Dyma'r diweddaraf ar COVID-19 gan Gyngor Caerdydd:mae gwasanaeth llyfrgell clicio a chasglu newydd yn cael ei gyflwyno yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf;Llinell Gyngor yn derbyn galwadau ar ran Cymorth Digidol Caerdydd; Gwasanaethau Byw'n Annibynnol yn mynd i'r afael ag allgau cymdeithasol drwy sgwrsio ar-lein; a Newidiadau i gasgliadau gwastraff oddi ar ymyl y ffordd o 1 Mehefin.
Gwasanaethau Llyfrgell Clicio a Chasglu
Mae gwasanaeth llyfrgell clicio a chasglu newydd yn cael ei gyflwyno yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf.
O ddydd Llun 8 Mehefin bydd defnyddwyr llyfrgelloedd yn gallu archebu detholiad o lyfrau i'w casglu o un o'r pedwar hyb craidd sydd wedi aros ar agor drwy gydol y cyfnod cloi, wrth i'r Cyngor ddechrau ar y broses o ailddechrau gwasanaethau fesul cam o hybiau'r ddinas.
Bydd cam 1 yr adferiad yn galluogi cwsmeriaid i archebu llyfrau ymlaen llaw naill ai drwy gatalog ar-lein Llyfrgelloedd Caerdydd neu drwy ffonio llinell ffôn llyfrgell newydd lle byddant yn cael cynnig dewis o bum llyfr yn seiliedig ar eu diddordebau a genres a ffefrir.
Yna bydd staff y llinell llyfrgell yn trefnu slot amser pan fydd modd casglu'r llyfrau, o un o'r pedwar hyb - Hyb y Llyfrgell Ganolog, Hwb Trelái a Chaerau, Hwb Llaneirwg a The Powerhouse, Llanedern. Ceir benthyg y llyfrau am y cyfnod arferol sef tair wythnos a bydd angen eu dychwelyd i'r un hyb y cawson nhw eu casglu ohono, trwy apwyntiad.
Y llinell ffôn llyfrgell newydd yw 029 2087 1071. Dylai cwsmeriaid ddewis opsiwn 2. Mae catalog y llyfrgelloedd ar gael yma https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/cy_GB/card_cy/ lle gall trigolion hefyd ddod yn aelodau newydd o'r gwasanaeth llyfrgell neu ailosod eu PIN.
Gellir dosbarthu llyfrau i gartrefi pobl yng Nghaerdydd os na allant ymweld â'r hybiau am eu bod yn hunan-warchod neu'n hunan-ynysu. Bydd staff yn ffonio neu'n e-bostio cwsmeriaid i roi gwybod am y slotiau dosbarthu sydd ar gael.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Rydyn ni'n falch iawn o allu cynnig y gwasanaeth llyfrgell clicio a chasglu newydd hwn i gwsmeriaid. Rydym yn gwybod bod pobl wedi methu defnyddio ein hybiau a'n llyfrgelloedd dros y misoedd diwethaf felly mae hwn yn gam cadarnhaol ymlaen wrth i ni weithio ar y gwaith o adfer ac ailagor ein cyfleusterau fesul cam.
"Mae'n bwysig cofio nad yw'r pedwar hyb lle bydd y gwasanaeth newydd hwn yn cael ei ddarparu ohonynt ar agor fel arfer ac nid yw'r gwasanaeth llyfrgell yn gwbl weithredol eto. Bydd angen i gwsmeriaid gasglu a dychwelyd llyfrau ar amser penodol er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cadw at fesurau ymbellhau cymdeithasol a helpu i gadw ein staff a'n cwsmeriaid yn ddiogel.
"Rwyf hefyd yn falch ein bod yn gallu bodloni anghenion ein cwsmeriaid hŷn ac agored i niwed drwy ddarparu gwasanaeth dosbarthu i'r cartref, fydd yn galluogi'r rhai sy'n hunan-warchod neu'n hunan-ynysu i aros gartref. Rydym hefyd yn treialu benthyca teclynnau darllen â llyfrau wedi'u llwytho arnynt i gwsmeriaid sy'n gaeth i'r tŷ, y gellid ei gyflwyno'n ehangach, os bydd yn llwyddiannus."
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23993.html
Llinell Gyngor yn derbyn galwadau ar ran Cymorth Digidol Caerdydd
Yn gynharach eleni lansiodd Dysgu i Oedolion Caerdydd Gymorth Digidol Caerdydd i gynnig gwasanaethau fel clybiau cymdeithasol digidol, cymorthfeydd digidol a sesiynau sgiliau digidol sylfaenol mewn sawl lleoliad ar draws y ddinas.
Ers i bandemig Covid-19 ddechrau, maent wedi bod yn cynorthwyo unigolion i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd digidol, cynnig arweiniad a chymorth gam wrth gam i'r rhai sy'n dysgu sut i ddefnyddio eu dyfeisiau. Maent hefyd wedi bod yn cefnogi'r trydydd sector a'r sectorau gwirfoddol megis Cardiff People First a'r rhwydwaith 50+ gydag atebion digidol, cymorth a hyfforddiant. Mae Cymorth Digidol Caerdydd yn pontio i gynnig gwasanaeth ar-lein. Bydd y tîm yn cydweithio â'r tîm Sgiliau Hanfodol a fydd yn gallu helpu staff gyda sgiliau digidol sylfaenol.
Mae Llinell Gyngor y Cyngor bellach yn derbyn ymholiadau ar ran y Gwasanaethau Cymorth Digidol. Mae'r dull hwn yn golygu y gall hyd yn oed mwy o aelodau o'r gymuned a staff gael eu cefnogi dros y ffôn yn hytrach na dibynnu ar ddulliau digidol er mwyn cysylltu.
Mae gwasanaeth Cymorth Digidol Caerdydd yn agored i holl drigolion Caerdydd ac aelodau o staff Cyngor Caerdydd sydd angen help gyda sgiliau digidol sylfaenol.
Cysylltwch â Cymorth Digidol Caerdydd os hoffech gael help:
Ffoniwch y Llinell Gyngor a gofyn am Gymorth Digidol ar 029 2087 1071.
E-bostiwch: dysguioedolioncaerdydd@caerdydd.gov.uk
Llenwch ffurflen ymholi yn: https://form.jotform.com/201123417217038
Gwefan: https://www.adultlearningcardiff.co.uk/cy/
Facebook: @digisupportcardiff
Twitter: @digisupcardiff
Instagram: @digisupportcardiff
Gwasanaethau Byw'n Annibynnol yn mynd i'r afael ag allgau cymdeithasol drwy sgwrsio ar-lein
Mae cyfarfodydd rhithwir, a gefnogir gan Wasanaethau Byw'n Annibynnol y Cyngor, yn helpu grŵp o bobl oedrannus i gadw mewn cysylltiad yn ystod cyfnod y cloi.
Mae'r sgyrsiau wythnosol a gynhelir ar-lein ar blatfform Zoom yn sicrhau bod aelodau Clwb Cymdeithasol Memory Lane, a arferai gyfarfod bob dydd Mawrth yng Nghanolfan Gymunedol Cathays cyn argyfwng COVID-19, yn cael gweld wynebau cyfeillgar, cyfarwydd a chael cyfle amhrisiadwy i ryngweithio'n gymdeithasol yn ystod cyfnod anodd hwn.
Cyn y Coronafeirws, roedd y cyfarfodydd wythnosol yn cael eu cefnogi gan staff Gwasanaethau Byw'n Annibynnol ac yn cael eu cynnal i roi cyfle i bobl â demensia a'u gofalwyr gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau megis bowls, canu, dawnsio a hel atgofion dros baned o de. Roedd swyddogion ymgysylltu â'r gymuned y tîm yn cyfeirio pobl yn rheolaidd at y cyfarfodydd.
Bellach mae'r cyfarfodydd cael eu cynnal ar-lein ar Zoom a drefnir gan Phill Racz, sy'n rhedeg y grŵp, lle mae aelodau'n cymryd rhan mewn cwisiau, yn gwrando ar gerddoriaeth ac yn cael sgwrs.
Dywedodd Jo Davies, Cydlynydd Cymunedol Gwasanaethau Byw'n Annibynnol: "Rwy'n ymuno â Phill yn y cyfarfod i gefnogi'r grŵp. Dywedodd yr Aelodau a gymerodd ran ei bod yn wych gweld wynebau pobl. "
Cynhelir Clwb Cymdeithasol Memory Lane bob dydd Mawrth am 2pm. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Phill.Racz@cathays.org.uk
Newidiadau i gasgliadau gwastraff oddi ar ymyl y ffordd o 1 Mehefin
O ddydd Llun 1 Mehefin, bydd casgliadau wythnosol wrth garreg y drws ar gyfer deunydd ailgylchadwy a gwastraff bwyd yn dychwelyd i'r gwasanaeth arferol, a dylai preswylwyr gofio i roi'r eitemau cywir yn y cynwysyddion cywir fel y gall y Cyngor ailgylchu a chompostio cymaint o wastraff â phosibl.
Gofynnir i breswylwyr ddechrau defnyddio eu cadis bwyd brown ar ymyl y ffordd unwaith eto o ddydd Llun, a gwneud yn siŵr bod eu holl ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu yn mynd i mewn i'w bagiau gwyrdd i'w casglu.
Mae cyfleuster didoli ailgylchu Caerdydd, lle caiff bagiau gwyrdd y ddinas eu didoli a'u prosesu i'w hailgylchu, yn cael eu hailagor sy'n golygu na fydd gwastraff ailgylchadwy yn cael ei anfon i gyfleuster adfer ynni mwyach.
Rhoddwyd y mesur hwn ar waith er mwyn diogelu ein staff a'r cyhoedd yn ystod ymateb y Cyngor i'r pandemig COVID-19.
Bydd gwastraff a gesglir yn y biniau du neu fagiau streipiau coch yn awr yn mynd yn ôl i gael ei gasglu unwaith bob pythefnos a dylai preswylwyr gofio na fydd unrhyw wastraff ochr yn cael ei gasglu.
Mae rhestr o gwestiynau ac atebion ar y newidiadau i gasgliadau ymyl y ffordd yma: