The essential journalist news source
Back
16.
June
2020.
Diweddaraf COVID-19: 16 Mehefin

Dyma'r diweddaraf ar COVID-19 gan Gyngor Caerdydd: gwybodaeth ddiweddaraf am ysgolion yn ail-agor; mae cyn-aelod 96 oed o'r Lluoedd Arfog y cafodd ei gartref ei ddinistrio yn ystod Storm Dennis wedi cael hwb mawr trwy gymorth Gwasanaethau Byw'n Annibynnol Caerdydd; a helpu i gynllunio Map Rhwydwaith Teithio Llesol.

 

Gwybodaeth ddiweddaraf am ysgolion yn ail-agor

Mae Gweinidog Addysg Cymru wedi nodi disgwyliadau y dylai pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru gael rhai cyfleoedd i fynychu eu hysgol yn yr wythnosau sy'n weddill yn nhymor yr haf o ddydd Llun 29 Mehefin.

Ffocws y sesiynau hyn yn yr ysgol fydd "gwirio fod pawb yn iawn, dal i fyny a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi."

Ers i'r holl ysgolion gau ar gyfer addysg statudol ar 23 Mawrth, mae dysgu gartref wedi ei gefnogi o bell gan ysgolion, a bydd hyn yn parhau. Carwn ddiolch i chi gyd am eich cyfraniad yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae'n annhebygol y bydd ysgolion yn dychwelyd i'r ffordd y buont cyn cyfnod y cloi a hynny am gryn amser. Bwriad y trefniadau arfaethedig ar gyfer wythnosau olaf y tymor felly yw cefnogi'r gymysgedd barhaus o ddysgu yn yr ysgol ac yn y cartref.

Er mwyn helpu ysgolion i gynllunio ar gyfer gweld disgyblion yn dychwelyd yn ddiogel o 29 Mehefin, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw, 'Cadwch Addysg yn Ddiogel'. Mae hwn yn darparu canllawiau ymarferol a chanllawiau dysgu ar baratoi ysgolion ar gyfer dychwelyd i'r ysgol yn raddol hyd at ddiwedd tymor yr haf.

Bydd dull gweithredu graddol ym mhob ysgol. Bydd grwpiau blwyddyn yn cael eu rhannu'n grwpiau bach gyda gwahanol adegau ar gyfer dechrau ac amser egwyl a disgwylir y bydd hyn yn golygu, ar y mwyaf, mai traean o'r disgyblion a fydd yn bresennol ar unrhyw un adeg, gan gynnwys plant gweithwyr allweddol a oedd yn arfer derbyn gofal yn ein hysgolion hyb. Bydd gofal plant hyb yn dod i ben ar 26 Mehefin.

O 29 Mehefin bydd pob ysgol yn gallu darparu rhywfaint o ofal plant ar gyfer plant gweithwyr allweddol, ond bydd hyd a lled hyn o reidrwydd wedi ei gyfyngu gan yr angen i ddarparu gofod ar gyfer y sesiynau cynlluniedig i ddysgwyr eraill hefyd. Ceir rhagor o fanylion am hyn ar ddiwedd y llythyr hwn.

Ni fydd pob disgybl yn dychwelyd ar unwaith, a phan fyddant yn dychwelyd, gall y diwrnod ysgol ddechrau a gorffen ar adegau gwahanol i ddisgyblion gwahanol. Gall hyn gynnwys trefniadau gwahanol ar gyfer brodyr a chwiorydd o wahanol oedrannau, yn mynychu'r un ysgol.

Pan fydd eich plentyn yn dychwelyd i'r ysgol, bydd ffocws ar lesiant disgyblion ac ar sicrhau dilyniant rhwng dysgu yn yr ysgol ac yn y cartref. Mewn ysgolion uwchradd, efallai y bydd mwy o ffocws, mewn rhai grwpiau blwyddyn, ar gefnogi dysgu disgyblion, gan ragweld gofynion academaidd y flwyddyn ysgol sydd i ddod.

Hoffai ysgolion weld pob un o'u disgyblion yn dychwelyd ar gyfer rhyw sesiwn yn ystod y cyfnod 'gwirio' hwn. Os bydd rhieni/gofalwyr yn penderfynu peidio ag anfon eu plant i'r ysgol yn ystod yr wythnosau hyn yn nhymor yr haf, ni fyddant yn cael eu cosbi.

Oherwydd gofynion cadw pellter cymdeithasol Llywodraeth Cymru, bydd ein cludiant i ysgolion rhwng y cartref a'r ysgol yn cael ei gyfyngu'n sylweddol. Anogir pob rhiant lle bynnag y bo'n bosibl i ddefnyddio eu cludiant eu hunain i fynd â phlant i'r ysgol os na allant gerdded neu feicio.

Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio'n agos gydag ysgolion i sicrhau y gallant reoli'r modd y mae disgyblion a staff yn dychwelyd yn ddiogel, a chyfyngu ar ledaeniad y feirws drwy weithredu mewn amgylcheddau sy'n cadw pellter corfforol.

Bydd mesurau'n cynnwys:

  • Gweithdrefnau iechyd a diogelwch newydd a fydd yn cynnwys asesiadau capasiti gofod ac asesiadau risg i nodi cyfaint, gosodiad priodol ar gelfi, symudiadau disgyblion a rheoli mannau allanol.
  • Hylendid a glanhau i sefydlu trefn olchi dwylo, glanhau pwynt cyswllt a glanhau trylwyr ar fannau ysgolion
  • Asesiadau capasiti gweithlu i sicrhau staffio digonol ynghyd â pharatoi a chefnogi staff
  • Nodi cyfarpar ac adnoddau ychwanegol megis cyfarpar diogelu personol (PPE) a'r defnydd ohono, wedi ei seilio ar gyngor gwybodus.
  • Cymorth ychwanegol ar gyfer iechyd a llesiant disgyblion a staff ysgol
  • Lledu palmentydd a llwybrau ar safleoedd rhai ysgolion i hwyluso cadw pellter cymdeithasol diogel wrth gyrraedd ac ar adegau gadael
  • Cyflwyno cyfyngiadau 20mya dros dro ar ffyrdd o gwmpas ysgolion lle bo'n bosib ac ystyried cau ffyrdd dros dro yn ystod adegau gollwng a chodi plant.

 

Dylid nodi na fydd ysgolion yn darparu prydau felly bydd disgwyl i blant gyrraedd gyda phecyn bwyd. Ar gyfer plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, bydd y systemau e-dalebau a parent pay yn parhau'n weithredol.

Bydd ysgolion yn cyfathrebu eu cynlluniau ar gyfer yr ailgychwyn o'r 29 Mehefin wrth bob rhiant. Bydd y Cyngor cyn hir yn cyhoeddi cyfres o Gwestiynau Cyffredin y gallai disgyblion, rhieni a gofalwyr fod yn eu gofyn.

I gael rhagor o wybodaeth am ganllawiau Llywodraeth Cymru i ysgolion, ewch i:  https://llyw.cymru/addysg-coronafeirws

 

Cymorth byw'n annibynnol i gyn-filwr a dioddefwr llifogydd

Mae cyn-aelod 96 oed o'r Lluoedd Arfog y cafodd ei gartref ei ddinistrio yn ystod Storm Dennis wedi cael hwb mawr trwy gymorth Gwasanaethau Byw'n Annibynnol Caerdydd.

Achubwyd Gordon Matthews o'i gartref yn Nantgarw ar ei ben-blwydd yn 96 oed ym mis Chwefror pan ddaeth tywydd stormus a gwlyb y gaeaf â llifogydd i dde Cymru a rhannau eraill o'r wlad.

Cafodd Gordon, a fu'n aelod o'r Llu Awyr Brenhinol yn yr Ail Ryfel Byd, ei weld ar y newyddion teledu ledled Prydain yn cael ei gludo mewn cwch i ddiogelwch, gyda dŵr llifogydd hyd at uchder y pen-glin ym mhobman o'i amgylch. Ei fedalau rhyfel amhrisiadwy oedd yr unig bethau y llwyddodd i'w hachub o'i gartref cyn gadael.

Mae Mr Matthews bellach yn byw yn ddiogel ac yn iach gyda'i ferch Catherine yn y tŷ lle cafodd ei fagu yn Nhongwynlais, a hynny o ganlyniad i   ymyriad gan Wasanaethau Byw'n Annibynnol y Cyngor.

Mae gan y gwasanaeth ymagwedd gwbl integredig tuag at ddileu rhwystrau i fywyd pob dydd ac annibyniaeth i bobl oedrannus ac agored i niwed sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn seiliedig ar amcanion, cryfderau a deilliannau'r bobl hyn sydd wedi'u nodi. Mae'r gwasanaeth yn cynorthwyo unigolion i barhau i fyw gartref a bod mor actif ac annibynnol â phosibl, drwy eu helpu i fanteisio ar wasanaethau, gan gynnig cyngor a chyfarpar iddynt neu wneud addasiadau yn eu cartrefi.

Gwnaed nifer o addasiadau gan y Cyngor i'r eiddo yn Nhongwynlais, gan gynnwys gosod lifft grisiau, cawod mynediad gwastad, rheiliau i gynorthwyo symudedd Mr Matthews o amgylch y tŷ, codwyr cadeiriau, a dolen gwely i helpu i fynd i'r gwely a chodi ohono, cyfleusterau gwresogi ychwanegol a gwell mynediad i'r cartref.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae stori Mr Matthews yn enghraifft berffaith o'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol i helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl gyhyd â phosibl. Mae'n dangos effaith y gwasanaeth ar fywydau pobl.

"O ganlyniad i'r gwaith yng nghartref merch Mr Matthews, mae'n gallu byw gyda'i deulu yn lle bod ar ei ben ei hun ar yr adeg hon sy'n arbennig o anodd.  Rydyn ni'n gwybod ei fod yn dechrau gwella ar ôl y trallod a ddioddefodd yn gynharach eleni ac mae'n ymgartrefu'n dda iawn ac yn mwynhau ymarfer corff dyddiol yn y gymuned, ac mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar ei les corfforol a meddyliol."

Dywedodd Catherine, merch Mr Matthew: "Dyw e ddim yn teimlo'n gaeth i'w ystafell wely mwyach.  Does dim rhaid i fi boeni amdano'n dringo'r grisiau ar ei ben ei hun ac o bosib yn cael damwain. Mae'n gwneud cynnydd mawr yn ei fywyd o ddydd i ddydd, a hyd yn oed yn cerdded ychydig bach ymhellach bob dydd i gynyddu ei gryfder." 

I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaethau Byw'n Annibynnol y Cyngor, ewch i  www.caerdydd.gov.uk/bywnannibynnol

 

Helpu i gynllunio Map Rhwydwaith Teithio Llesol

Gofynnir i rieni a phlant ddweud wrthym am y llwybrau rheolaidd y byddant yn eu cymryd ar droed neu ar sgwter neu feic er mwyn ein helpu i gynllunio Map Rhwydwaith Teithio Llesol.

Fel rhan o'n hymrwymiad i hyrwyddo a helpu teithio llesol i ysgolion mae angen i ni ddeall pa lwybrau a gaiff eu defnyddio a pha lwybrau newydd sydd eu hangen.

Llenwch eich llwybr a chewch dystysgrif i'ch plentyn yma:  https://keepingcardiffmoving.co.uk/cy/active-travel-schools/take-action/map-rhwydwaith-teithio-llesol/