Dyma ddiweddariad COVID-19 Cyngor Caerdydd, sy'n cynnwys: yr ardaloedd sy'n cael casgliadau gwastraff gardd dydd Sadwrn yma; cynllunio ailddechrau ym maes addysg Caerdydd; a COVID-19, ymateb Cyngor Caerdydd mewn rhifau.
Yr ardaloedd sy'n cael casgliadau gwastraff gardd dydd Sadwrn yma
Bydd yr ardaloedd yng Nghaerdydd y mae eu gwastraff yn cael ei gasglu ar Ddydd Llun yn cael casgliad gwastraff gardd ddydd Sadwrn yma, 6 Mehefin.
Bydd y casgliadau gwastraff gardd untro yn parhau yn ystod mis Mehefin a wythnos gyntaf mis Gorffennaf, fel y gall preswylwyr gael gwared ar eu toriadau glaswellt, brigau a changhennau bach, dail, a thoriadau planhigion a blodau.
Dyma'r unig fathau o wastraff y dylid eu rhoi yn eich bin olwynion gwyrdd neu eich bagiau amldro.
Hoffem atgoffa preswylwyr y dylent roi gwastraff gardd allan i'w gasglu yn eu biniau olwynion gwyrdd neu eu sachau gardd amldro yn unig.
Ni fydd unrhyw wastraff gardd ychwanegol a roddir mewn unrhyw gynhwysydd arall, gan gynnwys bagiau plastig, yn cael ei gasglu.
Os rhoddir eitemau anghywir yn y bin gwyrdd neu'r sachau amldro, caiff sticer pinc ei roi ar y cynhwysydd i hysbysu'r preswylydd bod eitemau anghywir wedi eu rhoi allan i'w casglu ac ni chaiff y gwastraff ei gasglu.
- Os yw eich diwrnod casglu arferol ar ddydd Llun, caiff eich gwastraff gardd ei gasglu ddydd Sadwrn, 6 Mehefin.
- Os yw eich diwrnod casglu arferol ar ddydd Mawrth, caiff eich gwastraff gardd gwyrdd ei gasglu ddydd Sadwrn, 13 Mehefin.
- Os yw eich diwrnod casglu arferol ar ddydd Mercher, caiff eich gwastraff gardd gwyrdd ei gasglu ddydd Sadwrn, 20 Mehefin.
- Os yw eich diwrnod casglu arferol ar ddydd Iau, caiff eich gwastraff gardd gwyrdd ei gasglu ddydd Sadwrn, 27 Mehefin.
- Bydd y casgliad untro olaf ar 4 Gorffennaf ar gyfer preswylwyr sydd fel arfer yn cael casgliadau gwastraff ar ddydd Gwener.
Mae'r wybodaeth ganlynol yn dangos pryd y bydd y casgliadau ychwanegol hyn yn digwydd ym mhob ward yn y ddinas.
Dydd Sadwrn 6 Mehefin -Creigiau/Sain Ffagan, Radur/Pentre Poeth, y Tyllgoed, Pentyrch, Tongwynlais, Trelái a Chaerau
Dydd Sadwrn 13 Mehefin- Treganna, Ystum Taf, Llandaf, Felindre, Butetown, Grangetown a Glan-yr-afon
Dydd Sadwrn 20 Mehefin -Cyncoed, Pentwyn, Plasnewydd, Gabalfa, Cathays a Phen-y-lan
Dydd Sadwrn 27 Mehefin -Pontprennau/Pentref Llaneirwg, Trowbridge, Llanrhymni, Adamsdown, Tredelerch a Sblot
Dydd Sadwrn 4 Gorffennaf -Rhiwbeina, Llanisien, Llys-faen, y Mynydd Bychan a'r Eglwys Newydd
Cynllunio Ailddechrauym maes Addysg
Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddoe (3 Mehefin, 2020) y bydd ysgolion yn ailagor o ddydd Llun 29 Mehefin, mae'r Cyngor yn ymgymryd â gwaith cynllunio gofalus i lunio cyfres o fesurau sydd â'r nod o ymateb i'r heriau a'r materion sy'n ymwneud ag ysgolion a darparwyr addysg eraill, yn symud allan o'r cyfnod cloi.
Mae adroddiad Cynllunio Ailgychwyn Caerdydd yn manylu ar sut gallai ysgolion weithredu yn dilyn y cyfnod cloi gan nodi cyfres o weithdrefnau a fydd â'r nod o gefnogi ysgolion, yn benodol i allu sicrhau diogelwch staff, disgyblion a rhieni a lleihau lledaeniad y feirws drwy weithredu mewn amgylchedd ymbellhau cymdeithasol.
Yn amodol ar ganllawiau gweithredol Llywodraeth Cymru a gaiff eu cyhoeddi i ysgolion yr wythnos nesaf, a law yn llaw â thystiolaeth wyddonol ac ymgynghoriad â phartneriaid allweddol, bydd mesurau'r Cyngor yn cynnwys:
• Gweithdrefnau iechyd a diogelwch newydd a fydd yn cynnwys asesiadau capasiti gofod ac asesiadau risg i nodi cyfaint, gosodiad celfi yn briodol, symud y llif a mannau allanol.
• Hylendid a glanhau i bennu trefn golchi dwylo, glanhau pwyntiau cyswllt a glanhau mannau ysgol yn drylwyr.
• Asesiadau capasiti gweithlu i sicrhau staffio priodol a pharatoi a chefnogi staff - i nodi ac ymateb i anghenion staff gan gynnwys hyfforddiant iechyd a diogelwch rhithiwr.
• Nodi cyfarpar ac adnoddau ychwanegol megis cyfarpar diogelu personol a phryd y bydd yn ofynnol ar sail cyngor clir yn seiliedig ar wybodaeth.
• Cymorth ychwanegol i ddisgyblion a staff ysgol ynghylch iechyd a lles, er enghraifft problemau perthnasol i drawma yn y teulu yn ogystal â materion yn ymwneud ag ynysu.
• Estyn palmentydd a llwybrau ar rai safleoedd ysgol i hwyluso ymbellhau cymdeithasol ac atal yr angen i ddefnyddwyr y ffordd sy'n agored i niwed gamu ar y ffordd.
• Cyflwyno cyfyngiadau 20mya dros dro ar ffyrdd o gwmpas ysgolion lle bo'n bosib ac ystyried cau ffyrdd dros dro yn ystod adegau gollwng a chodi plant.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Bydd llawer o blant ledled y ddinas yn gweld eisiau eu ffrindiau, eu hathrawon a'r drefn y mae'r ysgol yn ei chynnig. Rwy'n gwybod hefyd bod llawer o deuluoedd yn cael trafferthion yn gweithio o gartref ac yn addysgu gartref, bydd rhai rhieni a staff yn pryderu am blant yn dychwelyd i'r ysgol a byddwn ni'n gweithio i ddatrys hynny."
Darllenwch fwy yma:
https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/24013.html
Ffeithlun COVID-19 5: Ymateb Cyngor Caerdydd mewn rhifau
Dros gyfnod argyfwng COVID-19, rydym wedi bod yn cynhyrchu cyfres o ffeithluniau, gan nodi ymateb Cyngor Caerdydd mewn rhifau.Dyma'r diweddaraf o'r ffeithluniau hyn.
Mae'n casglu popeth o niferoedd Cyfarpar Diogelu Personol a gyflenwir, i'r miloedd o oriau a ddarperir mewn gofal cartref bob wythnos; y cannoedd o barseli bwyd a ddarparwyd; y miliynau a ddosbarthwyd mewn cymorth busnes; y miloedd o oriau gofal plant a ddarperir bob wythnos yn ein hysgolion; y miloedd o dunelli o wastraff a gasglwyd.
Mae'r rhestr yn mynd ymlaen, ond gallwch weld yr holl rifau ar eich cyfer chi eich hun:
#GweithioDrosGaerdydd #GweithioGydanGilydd #GweithioDrosochChi