

Mae llythyr yn rhoi gwybodaeth am gau ffyrdd a chyfyngiadau yn cael ei gyflwyno i fusnesau a phreswylwyr yng nghanol y ddinas gyda chyfeiriad e-bost i gysylltu er mwyn cael rhagor o wybodaeth. Ein nod yw helpu'r ddinas i adfer ar ôl y pandemig, sicrhau diogelwch trigolion, ymwelwyr a gweithwyr, a gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu swyddi a busnesau yng Nghaerdydd. Mae gwaith yn digwydd yn gyflym ar y trefniadau adfer, wrth i'r canllawiau newid. Rydym yn diolch i drigolion am eu hamynedd a'u dealltwriaeth tra bod y ddinas yn cael ei haddasu i helpu busnesau ail-agor.

A fydd ymgynghori â busnesau cyn dod ag unrhyw gynlluniau pellach i ganol y ddinas?

Mae'r Cyngor wedi bod yn cydweithio'n agos â FOR Cardiff a chynrychiolwyr o'r gymuned fusnes wrth i'r newidiadau hyn gael eu gwneud. Bydd y cysylltiad hwn yn parhau i sicrhau bod y mesurau sydd ar waith yn addas i'w diben ac yn helpu busnesau i fasnachu'n ddiogel yn ystod y cyfnod anodd hwn  

Sut ydw i fod i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf wrth iddyn nhw gael eu cyflawni?

Bydd gwybodaeth yn cael ei diweddaru ar wefan Croeso Caerdydd wrth i'r cynllun gael ei ddatblygu, ewch iwww.croesocaerdydd.com.