The essential journalist news source
Back
15.
June
2020.
Diweddariad COVID-19: 15 Mehefin

Yn y diweddariad ar COVID-19 a gafwyd heddiw gan Gyngor Caerdydd: yr ardaloedd sy'n cael casgliadau gwastraff gardd dydd Sadwrn yma; tîm Therapi Lleferydd ac Iaith Dechrau'n Deg yn gweithio dros Gaerdydd; a mae'n Wythnos Ffoaduriaid Cymru ac mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Caerdydd wedi llunio rhestr arbennig.

 

Yr ardaloedd sy'n cael casgliadau gwastraff gardd dydd Sadwrn yma

Bydd yr ardaloedd yng Nghaerdydd y mae eu gwastraff yn cael ei gasglu ar  Ddydd Mercher  yn cael casgliad gwastraff gardd  ddydd Sadwrn yma, 20 Mehefin.

Bydd y casgliadau gwastraff gardd untro yn parhau yn ystod mis Mehefin a wythnos gyntaf mis Gorffennaf, fel y gall preswylwyr gael gwared ar eu toriadau glaswellt, brigau a changhennau bach, dail, a thoriadau planhigion a blodau.

Dyma'r unig fathau o wastraff y dylid eu rhoi yn eich bin olwynion gwyrdd neu eich bagiau amldro.

Hoffem atgoffa preswylwyr y dylent roi gwastraff gardd allan i'w gasglu yn eu biniau olwynion gwyrdd neu eu sachau gardd amldro yn unig.

Ni fydd unrhyw wastraff gardd ychwanegol a roddir mewn unrhyw gynhwysydd arall, gan gynnwys bagiau plastig, yn cael ei gasglu.

Os rhoddir eitemau anghywir yn y bin gwyrdd neu'r sachau amldro, caiff sticer pinc ei roi ar y cynhwysydd i hysbysu'r preswylydd bod eitemau anghywir wedi eu rhoi allan i'w casglu ac ni chaiff y gwastraff ei gasglu.

 

Tîm Therapi Lleferydd ac Iaith Dechrau'n Deg yn gweithio dros Gaerdydd

Mae Tîm Therapi Lleferydd ac Iaith Dechrau'n Deg yn gweithio dros Gaerdydd i gefnogi dros 200 o deuluoedd ledled y ddinas gan gynnig cymorth pwrpasol i blant fydd yn cael budd o ddatblygiad iaith a chyfathrebu.

Mae'r tîm wedi addasu'n wych o fodel ymweliadau cartref i gynnig cymorth dros y ffôn i barhau i gynnig sesiynau wythnosol a chyngor i deuluoedd. Mae'r staff hefyd wedi datblygu cyfres o adnoddau ‘addas i'r cyfnod cloi' sy'n helpu teuluoedd i greu amgylchedd cyfathrebu rhagorol ar gyfer eu plant.

Mae'r tîm yn dal ati i ymdrin ag atgyfeiriadau newydd i barhau i gynnig gwasanaeth atal ac ymyrryd cynnar sy'n hollbwysig ar gyfer plant ag oedi i'w sgiliau cyfathrebu. Maen nhw'n parhau i weithio'n agos gyda chydweithwyr o Dechrau'n Deg i gynnig gofal integredig i deuluoedd yng Nghaerdydd yn ogystal â hybu cyngor a gweithgareddau seiliedig ar iaith ar dudalen  Facebook Dechrau'n Deg.

Mae rhieni wedi mynegi eu diolchgarwch i'r tîm am barhau i gynnig cymorth dan amgylchiadau mor anarferol. Dywedodd un rhiant a gafodd ei atgyfeirio at y tîm ers y cyfnod cloi "Rwy'n hapus iawn fy mod i'n gallu cael y cymorth hwn fel ‘mod i'n gwybod y galla i helpu fy mhlentyn yn y ffordd orau tra bo cymaint o amser gennyf i dreulio gyda hi. Rydych chi wir wedi fy helpu i deimlo'n hyderus y galla i gefnogi ei datblygiad iaith ac rydych chi wedi rhoi'r syniadau sydd eu hangen i fi wneud hyn."

 

Gwasanaeth Llyfrgelloedd Caerdydd - Wythnos Ffoaduriaid Cymru

Mae'n Wythnos Ffoaduriaid Cymru ac mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Caerdydd wedi llunio rhestr arbennig o eLyfrau a eLyfrau lafar i'w benthyg am ddim  yma a bolindadigital.com.

Os nad ydych chi eisoes yn aelod, ymunwch  yma.

Mae'r Gwasanaeth hefyd wedi creu cwis i godi ymwybyddiaeth o rai o'r sefydliadau lleol a chenedlaethol sy'n ymwneud â ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gan eu helpu i ymgartrefu mewn lle newydd.

Bydd y cwis ar gael yn Facebook at www.facebook.com/gwasanaethllyfrgelloeddcaerdydd/  ahttps://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Llyfrgelloedd-ac-archifau/gweithgareddau-wrth-ynysu/Pages/default.aspx.  Atebion ddydd Gwener.

Darllenwch fwy yma:

https://refugeeweek.org.uk/in-your-area/wales/