The essential journalist news source
Back
10.
June
2020.
Diweddariad COVID-19: 10 Mehefin

Yn y diweddariad COVID-19 diweddaraf gan Gyngor Caerdydd: canllawiau wedi'u cyhoeddi i helpu ysgolion, colegau a lleoliadau gofal plant; cyflwyno miloedd o declynnau wrth i Gaerdydd ymateb i amddifadedd digidol; a ‘Gwybod, Gweld, Gweithredu', cadw plant yn ddiogel gartref.

 

Canllawiau wedi'u cyhoeddi i helpu ysgolion, colegau a lleoliadau gofal plant

Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i ysgolion er mwyn iddynt allu cynllunio i ddisgyblion ddychwelyd ar 29 Mehefin i "ailgydio, dal i fyny, paratoi ar gyfer yr haf a mis Medi".

Mae'r canllawiau, sef 'Diogelu Addysg', yn rhoi cyngor ymarferol ac ar ddysgu ac addysgu er mwyn paratoi ysgolion ar gyfer dychwelyd yn raddol cyn diwedd tymor yr haf, gan gefnogi lleoliadau i gynyddu eu gweithrediadau'n ddiogel.

Bydd pob ysgol yn agor yn raddol. Bydd pob grŵp oedran yn cael eu rhannu'n grwpiau bach gydag amseroedd dechrau ac egwyl gwahanol. Bydd hyn yn golygu mai traean o'r disgyblion, ar y mwyaf, fydd bresennol ar y tro.

Mae'r canllawiau ar gyfer ysgolion wedi'u rhannu'n ddwy ran: ceir adran ar faterion gweithredol ac adran ar brofiadau dysgu. Ategir y canllawiau gan dudalen Cwestiynau Cyffredin ar wefan Llywodraeth Cymru, a fydd yn rhoi atebion i gwestiynau cyffredin wrth iddynt godi.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi canllawiau i leoliadau gofal plant heddiw, er mwyn helpu'r sector i agor yn ehangach a sicrhau bod darparwyr yn gallu gweithio'n ddiogel.

Darllenwch fwy yma:

https://llyw.cymru/addysg-coronafeirws

Mae'r Cyngor yn ymgymryd â gwaith cynllunio gofalus i lunio cyfres o fesurau sydd â'r nod o ymateb i'r heriau a'r materion sy'n ymwneud ag ysgolion a darparwyr addysg eraill, yn symud allan o'r cyfnod cloi.

Mae adroddiad Cynllunio Ailgychwyn Caerdydd yn manylu ar sut gallai ysgolion weithredu yn dilyn y cyfnod cloi gan nodi cyfres o weithdrefnau a fydd â'r nod o gefnogi ysgolion, yn benodol i allu sicrhau diogelwch staff, disgyblion a rhieni a lleihau lledaeniad y feirws drwy weithredu mewn amgylchedd ymbellhau cymdeithasol.

Bydd mesurau'r Cyngor yn cynnwys:

  • Gweithdrefnau iechyd a diogelwch newydd a fydd yn cynnwys asesiadau capasiti gofod ac asesiadau risg i nodi cyfaint, gosodiad celfi yn briodol, symud y llif a mannau allanol
  • Hylendid a glanhau i bennu trefn golchi dwylo, glanhau pwyntiau cyswllt a glanhau mannau ysgol yn drylwyr
  • Asesiadau capasiti gweithlu i sicrhau staffio priodol a pharatoi a chefnogi staff - i nodi ac ymateb i anghenion staff gan gynnwys hyfforddiant iechyd a diogelwch rhithiwr
  • Nodi cyfarpar ac adnoddau ychwanegol megis cyfarpar diogelu personol a phryd y bydd yn ofynnol ar sail cyngor clir yn seiliedig ar wybodaeth
  • Cymorth ychwanegol i ddisgyblion a staff ysgol ynghylch iechyd a lles, er enghraifft problemau perthnasol i drawma yn y teulu yn ogystal â materion yn ymwneud ag ynysu
  • Estyn palmentydd a llwybrau ar rai safleoedd ysgol i hwyluso ymbellhau cymdeithasol ac atal yr angen i ddefnyddwyr y ffordd sy'n agored i niwed gamu ar y ffordd
  • Cyflwyno cyfyngiadau 20mya dros dro ar ffyrdd o gwmpas ysgolion lle bo'n bosib ac ystyried cau ffyrdd dros dro yn ystod adegau gollwng a chodi plant

Bydd diweddariadau rheolaidd yn rhoi manylion llawn ar drefniadau ysgolion wrth i ddyddiad agor 29 Mehefin agosáu.

 

Cyflwyno miloedd o declynnau wrth i Gaerdydd ymateb i amddifadedd digidol

Mae bron 6000 o declynnau digidol gan gynnwys Chromebooks ac iPads wedi cael eu dosbarthu i blant a phobl ifanc yng Nghaerdydd sydd wedi cael eu hadnabod yn rhai sy'n dioddef amddifadedd digidol. Mae hyn ar ben 1400 o ddyfeisiau band eang 4G symudol.

Drwy sefydlu tîm penodol ar gyfer y project, mae'r Cyngor wedi gweithio gydag ysgolion i bennu faint yn union o ddisgyblion sydd angen cymorth digidol ac wedi datblygu amrywiaeth o ffyrdd o fynd i'r afael â phroblem amddifadedd digidol fel y gall plant a phobl ifanc barhau i ddysgu ar-lein pan fo'r ysgolion ar gau.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael mynediad at ddyfeisiau a chysylltedd rhyngrwyd yn rhan o strategaeth hirdymor ar gyfer Caerdydd a oedd i fod i gael ei rhoi ar waith yn ddiweddarach eleni ond sydd wedi'i chyflwyno'n gynt yn sgil y cyfnod cloi.

"Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd angen darparu addysg drwy ddysgu cyfunol - cyfuniad o ddeunyddiau addysgol ar-lein a dulliau ystafell ddosbarth traddodiadol - yn ei gwneud yn bwysicach nag erioed bod gan bob plentyn fynediad digidol, hyd yn oed pan fydd ysgolion yn ailagor."

Mae'r cynllun wedi ei gyflawni drwy gyllid gan Gyngor Caerdydd mewn partneriaeth â Chronfa Project Technoleg Addysg Llywodraeth Cymru i gefnogi plant yng Nghaerdydd sydd wedi methu â dysgu ar-lein tra bod ysgolion ar gau oherwydd COVID-19.

 

Cadw Plant yn Ddiogel Gartref: Gwybod, Gweld, Gweithredu

Yn ystod y cyfnod cloi, mae'n bwysiggwybody gallai rhai plant a phobl ifanc fod yn cael eu cam-drin a'u hecsbloetio gartref. Gall y camdrinwyr wneud iddynt gredu na ddylent byth ddweud wrth neb ac mai eu bai nhw yw'r cam-drin. Wedi'u cau i mewn gyda'u camdrinwyr, nid oes ganddynt fawr o gyfle i ddianc na dweud wrth neb.

Mae angen eich help ar y plant hyn. Fel cymydog neu weithiwr allweddol sy'n ymweld â chartrefi am unrhyw reswm, efallai mai chi fydd yr unig un i sylwi ar gamdriniaeth ac adrodd am y peth.

Os byddwch yngweldyr arwyddion hyn:

  • Ymddygiad gochelgar o amgylch unigolion penodol
  • Newidiadau sydyn mewn ymddygiad
  • Plant gyda chleisiau, llosgiadau, marciau brathu neu doresgyrn
  • Plant yn ymddangos yn dawel, yn bryderus neu'n ofnus
  • Clywed neu weld gweiddi neu drais tuag at blentyn
  • Plant wedi cael eu gweld yn cario neu'n defnyddio cyffuriau
  • Plant yn hwyr neu'n cyrraedd adref yn hwyr mewn gwahanol geir
  • Plant ar eu pen eu hunain yn ymweld â thŷ lle mai dim ond oedolion sy'n byw ynddo

Cofiwchweithreduar eich pryderon, hyd yn oed os ydych chi'n ansicr. Mewn argyfwng ffoniwch 999.

Ar gyfer pryderon plant ffoniwch yr Hyb Diogelu Amlasiantaeth ar 029 2053 6490.

Os oes gennych bryderon y tu allan i oriau, ffoniwch y Tîm Dyletswydd Brys ar 029 2078 8570.