01/06/20 - Wythnos Gwirfoddolwyr: Amser dweud diolch
Yr wythnos hon, rydyn ni'n dathlu gwirfoddolwyr o bob rhan o Gaerdydd, gan gynnwys criw Gyda'n gilydd dros Gaerdydd sy'n 1,200 o bobl, a ddaeth i lenwi'r bwlch pan oedd angen ar y ddinas.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23980.html
02/06/20 - Gwasanaethau Llyfrgell Clicio a Chasglu
O ddydd Llun 8 Mehefin bydd defnyddwyr llyfrgelloedd yn gallu archebu detholiad o lyfrau i'w casglu o un o'r pedwar hyb craidd sydd wedi aros ar agor drwy gydol y cyfnod cloi, wrth i'r Cyngor ddechrau ar y broses o ailddechrau gwasanaethau fesul cam o hybiau'r ddinas.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23993.html
03/06/20 - Every Little Helps yn cefnogi pobl sy'n agored i niwed
Mae 200 o ffonau symudol wedi'u rhoi i wasanaeth digartref Cyngor Caerdydd i gefnogi unigolion sy'n agored i niwed wrth iddynt symud oddi ar y strydoedd.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23999.html
04/06/20 - COVID-19: Cymorth i ymdrin ag urddas mislif pan fo'r ysgolion ar gau
Mae Cyngor Caerdydd yn parhau i ymdrin ag urddas mislif, er gwaetha'r ffaith bod ysgolion ar gau oherwydd COVID-19.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24005.html
04/06/20 - Cynllunio Ailddechrau ym maes Addysg
Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddoe (3 Mehefin, 2020) y bydd ysgolion yn ailagor o ddydd Llun 29 Mehefin, mae'r Cyngor yn ymgymryd â gwaith cynllunio gofalus i lunio cyfres o fesurau sydd â'r nod o ymateb i'r heriau a'r materion sy'n ymwneud ag ysgoliona darparwyr addysg eraill, yn symud allan o'r cyfnod cloi.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24013.html
04/06/20 - Ffeithlun COVID-19 5: Ymateb Cyngor Caerdydd mewn rhifau
Dros gyfnod argyfwng COVID-19, rydym wedi bod yn cynhyrchu cyfres o ffeithluniau, gan nodi ymateb Cyngor Caerdydd mewn rhifau. Dyma'r diweddaraf o'r ffeithluniau hyn.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24015.html
05/06/20 - Help i reoli eich arian
Mae Tîm Cyngor Ariannol Cyngor Caerdydd wedi datblygu gwefan newydd sbon i roi cymorth i drigolion ar ystod o faterion ariannol gan gynnwys cyllidebu, hawlio grantiau budd-daliadau a disgowntiau, cyngor ar ddyledion a sicrhau'r incwm mwyaf posibl.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24026.html
05/06/20 - Datgelu cynlluniau Caerdydd i ddod allan o'r cyfnod cloi fel un o ddinasoedd ‘mwyaf diogel' y DG
Creu systemau cerdded unffordd i ddiogelu'r cyhoedd, gosod mannau croesawu i esbonio sut bydd symud o amgylch canol y ddinas yn gweithio ac agor tiroedd Castell Caerdydd i greu sgwâr cyhoeddus ‘newydd' i fusnesau lleol ei ddefnyddio - yw dim ond rhai o'r cynlluniau mae Cyngor Caerdydd yn eu hystyried wrth iddo baratoi i adael cyfnod y cloi.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24029.html
05/06/20 - Eglurhad o fil £29m COVID-19 i Gyngor Caerdydd
Datgelwyd dadansoddiad o amcan gost ymateb i Covid-19 o £29m i Gyngor Caerdydd rhwng mis Ebrill a diwedd Mehefin mewn adroddiad i Gabinet yr awdurdod.
Darllenwch fwy yma: