The essential journalist news source
Back
14.
June
2020.
Mae cam cyntaf cynllun peilot Wellfield Road yn weithredol

08/06/20 

Gweithredwyd cam cyntaf y cynllun peilot ar Wellfield Road dros y penwythnos, gyda lleoedd parcio wedi'u dileu o bob ochr y ffordd a chonau traffig dros dro i ehangu'r palmentydd er mayn i'r y cyhoedd allu dilyn mesurau ymbellhau cymdeithasol.

Caiff pedair ar ddeg coeden fedw, mewn blychau plannu ar wahân, eu cyflwyno ar ddiwedd mis Mehefin a chaiff y coed a bolardiau mwy parhaus eu gosod i gymryd lle'r conau traffig. Bydd hyn yn creu rhaniad mwy parhaol rhwng cerbydau'n gyrru ar y ffordd a cherddwyr yn defnyddio'r palmentydd.

Dyma'r cyntaf o bymtheng canolfan siopa cymdogaeth sy'n cael eu hasesu ar hyn o bryd i wneud gwelliannau yn sgil y gofynion ymbellhau cymdeithasol newydd i sicrhau eu bod yn ddiogel i'r cyhoedd eu defnyddio.

Bydd mesurau ymbellhau cymdeithasol yn parhau yn eu lle hyd y gellir rhagweld, felly mae'n bwysig i'r cyhoedd ddeall, pan fo siopau nad ydynt yn hanfodol yn ailagor, bydd cyfyngiadau ar nifer y bobl a gaiff fynd i mewn i siop ar yr un pryd. Mae hon yn her i'r awdurdod lleol, oherwydd y bydd rhaid i bobl giwio allan ar y stryd cyn gallu mynd i mewn i'r siop.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth: "Gyda'r disgwyl y bydd ymbellhau cymdeithasol yn rhan o'r ‘normal newydd' am beth amser i ddod, mae hyn yn creu her sylweddol i drigolion a'r awdurdod lleol.

"Chafodd palmentydd y ddinas mo'u cynllunio i ganiatáu pellter o ddau fetr rhwng pobl, felly bydd yn rhaid addasu gofod cyhoeddus i sicrhau y gellir cynnal ymbellhau cymdeithasol wrth i'r ddinas ddechrau ail-agor yn raddol ar gyfer busnes."

Mae'r lle ar gyfer beicwyr a cherddwyr eisoes wedi'i ehangu ar Stryd y Castell yng nghanol y ddinas, ac ehangwyd y palmant i mewn i'r ffordd o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan a Heol y Bont-faen, dros Bont Treganna, ar hyd Heol y Castell, Heol y Dug ac i fyny at gyffordd Heol y Gogledd - Boulevard de Nantes. Caiff y lle deuol hwn ei addasu i greu beicffordd pan gaiff y cynllun cymeradwy parhaol ei adeiladu.

Mae'r cam cyntaf i ehangu'r palmentydd ar Wellfield Road yn dilyn y cyhoeddiad uchelgeisiol ddydd Gwener diwethaf (5 Mehefin) ar gynlluniau'r cyngor i ailfodelu lle yng nghanol y ddinas, fel y bydd modd, pan fo'r ddinas yn barod i ailagor ar gyfer busnes, ei wneud mewn ffordd ddiogel a reolir - https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/24027.html