The essential journalist news source
Back
12.
June
2020.
Datganiad ar dorri coed i lawr ar y datblygiad Rise y cydsynwyd iddo

12/06/20

"Pan gymeradwyodd y Pwyllgor Cynllunio'r datblygiad hwn, roedd y manylion tirlunio wedi eu rhoi'n fanwl. Roedd hyn yn cynnwys adroddiad coed, datganiad dull ar sut y dylid torri'r coed, ynghyd â manylion ar y coed, y planhigion a llwyni sydd i'w plannu yn rhan o'r cynllun.

"Rhoddwyd caniatâd i dorri 13 coeden a dim ond y coed hynny sydd wedi eu torri. Yn gyfnewid am hyn, bydd y datblygwr yn plannu 25 o goed newydd, llawer o lwyni a phlanhigion blodeuog. Caiff saith rhywogaeth o goed mawr eu plannu ar Gaeau Llandaf, gan sicrhau y bydd unrhyw golled yn y sgrinio wrth edrych o'r parc yn cael ei llenwi'n gyflym gan y tyfiant newydd.

"Roedd deg o'r 13 coeden a dorrwyd yn goed ‘Categori C', a'u diffinnir fel coed o ‘ansawdd a gwerth isel'.Roedd un ar fin marw ac roedd y llall diyrwio ac ar y ffordd i farwac roedd y drydedd goeden ar ddeg yn Sycamorwydden categori B yng Nghaeau Llandaf. Roed gan y Sycamorwydden uniad cywasgu a all, gydag amser, arwain at wendid sylweddol a methiant yn y fforc. Bydd torri'r goeden o fudd i'r Leimwydden categori ‘A' a'r Sycamorwydden categori ‘B' cyfagos. Mae'r datblygiad yn cynnig manteision sylweddol o ran coed newydd, gwell amrywiaeth a strwythur dosbarth oedran mwy cytbwys wrth gadw'r coed pwysicaf megis y coed leim aeddfed.

"Contractiodd y datblygwr feddyg coed preifat o gwblhau'r gwaith. Mae'r Cyngor wedi gofyn am gadarnhad gan y meddyg coed y gwiriwyd nad oedd adar yn nythu yn y coed a gafodd eu torri. Dylid cyfeirio'r holl bryderon ynghylch hynny i Cyfoeth Naturiol Cymru neu'r Heddlu.

"Nid ystyrir mai'r ffordd orau o fynd ati i ymdrin â'r effeithiau newid yn yr hinsawdd a ragwelir fyddai cadw'r holl goed presennol ni waeth beth yw eu cyflwr, heb greu cyfleoedd ar gyfer coed newydd, gan y bydd yn arwain at goed sy'n heneiddio yn hytrach na choed a strwythur dosbarth oedran cytbwys. At hynny, gallai hyn arwain at un rhywogaeth benodol yn gorbwyso ar y planhigion, megis Sycamorwydd er enghraifft, nad yw'n rhywogaeth frodorol ac sydd o bosibl yn broblematig mewn coetiroedd lle gallai gysgodi rhywogaethau eraill. Gall diffyg amrywiaeth rhywogaethau arwain at fod yn agored i achosion trychinebus o blâu a chlefydau a lleihau bioamrywiaeth.

"Yn dilyn rhoi caniatâd, bu deialog rhwng contractwyr y safle a'r cyngor ynglŷn â manylion gweithredu'r gwaith coed cymeradwy. Yn anffodus, oherwydd y cyfnod cloi COVID-19, nid oedd ymweliadau safle yn bosibl i egluro materion yn fanwl gywir. Ni lwyddodd y ddeialog hon i arwain at gymeradwyaeth derfynol y Cyngor i'r gwaith ar dir y Cyngor yn ffurfiol a diweddaru'r wybodaeth ategol yn ffurfiol mewn perthynas â'i ddatganiad o ddull. Mae swyddogion yn parhau i ymchwilio i'r union fanylion sy'n gysylltiedig â'r gwaith torri coed yn ddiweddar, ond dylid pwysleisio nad oes unrhyw goed wedi'u torri na ddylent fod wedi'u torri."

Roedd deg o'r 13 coeden a dorrwyd yn goed ‘Categori C', a'u diffinnir fel coed o ‘ansawdd a gwerth isel, roedd un yn agos at ddiwedd ei hoes, a dwy yn goeden categori ‘B'. Cafodd un o'r coed categori B hyn ei heintio gan bathogen Phytophthora ac roedd y llall yn goeden Sycamorwydden.

Mae'r coed newydd a fydd yn cael eu plannu'n rhan o'r datblygiad yn amrywiol ac yn cynnwys: Alnus x spaethii, Betula maximowicziana, Magnolia grandiflora, Ligustrum japonicum, Tilia cordata ' Rancho ', Prunus ' Amanogawa; ac Acer palmatum (Sycamorwydden Siapan)